1Baich Babilon yr hwn a welodd Esay mab Amos.
2Derchefwch faner ar y mynydd goruchel, derchefwch lef attynt, cyfodwch law, ac ânt i fewn pyrth y pendefigion.
3Myfi a orchymynnais i’m rhai sancteiddiol, gelwais hefyd fyng-hedyrn yn fy nigter, y rhai a ymhyfrydant yn fy mawredd.
4Llêf tyrfa yn y mynyddoedd, yn gyffelyb i bobl lawer: sŵn twrwf teyrnasoedd y cenhedloedd wedi ymgynnull, Arglwydd y lluoedd sydd yn cyfrif llu y rhyfel.
5Dyfod y maent o wlâd bell, o eithaf y nefoedd: yr Arglwydd, ac arfau ei lidiawgrwydd ef i ddifa’r holl dîr.
6Udwch, canys agos yw diwrnod yr Arglwydd: megis anrhaith oddi wrth yr Holl-alluog y daw.
7Am hynny’r holl ddwylo a laesi: a phob calon dyn a dawdd.
8A hwynt a ddychrynir, gwewyr, a doluriau ai deil hwynt, megis yn escor yr ymofidiant, pawb wrth ei gyfaill a ryfeddant, ai hwynebau wynebau fflamllyd.
9Wele ddydd yr Arglwydd yn dyfod yn greulon, a digofaint, a digter llidiog, i osod y wlâd yn ddiffaethwch: ai phechaduriaid a ddifa efe allan o honi.
10 Ezec.32.7. Ioel.3.15. Matt.24.29 Canys sêr y nefoedd ai planedau ni roddant eu llewyrch: yr haul a dywyllir yn ei godiad, a’r lloer ni oleua ai llewyrch.
11A mi a ymwelaf a’r byd ddrygioni, ac a’r annuwiolion eu hanwiredd: a gwnaf i falchder y rhai rhyfygus beidio: gostyngaf hefyd vchter y rhai ofnadwy.
12Gwnaf ddŷn yn werthfawrocach nag aur coeth, ie dŷn nâ chun o aur Ophir.
13Am hynny y cyffroaf y nefoedd, a’r ddaiar a gryna oi lle gan ddigofaint Arglwydd y lluoedd, ac yn nydd llîd ei ddigter ef.
14A fydd megis ewig darfedic, ac fel dafad heb neb ai coleddo: pawb a wynebant at eu pobl eu hun, a phawb iw gwlad eu hun a ffoant.
15Pob vn a geffir ynddi a drywenir: a phawb a chwaneger a syrth drwy’r cleddyf.
16Eu Psal.137.9.plant hefyd a ddryllir o flaen eu llygaid: eu tai hwynt a yspeilir, ai gwragedd a dreissir.
17Wele fi yn cyfodi y Mediaid yn eu herbyn hwy: y rhai ni roddant frî ar arian: a’r aur ni hyfrydant ynddo.
18Eu bwâu y drylliant y plant, ac ffrwyth bru ni thosturiant: eu llygad nid eiriach morr meibion.
19Yna Babilon (prydferthwch y teyrnasoedd, gogoniant rhyfyg y Caldeaid) fydd megis y dinistr Duw Gen.19.24.|GEN 19:24. Ier.50.40ar Sodoma, a Gomorra.
20Ni chyfanneddir hi yn dragywydd, ac ni phresswylir hi o genhedlaeth i genhedlaeth: ac ni phabella yr Arabiad yno, a’r bugeiliaid ni chorlannant yno.
21Onid Esa.34.14. Ier.50.39. Soph. 2.14anifeiliaid gwylltion a orweddant yno, ai tai hwynt a lenwir o ormessiaid, a chywion yr estris a drigant yno: a’r ellyllon a lammant yno.
22A’r cathod a gydattebant yn ei gweddwdai hi, a’r dreigiau yn y palasoedd hyfryd: ai hamser yn agos i ddyfod, ai dyddiau nid oedir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.