2.Samuel 24 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIIII.Gorfod i Ddafydd am rifo y bobl ddewis vn o drî dial. 14 Deng-mil a thrugain yn meirw o’r bobl am eu rhifo hwynt.

1Yna digllonedd yr Arglwydd a enynnodd yn erbyn Israel: 1.Cron.21.1.pan annogodd Ddafydd yn eu herbyn hwynt, gan ddywedyd, dos, cyfrif Israel, ac Iuda.

2Canys y brenin a ddywedodd wrth Ioab tywysog y llû yr hon ganddo ef, cylchŷna yn awr holl lwythau Israel o Dan hyd Beerseba, a chyfrif y bobl: fel y gwypwyf rifedi y bobl.

3Ac Ioab a ddywedodd wrth y brenin, yr Arglwydd dy Dduw a chwanego yr bobl yn gant cymmeint ac y maent, fel y gwelo llygaid fy arglwydd frenin: ond pa ham yr ewyllysia fy arglwydd frenin y peth hyn?

4A gair y brenin fu drech nac Ioab, ac na thywysogion y llû: Ioab am hynny a aeth allan, a thywysogion y llu o ŵydd y brenin i gyfrif pobl Israel.

5Ac hwy a aethant tros yr Iorddonen: ac a werssyllasant yn Aroer, o’r tu dehau i’r ddinas’r hon yng-hanol dyffryn Gad, hyd Iazer

6Yna y daethant hwy i Gilead, ac i wlâd Tachtim Hodsi: daethnant hefyd i Dan Iaan, ac o amgylch i Sidon.

7Daethant hefyd i amddeffynfa Tyrus, ac i holl ddinasoedd yr Hefiaid, a’r Canaaneaid: ac hwy a aethant tua thu dehau Iuda i Beerseba.

8Felly y cylchynasant hwy yr holl wlâd: ac a ddaethant ym mhen naw mis, ac vgain nhiwrnod i Ierusalem.

9Yna y rhoddes Ioab nifer cyfrif y bobl at y brenin: ac Israel ydoedd wyth gant mil o wŷr grymmus yn tynnu cleddyf, a gwŷr Iuda bump cant mîl o wŷr.

10Yna calon Dafydd ai tarawodd ef, ar ôl iddo gyfrif y bobl: a dywedodd Dafydd wrth yr Arglwydd, pechais yn ddirfawr yr hyn a wneuthum, ac yn awr delea attolwg o Arglwydd anwiredd dy wâs, canys ynfyd iawn y gwneuthum.

11A Dafydd a gyfododd yn foreu: a daeth gair yr Arglwyddi at Gad y prophwyd, gweledudd Dafydd gan ddywedyd:

12Dos, a dywet wrth Ddafydd, fel hyn y dywedodd yr Arglwyod, yr ydwyfi yn gosod tri pheth o’th flaen di: dewis it vn o honynt, a gwnaf i ti.

13Felly Gad a ddaeth at Ddafydd, 1.Cron.21.12.ac a fynegodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, pa ddyfod it, ai saith mlynedd o newyn yn dy wlâd, ai it ffoi dri mîs o flaen dy orthrymwyr, ac efe yn dy erlid ti, ai yntef bod haint yn y wlâd dri diwrnod? ac yn awr gwybydd, ac edrych pa beth a attebaf i’r hwn a’m hanfonodd i.

14A dywedodd Dafydd wrth Gad, y mae yn gyfyng iawn arnafi, gâd i mi syrthio yn awr yn llaw yr Arglwydd (canys aml yw ei drugareddau ef) fel na chwympwyf yn llaw dyn.

15Yna y rhoddes yr Arglwydd haint yn Israel o’r boreu hyd yr amser nodedic: a bu farw o’r bobl o Ddan hyd Beerseba ddeng mil a thrugain o wŷr.

16A’r angel a estynnase ei law Ierusalem iw dinistrio hi, ond 1.Sam.15.11.edifarhaodd ar yr Arglwydd y drwg hwn, ac a ddywedodd wrth yr angel yr hwn oedd yn dinistrio yr bobl, digon bellach, llaesa dy law: ac angel yr Arglwydd wrth lawr dyrnu 1.Cron.21.15.Arafna y Iebusiad.

17Yna y llefarodd Dafydd wrth yr Arglwydd pan ganfu efe yr angel yr hwn a darawse y bobl, a dywedodd, wele mi a bechais, ac a wneuthum yn ddrygionus, ond beth a wnaeth y defaid hyn? bydded attolwg dy law arnafi, ac ar dŷ fy nhâd i.

18A Gad a ddaeth at Ddafydd y dwthwn hwnnw: ac a ddywedodd wrtho ef, dos i fynu, cyfot allor i’r Arglwydd yn llawr dyrnu Araniah y Iebusiad.

19Felly Dafydd a aeth i fynu yn ôl gair Gad, fel y gorchymynnase yr Arglwydd.

20Ac Arafna a edrychodd, ac a ganfu y brenin ai weision yn dyfod tu ag atto ef: ac Arafna a aeth allan, ac a ostyngodd ei wyneb ei lawr ger bron y brenin.

21Ac Arafna a ddywedodd, pa ham y daeth fy arglwydd frenin at ei wâs? yna y dywedodd Dafydd, i brynu gennit ti y llawr dyrnu i adailadu allor i’r Arglwydd, fel yr attalier y pla hwn oddi wrth y bobl.

22Yna y dywedodd Arafna wrth Ddafydd, cymmered, ac offrymmed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg: wele yr ychen yn boeth offrwm, a’r ffustiau, ac offer yr ychen yn lle cynnyd.

23Hyn oll a roddase y brenin Arafna i’r brenhin, a dywedodd Arafna hefyd wrth y brenin, yr Arglwydd dy Dduw a fyddo bodlon i ti.

24Yna y dywedodd y brenim wrth Arafna, nid eithr gan brynnu y prynnaf mewn prîs gennit, ac nid offrymmaf i’r Arglwydd fy Nuw boeth offrymmau rhad: felly Dafydd a brynodd y llawr-dyrnu, a’r ychen er dec a deugain o siclau arian.

25Ac yno’r adailadodd Dafydd allor i’r Arglwydd, ac a offrymmodd boeth offrymmau, ac offrymmau hedd: a’r Arglwydd a gymmododd a’r wlâd, a’r plâ a attaliwyd oddi wrth Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help