1Yna y dechreuodd Iudith ganu y gyffes hon ym mhlith holl Israel, a’r holl bobl a ganasant y gân hon.
2Ac Iudith a ddywedodd, dechreuwch i’m Duw i â thympanau, cenwch iddo ef psalmau, derchefwch glôd a gelwch ar ei enw ef.
3Canys Duw sydd yn torri y rhyfeloedd, o herwydd yn y gwerssylloedd, ym mysc y bobl y gwaredodd efe fi o law fy erlid-wŷr.
4Assur a ddaeth o’r mynyddoedd allan o’r gogledd, efe a ddaeth â miloedd yn ei luoedd, ei liaws ef a argaeodd yr afonydd, ai farchogion ef a orchguddiasant y brynnau.
5Efe a ddywedodd y llosce efe fy ardaloedd, ac y lladde efe fyng-wŷr ieuaingc a’r cleddyf, ac y gosode y plant sugno yn balmant, ac y rhodde efe fy rhai bychain yn yspail, a’m gweryfon yn sclyfaeth.
6Ond yr holl-alluog Arglwydd ai hescydwodd hwynt trwy law benyw.
7Canys ni syrthiodd y cadarn drwy wŷr ieuaingc, ac nid meibiō Titau ai tarawsant ef, ac nid y cawri vchel a ymosodasant yn ei erbyn ef: eithr Iudith merch Merari drwy ei hwynebprŷd ai gorthrechodd ef.
8O blegit hi a ddioscodd ddillad ei gweddwdod, er derchafiad y rhai gorthrymmedig o Israel, hi a îrodd ei hwyneb ag enaint, ac a gylymmodd ei gwallt mewn meitr, ac a gymmerth wisc liain iw dwyllo ef.
9Ei sandâlau hi a hudasant ei lygaid ef, ai glendid hi a garchârodd ei feddwl ef, cleddyf a aeth trwy ei wddf ef.
10Y Persiaid a synnasant o herwydd ei hyfder hi: a’r Mediaid, a gythryblwyd o herwydd ei hŷder hi.
11Yna fy rhai gostyngedig a orfoleddasant, a’m rhai gweniaid a floeddiasant: a hwythau a ofnasant, derchafasant eu llef, a dychwelasant.
12Meibion llangcesau ai trywanasant hwynt, ac ai harchollasant hwy wrth ffoi fel plant; difethwyd hwynt o ryfel yr Arglwydd fy Nuw i.
13Myfi o gânaf i’r Arglwydd gân newydd, ô Arglwydd ti ydwyt fawr, a gogoneddus, rhyfeddol, ac anorchfygol mewn nerth.
14Gwasanaethed yr holl greaduriaid dydi, Genes.1.24.|GEN 1:24. Psal.33.9.canys ti a ddywedaist, a hwynt a wnaed: ti a anfonaist dy Yspryd, ac efe a adailadodd: ac nid oes nêb a wrthwynebo dy lef di.
15Canys y mynyddoedd a gyffroent oddi ar eu seiliau gyd a’r dyfroedd, y creigiau hefyd a doddent fel cŵyr yn dy ŵydd di: etto trugarog ydwyt i’r rhai a’th ofnant di.
16Canys yr holl aberthau ydynt ry-fychan yn arogl peraidd, a’r holl fraster fydd ry fychan yn boeth offrwm i ti: ond yr hwn sydd yn ofni yr Argllwydd sydd fawr bôb amser.
17Gwae yr cenhedloedd y rhai ydynt yn ymgodi yn erbyn fyng-henedl mau fi: yr Arglwydd holl-alluog a ddial arnynt hwy yn nydd y farn, drŵy anfon cân, a phryfed: ar eu cnawd hwynt: a hwynt a ŵylant gan clywed yn dragywydd.
18A phan aethant hwy i Ierusalem, hwynt a addolasant yr Arglwydd, a hwyn gyntaf ac y purwyd y bobl, hwynt a offrymmasant eu poeth-offrymmau, ai haddunedau, ai rhoddion.
19Iudith hi fyd a offrymmodd holl lestri Holophernes, y rhai a roddase y bobl iddi hi: a hi a roddodd y canopi yr hwn a gymmerase hi oddi ar ei wely ef yn offrwm i’r Arglwydd.
20Felly y bobl a fuant lawen yn Ierusalem ger bron y cyssegr tros drî mîs: ac Iudith a arhosodd gydâ hwynt.
21Ac wedi y dyddiau hynny, pôb vn a ddychwelodd iw etifeddiaeth, ac Iudith a aeth i Bethulia, ac a drigodd yn ei chyfoeth ei hun: ac yr oedd hi yn ei hamser yn ogoneddus drwy ’r holl wlâd.
22A llaweroedd ai chwennychasant hi, ond ni chafodd gŵr ei hadnabod hi holl ddyddiau ei henioes, o’r awr y bu farw Manasses ei gŵr hi, ar y casclwyd ef at ei bobl.
23A hi a aeth rhagddi fwy-fwy, ac a heneiddiodd yn nhŷ ei gŵr yn bum mlwydd a chant: ac o ollyngodd ei llaw-forwyn yn rhydd: a hi a fu farw yn Bethulia, a hwynt ai claddasant hi ym mêdd ei gŵr Manasses.
24A thŷ Israel a alarodd am deni hi saith o ddyddiau: a chyn iddi hi farw hi a rannodd ei golud i’r holl rai nessaf i Manasses ei gŵr, ac i’r rhai nessaf oi chenedl ei hun.
25Ac nid oedd mwyach nêb a ddychrynne feibion Israel yn holl ddyddiau Iudith, nac wedi ei marwolaeth hi ddyddiau lawer.
Terfyn llyfr Iudith.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.