Ecclesiasticus 5 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. V.1 Ni ddylid gobeitho mewn golud. 7 Nac oedi edifeirwch.

1Nac edrychLuc.12.15. 19.20.|LUK 19:20. Pen.11.18.|SIR 11:18. Dihar.10.2. Ezec.7.19. Soph.1.18.ar dy olud, ac na ddywet, y mae gennif ddigon i fyw.

2Na ddilyn dy ewyllys dy hun, a’th gryfder dy hun i rodio yn ffyrdd dy galon dy hun.

3Na ddywet, pwy a’m darostwng i o herwydd fyng-weithredoedd, o blegit yr Arglwydd gan ddial a ddial dy draha di.

4Na ddywet, mi a bechais, a pha dristwch fu i mi, o blegit y mae yr Arglwydd yn ymarhous, ni faddeu efe i ti.

5Na fydd ry ddifraw o herwydd madde­uant, i chwanegu pechodau ar bechodau.

6Ac na ddywet, aml yw ei drugaredd ef: efe a faddeu luosogrwydd fy mhechodau i.

7O blegit trugaredd a digofaint a fryssia ganddo ef, ai ddigofaint ef a orphywys ar bechaduriaid.

8Na fydd hwyrfrydig i droi at yr Arglwydd, ac nac oeda o ddydd i ddydd.

9O blegit yn ddisymmwth y daw digofaint yr Arglwydd a thra y byddech di yn ddifraw i’th ddryllir, a thi a ddifethir yn amser dialedd.

10Nac edrych ar olud anghyfiawn, o blegit ni fuddiant hwy yn amser cospedigaeth.

11Na ymdro gyd â phob gwynt, ac na ddos ym mhob llwybr, felly y pechadur dau dafodioc.

12Bydd ddianwadl yn dy ddeall siccr, a bydded dy ymadrodd di yn gydtun.

13Bydd Iago.1.19.fuan i glywed pethau da, a bydded dy fywyd mewn gwirionedd, a thraetha atteb iniawn yn ddioddefgar.

14Od oes deall gennit atteb dy gymmydog: ac onid oes, bydded dy law di ar dy safn.

15Yn yr ymadrodd gogoniant a gwarth: a thafod dŷn fydd cwymp iddo ef.

16Na alwer di Lefit.19.16.yn siaradus, ac na chynllwyn a’th dafod.

17O blegit i leidr y mae anniwarthrwydd blin, a damniad drwg i’r ddau dafodiog.

18Na fydd ddiwybod o ddim na mawr na bychan.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help