Esay 66 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. LXVI.Ofered gan Dduw bob gwasanaeth gweledic heb ffydd oddi fewn. 5 Cyssur i’r ffyddloniaid truain, o gwymp y drygionus, a chynnydd yr eglwys. 10 Diolchgarwch y duwiol am amryw ddoniau Duw.

1Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, y nefpedd fyng-orsedd-faingc, a’r ddaiar lleithic fy nhraed: mae’r tŷ hwnnw’r hwn a adailedwch i mi? ac mae’r fan honno y gorphywysaf?

2A hyn oll a wnaeth fy llaw, a y mae hyn oll medd yr Arglwydd, ac ar hwn yr edrychaf ar y truan a’r cystuddiedic o yspryd, a’r hwn sydd yn ofni fyng-air.

3Yr hwn a laddo ŷch yr hwn a laddo ŵr, yr hwn a abertho oen yr hwn a dorfynyglo gî: yr hwn a offrymma fwyd offrwm gwaed môch, yr hwn a arogl-dartha thus, sydd yn bendigo gwagedd: etto hwynt a ddewisasant eu ffyrdd eu hun, eu henaid a ewyllysiodd eu ffieidd-dra.

4Minne hefyd a ddewisaf eu gwatwar hwynt, ac a ddygaf arnynt yr hyn a ofnant, am alw o honof, ac nad a attebe, lleferais, ac ni wrandawsant: eithr gwnaethant yr hyn oedd ddrwg yn fyng-olwg, a’r hyn nid fynnwn a ddewisasant,

5Gwrandewch air yr Arglwydd, y rhai a grynwch rhag ei air ef, eich brodyr y rhai a’ch casânt a’ch gyrrant ar encil, er mwyn fy enw i, a ddywedasāt, gogoneddir yr Arglwydd: etto eich llawenydd chwi y gwelir ef, a hwynt a waradwyddir,

6Llef soniarus o’r ddinas, llef o’r Deml, llef yr Arglwydd yn gobrwyo ei elynnion.

7Cyn ei hanwylo ’r escorodd, a chyn dyfod gwewyr arni y rhydd-hauwyd hi ar fab.

8Pwy a glybu y fath beth â hyn? pwy a welodd y fath beth â hyn? a wneir i’r ddaiar dyfu mewn vn dydd? a ênir cenhedlaeth vnwaith? pan anhwylodd Sion yr escorodd hefyd ar ei meibion.

9A ddattodaf fi, ac ni pharaf escor? ai myfi yr hwn sydd yn peri escor a luddiaf hefyd medd dy Dduw?

10Llawenhewch gyd ag Ierusalem, a byddwch hyfryd oi phlegit y rhai oll ai cerwch hi, llawenhewch gyd â hi yn llawen, y rhai oll a alerwch am dani.

11Fel y sugnoch, ac i’ch diwaller o fronnau ei diddanwch, fel y godrôch, ac y byddoch hyfryd o ddiscleirdeb ei gogoniant hi.

12Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, wele fi yn estyn iddi heddwch fel afon, a gogoniant y cenhedloedd fel ffrŵd lifeiriol: yna y sugnwch ar ei hystlys i’ch dygir, ac ar ei gliniau i’ch diddanir:

13Fel vn yr hwn y diddano ei fam ef, felly y diddanaf fi chwi, ac yn Ierusalem i’ch diddanir.

14Yna y gwelwch, y llawenycha eich calon, eich escyrn hefyd a flodeuant fel llyssieun: pan adweinir llaw’r Arglwydd gyd ai weision, ai lidiawgrwydd wrth ei elynnion.

15Canys wele’r Arglwydd a ddaw mewn tân, ai gerbydau fel trô-wynt, i dalu ei ddigter mewn llidiawgrwydd, ai gerydd mewn fflammau tân.

16Canys yr Arglwydd a ymgyfreithia â thân, ac ai gleddyf yn erbyn pôb cnawd, a lladdedigion yr Arglwydd fyddant aml.

17Y rhai a ymsancteiddiant, ac a ymlanhant yn y gerddi yn ôl eu gilydd yn amlwg: gan fwytta cîg môch, a ffiaidd-dra, a llygod, a gyd-ddiweddir medd yr Arglwydd.

18Canys mi a eu gweithredoedd hwynt ai dychymmygion, y mae[’r amser] yn dyfod, i gasclu’r holl genhedloedd ar ieithoedd, a phan ddelant y gwelant fyng-ogoniant.

19A gosodaf arnynt arwydd, ac anfonaf y rhai dihangol o honynt at y cenhedloedd, Tharsis, Affrica, a Lydia, y rhai a dynnant bwa, Italia, a Groec yr ynysoedd pell, y rhai ni chlywsant sôn am danaf, ac ni welsant fyng-ogoniant: a mynegant fyng-ogoniant ym mysc y cenhedloedd.

20A hwynt a ddygant eich holl frodyr o blith yr holl genhedloedd yn offrwm i’r Arglwydd ar feirch, ac ar gerbydau, ac ar elorau meirch, ac ar fulod, ac ar anifeiliaid buain i’m mynydd sanctaidd Ierusalem medd yr Arglwydd, megis y dyge meibion Israel offrwm mewn llestr glân dŷ’r Arglwydd.

21Ac o honynt hwy y cymmeraf yn offeiriaid, ac yn Lefiaid medd yr Arglwydd.

22Canys megis y saif ger fy mron y nefoedd newydd, a’r ddaiar newydd y rhai a wnafi medd yr Arglwydd: felly y saif eich hâd chwi, a’ch enw chwi.

23Bydd hefyd o newydd-loer i newydd-loer, ac o Sabboth i Sabboth i bob cnawd ddyfod i addoli ger fy mron medd yr Arglwydd.

24A hwy a ânt allan, ac a welant gelanedd y rhai a wnaethant gamwedd i’m herbyn, canys eu pryf ni bydd marw, ai tân ni ddiffudd, a byddant yn ddirmyg gan bob cnawd.

Terfyn llyfr y proffwyd Esay

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help