Habacuc 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Gweddi Habacuc.

1Gweddi Habacuc y prophwyd dros anwybodaethau.

2Clywais ô Arglwydd dy air ofnais, ô Arglwydd bywha dy waith yng-hanol y blynyddoedd, par di ei ŵybod yng-hanol y blynyddoedd, yn gyffro coffa drugarhau.

3Duw sydd yn dyfod o Theman, a’r Sanctaidd o fynydd Paran, Selah. ei foliant a doa y nefoedd, a’r ddaiar a lanwyd oi fawl.

4Ai lewyrch oedd fel goleuni, cyrn iddo oi law ei hun: Psal.31.16.ac yno cuddiad ei gryfder.

5Aeth haint oi flaen ef, ac aeth marwor allan o flaen ei draed ef.

6Safodd a mesurodd y ddaiar, edrychodd, a datododd y cenhedloedd: mynyddoedd tragywyddol hefyd a ddrylliwyd, a brynnau oesol a grymmasant, llwybrau tragywyddol iddo.

7O herwydd anwiredd gwelais wersyllau Cusan crynod llennau tîr Midian.

8A sorrodd yr Arglwydd wrth yr afonydd? ai wrth yr afonydd dy ddig? ai wrth y môr dy ddigofaint gan it farchogeth ar dy feirch? dy gerbydau a ddugasant iechydwriaeth.

9Llwyr noethwyd dy fŵa, llwon y llwythau hefyd wir, Selah.Num.20.11.holldaist y ddaiar ag afonydd.

10Y mynyddoedd a’th welsant a grynasant, y llifeiriant dwfr a aeth heibio, y dyfnder a wnaeth dwrf: cyfododd ei ddwylo yn vchel.

11 Iosua.10.12. Yr haul lleuad a safodd yn eu presswylfa, wrth oleuad dy saethau yr aethant, wrth lewyrch disclairder dy waiw-ffyn.

12Yn dy lid y sethri y ddaiar, a dyrni y cenhedloedd yn dy ffromder.

13Aethost allan er iechydwriaeth dy bobl, er iechydwriaeth yng-hyd a’th eneiniog, torraist y pen oddi wrth dŷ’r anwir hyd y gwddf: gan ddinoethi y sylfaen.Selah.

14Gwanaist ben ei faes-drefydd ai ffynn ei hun, rhyferthwyasant i’m gwascarn, ymlawenhasant megis i fwytta y tlawd mewn dirgelwch.

15Rhodiaist a’th feirch ar y môr, dwrr o ddyfroedd lawer.

16Clywais, a’m bol a ddychrynodd, fyngwefusau a grynasant wrth y llef: daeth pydredd i’m hescyrn, ac yn fy lle y crynais, am fod yn llonydd ddydd trallod, pan dderchafo at y bobl, yn lluoedd y difetha efe hwynt.

17Canys y ffigus-bren ni flodeua, ac ni ffrwyth ar y gwin-wŷdd, gwaith yr oliwydd a balla, a’r meusydd ni roddant fwyd: torrir ymmaith y praidd o’r gorlan, ac ni eidion yn eu beudai.

18Onid mi a lawenychaf yn yr Arglwydd, mi a fyddaf hyfryd yn-Nuw fy iechydwriaeth.

19Yr Arglwydd Dduw fy nerth, a’m traed a osododd efe fel ewigod: ac a wnaeth i’m rodio ar fy vchel leoedd. At y pencerdd ar y Neginoth.

Terfyn prophwydoliaeth Habacuc.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help