Psalmau 141 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. cxlj.Psalm Dafydd.

1Arglwydd gelwais arnat: bryssia attaf: clyw fy llais pan lefwyf arnat.

2Cyfeirer fyng-weddi i’th ŵydd di arogldarth, derchafiad fy nwylo offrwm prydnhawnol.

3Gosot Arglwydd gadwriaeth o flaen fyng-enau: cadw ddrws fyng-wefusau.

4Na ostwng fyng-halon at ddim drwg i ddychymmygu dychymmygion mewn drygioni gyd a’r gwŷr a weithredant anwiredd: ac na ad ti i mi fwyta oi danteithion hwynt.

5Cured y cyfiawn fi yn garedig, a cherydded fi: na thorred holew, pennaf fy mhen: canys fyng-weddi etto yn erbyn eu drygioni hwynt.

6Tafler eu barn-wŷr i lawr mewn lleoedd carregoc, fel y clywant fyng-eiriau, canys melus ydynt.

7Y mae ein hescyrn ar wascar ar fin y bedd, megis yn torri, neu yn cymmynu ar y ddaiar.

8Eithr arnat ti ô Arglwydd Dduw fy llygaid: ynot ti y gobeithiais, na fwrw fy enaid allan.

9Cadw fi rhag y fagl a osodasant i mi: a hoenynnau gweithred-wŷr anwiredd.

10Cyd-gwymped y rhai annuwiol yn eu rhwydau eu hun, hyd onid elwyfi heibio.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help