Esay 14 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIIII.Dychweliad y bobl o gaethiwed. Dinistr y Babiloniaid, a’r Philistiaid.

1Canys yr Arglwydd a dosturia wrth Iacob, ac a ddethol Israel etto, ac a bar iddynt orphywys yn eu tîr eu hunain: a’r dieithr a ymgysyllta â hwynt, ac hwy a lynant wrth dŷ Iacob.

2Y bobl hefyd ai cymmer hwynt, ac ai dygant iw llê eu hun, a thŷ Israel ai meddianna hwynt yn 2.Cor.10.5.nhŷ yr Arglwydd yn weision, ac yn forwynion: a hwynt a gaethiwant y rhai ai caethiwodd hwythau, ac a lywodraethant ar eu gorthrym-wŷr.

3A bydd yn y dydd y rhoddo’r Arglwydd lonyddwch i ti oddi wrth dy flinder, ac oddi wrth dy ddychryn, ac oddi wrth y caethiwed caled yr hon a wasanaethaist,

4Yna y cymmeri y ddameg hon yn erbyn brenin Babilon, ac y dywedi: pa wedd y peidiodd y gorthrymmwr? ac y peidiodd y dreth aur?

5Yr Arglwydd a ddrylliodd ffonn yr anwiriaid theyrn-wialen y llywawd-wŷr.

6Yr hon sydd yn taro y bobloedd mewn digllonedd a phlâ gwastadol, yr hon sydd yn llywodraethu y cenhedloedd mewn llidiawgrwydd, heb luddio erllid

7Gorphywysodd llonyddodd yr holl dîr, canasant o lawenydd.

8Y ffynid-wŷdd hefyd chedr-wŷdd Libanus a lawenhasant yn dy erbyn er pan orweddaist ni ddringodd cymmynydd arnom.

9Uffern oddi tanodd a grynodd i’th erbyn wrth gyfarfod a’th ddyfodiad, cyfododd rhai meirw holl dywysogion y tîr: cyfododd holl frenhinoedd y cenhedloedd oi gorseddfaon.

10Y rhai hynny oll a attebant, ac a ddywedant wrthit: a wanhauwyd tithe fel ninnau? a aethost ti yn gyffelyb i ni?

11Discynnwyd dy falchder i vffern, trwst dy nablau: tannat y tênir pryf, pryfed hefyd a’th doant.

12Pa fodd y syrthiaist o’r nefoedd Lusiffer mab y wawr ddydd? i’th dorrwyd ti i lawr yr hwn a wanheaist y cenhedloedd?

13Canys ti a ddywedasyd yn dy galon, mi a ddringaf Psal.48.2.i’r nefoedd, oddi ar sêr Duw y derchafaf fyng-orseddfa, ac mi a eisteddaf ym mynydd y gynnulleidfa ar ystlyssau y gogledd.

14Dringaf yn vwch na’r cwmylau, tebyg fyddaf i’r Goruchaf.

15Er hynny i vffern i’th ddescynnir i ystlysau yr ffôs.

16Y rhai a’th welant a edrychant arnat, a feddyliant am danat: ai dymma y gŵr a ddychrynnodd y tîr, gan gynhyrfu teyrnasoedd?

17A osododd y byd fel anialwch, ac a ddinistriodd ei ddinasoedd, heb ollwng ei garcharorion adref?

18Holl frenhinoedd y cenhedloedd a orweddasant mewn gogoniāt bob vn yn ei dŷ ei hun.

19Eithr ty di a fwriwyd allan o’th fedd fel cangen ffiaidd wîsc y lladdedigion y rhai a drywanwyd â chleddyf: y rhai a ddescynnent ym mysc cerrig y ffôs, fel celen sathredic

20Ni byddi mewn vn bedd â hwynt, o herwydd dy dîr dy hun a ddifethaist, a’th bobl a lleddaist: ni bydd hâd yr annuwiol enwog bŷth.

21Darperwch laddfa iw feibion ef, am anwiredd eu tadau, rhac codi o honynt a gorescyn y tîr, a llenwi wyneb y byd â gelynnion.

22Minne a gyfodaf yn eu herbyn hwynt medd Arglwydd y lluoedd, ac a dorraf allan o Babilon henw a hiliogaeth, sef mab ac ŵyr medd yr Arglwydd.

23Ac ai gosodaf hi yn feddiant draenogiaid, ac yn byllau dyfroedd: yscubaf hi hefyd, ag yscubau destruw medd Arglwydd y lluoedd.

24Tyngodd Arglwydd y lluoedd gan ddywedyd: onid megis yr amcenais, felly y bydd: ac fel yr ymgynghorais, hynny a saif,

25Am ddryllio Assur yn fy nhîr, canys sathraf ef ar fy mynyddoedd, fel y cilio ei iau ef oddi arnynt, ac y symmuder ei faich ef oddi ar eu hyscwyddau hwynt.

26Dymma y cyngor a gymmerwyd am yr holl ddaiar, ac dymma y llaw a estynnwyd ar yr holl genhedloedd.

27O herwydd Arglwydd y lluoedd a ymgynghorodd, a phwy ai diddymma? ei law ef hefyd a estynnwyd, a phwy ai detry.

28Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Ahaz, y bu Esa.13.1.y bygwth hwn.

29Palestina na lawenycha di yn hollawl er torri gwialen dy darawydd: o herwydd o wreiddyn y sarph y daw gwiber allan, ai ffrwyth hi fydd sarph danllyd hedegoc.

30Yna y porthir cyn-blant y tlodion, a’r rhai anghenus a orweddant mewn diogelwch: eithr lladdaf dy wreiddyn di â newyn, yntef a ladd dy weddill.

31Uda borth, gwaedda ddinas, Palestina ti oll a doddwyd: canys mwg sydd yn dyfod o’r gogledd, ac ni neulltuol yn ei amseroedd nodedic ef.

32A pha beth a attebir i gennadau y cenhedloedd? eithr seilio o’r Arglwydd Sion, ac y gobeithia trueniaid ei bobl ef ynddi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help