Caniadau Salomon 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.Mwynaidd a hyfryd ymddiddannion rhwng Crist ai eglwys mewn serch ysprydol.

1CAN CANIADAV SALOMON.

2Cusaned fi â chusanau ei fîn, canys gwell yw dy gariad nâ gwîn.

3O herwydd arogl dy ennaint daionus, olew tywalltedic dy enw: am hynny y llangcesau a’th garant.

4 Ioan.6.44. Tynn fi ni a redwn ar dy ôl, y brenin a’m dug iw stafellau, ni a ymhyfrydwn, ac a ymlawenhawn ynot, ni a goffawn dy gariad yn fwy nâ gwin, y rhai iniawn ydynt yn dy gâru.

5Du fi (merched Ierusalem) a hawddgar fel pebyll Cedar, fel llenni Salomon.

6Nac edrychwch arnaf am fy yn ddu ac am i’r haul fyng-hanfod: meibion fy-mam a ddigiâsant wrthif, gosodâsant fi i gadw gwin-llannoedd fyng-winllan fy hun ni’s cedwais.

7Mynêga i mi’r hwn a hoffodd fy enaid pa lê y porthi pa le y gorweddfeûi hanner dydd? canys pa ham y byddaf megis yn ymdroi ym mysc ddiadellau dy gyfeillion?

8Oni ŵyddost o honot ty hun y deccaf o’r gwragedd? dos allan rhagot ar hŷd ôl y praidd, a phortha dy fynnod ger llaw preswylfeudd y bugeiliaid.

9I’r meirch yng-herbydau Pharao i’th gyffelybais fyng-hyfeilles.

10Hawddar yw dy ruddiau yn y tlyssau, a’th wddf yn y cadwyni.

11Tlyssau o aur, a boglynnau o arian a wnawn i ti.

12Tra y brenin ar ei fwrdd, fy Nardus i a roddodd ei arogl.

13Fy annwylyd sydd i’m yn bwysi myrh, rhwng fy mronnau’r erys.

14Cangen o rawn Camphyr yw fy annwylyd i mi yng-winllannoedd Engedi.

15Wele di yn deg fyng-hyfeilles, wele di yn hyfryd, ti lygaid colomennod.

16Wele di fy annwylyd yn deg, ac yn hawddgar: ein gwely hefyd îr.

17Swmmerau ein tai cedr-wŷdd, ein distiau ffynid-wŷdd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help