1A Chasclodd Dafydd etto’r holl etholedigion yn Israel deng-mîl ar hugain,
2 1.Cron.13.5. Dafydd a gyfododd, ac a aeth, a’r holl bobl y rhai gyd ag ef o Baal Iuda i ddwyn i fynu oddi yno Arch Dduw, enw’r hon a elwir enw Arglwydd y lluoedd yr hwn sydd yn aros arni y Cerubiaid.
3A hwy a osodasant Arch Dduw ar fenn newydd, ac ai dugasāt hi o dŷ Abinadab yr hwn yn Gibeah: Uzza hefyd, ac Ahio meibion Abinadab oeddynt yn gyrru y fenn newydd.
4A hwy ai dugasant hi 1.Sam.7.2.o dŷ Abinadab yr hwn yn Gibeah, gyd ag Arch Dduw: ac Ahio oedd yn myned o flaen yr Arch.
5Dafydd hefyd a holl dŷ Israel oeddynt yn chware ger bron yr Arglwydd a phob o goed ffynnidwydd: sef a thelynau, ac a Nablau, ac a thympanau, ac ag vdcyrn, ac a cymbalau.
6Pan ddaethant hyd lawr dyrnu 1.Cron.13.9.Nachon: yna Uzza a estynnodd ei law at Arch Dduw, ac a ymaflodd ynddi hi, canys ’r ŷchen a ledpeiasent.
7A digofaint yr Arglwydd a lidiodd wrth Uzza, a Duw’ai tarawodd ef yno am yr amryfusedd hyn: ac efe a fu farw yno wrth Arch Dduw
8A bu ddrwg gan Ddafydd am i’r Arglwydd rwygo rhwygiad yn Uzza: ac efe a alwodd y lle hwnnw Perets Uzza hyd y dydd hwn.
9A Dafydd a ofnodd yr Arglwydd y dydd hwnnw, ac a ddywedodd, pa fodd y daw Arch yr Arglwydd attafi i mewn?
10Ac ni fynne Dafydd droi Arch yr Arglwydd atto ef i ddinas Dafydd: ond Dafydd a barodd eithroi hi i dŷ Obed Edom y Gethiad.
11Ac Arch yr Arglwydd a arhosodd yn nhŷ Obed Edom y Gethiad dri mis: a’r Arglwydd a fendithiodd Obed Edom, ai holl dŷ.
12A mynegwyd i’r brenin Dafydd gan ddywedyd, yr Arglwydd a fendithiodd dŷ Obed Edom, a’r hyn oll ganddo 1.Cron.15.25.er mwyn Arch Dduw: yna Dafydd a aeth, ac a ddûg i fynu Arch Dduw o dŷ Obed Edom, i ddinas Dafydd mewn llawenydd.
13A phan gychwynnodd y rhai oeddynt yn dwyn Arch yr Arglwydd chwech o gammau: yna efe a offrymmodd ŷch, ac brâs.
14A Dafydd a ddawnsiodd ai holl egni ger bron yr Arglwydd: a Dafydd a ymwregysodd hefyd ag Ephod liain.
15Felly Dafydd, a holl dŷ Israel a ddugasant i fynu Arch yr Arglwydd, drwy floddest, a sain vdcorn.
16Pan oedd Arch yr Arglwydd yn dyfod o mewn i ddinas Dafydd: yna Michol merch Saul a edrychodd drwy yr ffenestr, ac a ganfu y brenin Dafydd yn ymwrôli, ac yn llemmen o flaen yr Arglwydd, a hi ai dirmygodd ef yn ei chalon.
17A phan ddugasant hwy Arch yr Arglwydd, hwy ai gosodasant hi yn ei lle yng-hanol y babell, yr hon a estynnase Dafydd iddi: yna Dafydd a offrymmodd boeth offrymmau, ac offrymmau hedd ger bron yr Arglwydd.
18Pan orphennodd Dafydd offrymmu poeth offrwm ac offrymmau hedd: 1.Cron.18.2.yn a efe a fendithiodd y bobl yn enw Arglwydd y lluoedd.
19Ac efe a rannodd i’r holl bobl, i holl dyrfa Israel, yn ŵr, ac yn wraig i bob vn, vn deisen o fara, ac vn dryll o gîg, ac vn gostêled felly’r aeth yr holl bobl bawb iw dy ei hun.
20Yna y dychwelodd Dafydd i fendîgo ei dŷ: a Michol merch Saul a ddaeth i gyfarfod Dafydd, a hi a ddywedodd, oh mor ogoneddus oedd brenin Israel heddyw yr hwn a ymddioscodd heddyw yng-ŵydd llawforwynion ei weision fel yr ymddiosce vn o’r ynfydion.
21Yna y dywedodd Dafydd wrth Michol, ger bron yr Arglwydd yr hwn a’m dewisodd i o flaen dy dad ti, ac o flaen ei holl dŷ ef gan fyngorchymyn i yn flaenor ar bobl yr Arglwydd ar Israel a mi a chwarâf ger bron yr Arglwydd.
22Byddaf etto waelach na hyn, a byddaf ostyngeiddic yn fyng-olwg fy hun: a chyd a’r llawforwynion ([am] y rhai y dywedaist wrthif) i’m gogoneddir.
23Am hynny i Micholmerch Saul ni bu etifedd hyd ddydd ei marwolaeth. Dafydd yn chwennychu ac heb gael adailadu teml yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.