1Fel hyn y dywed yr Arglwydd, dos di i wared i dŷ brenin Iuda, a llefara yno y geiriau hyn:
2A dywet, gwrando air yr Arglwydd frenin Iuda yr hwn wyt yn eistedd ar frenhin-faingc Dafydd, ti a’th weision a’th bobl y rhai ydynt yn dyfod trwy yr pyrth hynn.
3Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Ier.21.12.gwnewch farn a chyfiawnder, a gwaredwch y gorthrymmedic o law y gorthrymmwr: na thristewch, ac na threisiwch y dieithr, yr ymddifad na’r weddw, ac na thywelltwch waed gwirion yn y lle hwn.
4Canys os gwnewch y peth hyn, daw drwy byrth y tŷ hwn frenhinoedd yn eistedd ar deyrngader Dafydd, Ier.17.25.yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch, efe ai weision, ai bobl.
5Ac oni wrandewch y geiriau hyn, i’m fy hun y tyngais (medd yr Arglwydd) mai yn anghyfannedd y bydd y tŷ hwn.
6Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd am dŷ brenin Iuda, Gilead ti i mi yn benn a’r Libanus, on i’th osodaf yn ddiffaethwch y dinasoedd anghyfanneddol?
7Paratoaf hefyd i’th erbyn anrheith-wŷr, pob vn ai arfau, a hwynt a dorrant dy ddewis cedr-wŷdd, ac ai bwriant i’r tân.
8A chenhedloedd lawer a ânt heb law y ddinas hon, Deut.29.24. 1.Bren.9.4.ac a ddywedant pob vn wrth ei gilydd: pa ham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn, i’r ddinas fawr hon?
9Yna yr attebant, am iddynt ymwrthod â chyfammod yr Arglwydd eu Duw hwynt, ac addoli duwiau dieithr ai gwasanaethu hwynt.
10Nac wylwch dros y marw, ac na ymofidiwch am dano: gan wylo wylwch am yr hwn sydd yn myned canys ni ddychwel mwyach i weled gwlad ei anedigaeth.
11Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am Selum fab Iosia brenin Iuda yr hwn a deyrnasodd yn lle Iosia ei dâd: yr hwn a aeth ymmaith o’r lle hwn, ni ddychwel efe yno mwyach
12Eithr yn y lle y caeth-gludir ef iddo, yno y bydd efe marw: ac ni wêl efe y wlad hon mwyach.
13Gwae yr hwn a adailado ei dŷ mewn anghyfiawnder, ai stafellau yn anheilwng: gan beri iw gymmydog ei wasanaethu yn rhâd, ac heb roddi iddo ei gyflog.
14Yr hwn a ddywed, mi a adailadaf i mi dŷ mawr, a stafellau helaeth, ac efe a nadd iddo ffenestri a llofft o cedr-wŷdd wedi ei liwio â fermilon.
15A gei di deyrnasu, am i ti ymgaeu mewn cedr-wŷdd? oni fwytaodd, ac oni yfodd dy dâd, ac oni bu dda iddo, tra y gwnaeth efe farn, a chyfiawnder?
16Tra y rhoddodd efe farn am gŵyn y truan, a’r tlawd, yna y llwyddodd: ond fy adnabod i hyn medd yr Arglwydd?
17Er hynny dy lygaid ti a’th galon nid onid ar dy fudd, ac ar dywallt gwaed gwirion, ac ar wneuthur trais, a cham.
18Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am Iehoacim fab Iosia frenin Iuda, ni alarant am dano ô fy mrawd, neu ô fy chwaer: ni alarant am dano ef oh Ior, neu oh ei ogoniant ef.
19Fel 2.Bren.24.9.assyn y cleddir ef wedi ei lusco ai daflu allan o byrth Ierusalem.
20Dring i Libanus a gwaedda, dot ti dy lef yn Basan, a bloeddia yn y bylchau: canys pob anwylyd i ti a ddinistriwyd.
21Dywedais wrthit pan oedd esmwyth arnat, tithe a ddywedaist, ni wrādawaf: dymma dy arfer o’th ieuenctid, sef na wrandewit ar fy llais.
22Y gwynt a bortha dy holl fugeiliaid, a’th gariadau a ânt i gaethiwed: yna i’th gywilyddir ac i’th wradwyddir am dy holl ddrygioni.
23Ti yr hon wyt yn trigo yn Libanus, wedi nythu yn y cedr-wŷdd, pa hawddgarwch fydd i ti pan ddelo gwewyr arnat cnofeudd yn escor?
24[Fel] yr ydwyf yn fyw medd yr Arglwydd, pe bydde Conanias mab Iehoacim brenin Iuda yn fodrwy ar fy neheulaw: diau y tynnwn di oddi yno.
25Ac mi â’th roddaf di yn llaw y rhai sy yn ceisio dy enioes, ac yn llaw y rhai y mae arnat ofn eu hwynebau, sef i law Nabuchodonosor brenin Babilon, ac i law y Caldeaid.
26Bwriaf dithe hefyd, a’th fam yr hon a’th escorodd i wlâd ddieithr yr hon ni’th anwyd ynddi: ac yno y byddwchi farw.
27ac am y wlâd y bydd yr hon y bydd arnynt hiraeth am ddychwelyd iddi, ni ddychwelant yno.
28Ai delw ddirmygus, ddrylliedic y gŵr hwn Conanias? ai ynte llestr heb hoffter iddo? pa ham y bwriwyd ymmaith ef ai hâd, ac y taflwyd ef i wlâd yr hon nid adwaenent?
29O ddaiar, ddaiar, ddaiar, gwrando air yr Arglwydd.
30Fel hyn y dywed yr Arglwydd, scrifennwch y gŵr hwn y ddiblant: gŵr ni ffynna yn ei ddyddiau, ie ni ffynna oi hâd ef vn a eisteddo ar orseddfa Dafydd, nac a lywodraetho mwyach yn Iuda.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.