1Plant ydych chwi i’r Arglwydd eich Duw, Lefit.19.28.nac ymnodwch, ac na osodwch foelni rhwng eich llygaid dros marw.
2Canys Deut.7.6. Deut.26.18.pobl sanctaidd ti i’r Arglwydd dy Dduw, a’r Arglwydd a’th ddewisodd di i fod yn bobl vnic iddo ef: o’r holl bobloedd y rhai ar wyneb y ddaiar.
3Na fwytta ddim ffiaid.
4Dymma yr anifeiliaid y rhai a fwyttewch: eidion, llwdn dafad, a llwdn gafr.
5Y carw, a’r iwrch, a’r tarw gwyllt, a’r bwch gwyllt a’r vnicorn a’r ŷch gwyllt, a’r afr wyllt.
6A phob anifail, yn hollti yr ewin, ac yn fforchogi hollt y ddwy ewin, yn cnoi cil ym mysc yr anifeiliaid, hwnnw a fwyttewch.
7Ond hyn ni fwyttewch o’r rhai a gnoant y cil, ac a holldant yr ewin yn fforchog: y camel a’r scyfarnog, a’r gwningen, er bod y rhai hyn yn cnoi eu cîl, am nad ydynt yn fforchogi yr ewin, aflan ydynt i chwi.
8Yr hŵch hefyd er ei bod yn fforchogi yr ewin, ac heb cil, aflan yw i chwi: na fwyttewch oi cig hwynt, ac na chyffyrddwch ai byrgyn hwynt.
9 Lefit.11.9. Hyn a fwyttewch o’r hyn oll yn y dyfroedd; yr hyn oll iddo ascell, a chenn, a fwyttewch.
10A’r hyn oll nid iddo ascell, a chenn, ni fwyttewch: aflan yw i chwi.
11Pob aderyn glan a fwyttewch.
12Ac dymma y rhai ni fwyttewch o honynt yr eryr, a’r wydd-walch, a’r for-wennol.
13A’r bod, a’r barcut, a’r fwltur yn ei ryw.
14A phob cîg-fran yn ei rhyw.
15A chiw’r estris, a’r fran nôs, a’r gôg, a’r hebog yn ei ryw.
16Aderyn y corph, a’r ddylluan, a’r gogfran,
17A’r pelican, a’r biogen, a’r ful-fran.
18A’r Ciconia, a’r grŷr yn ei ryw, a’r gornchwigl, Leuit.11.19.a’r stlym.
19A phob ymlusciad ascelloc sydd aflan i chwi: na fwytaer ef.
20Bwyttewch bob ehediad glân.
21Na fwyttewch ddim burgin, dod ef i’r dieithr yr hwn yn dy byrth: a bwyttaed ef, neu gwerth di i’r dieithr, canys popl sanctaidd i’r Arglwydd dy Dduw: Exod.23.19. Exod.34.26.na ferwa fynn yn llaeth ei fain.
22Gan ddegymmu degymma hol gynnyrch dy hâd, ffrwyth dy faes bob blwyddyn.
23A bwytta ger bron yr Arglwydd dy Dduw (yn y lle’r hwn a ddewiso efe i drigo oi enw ef ynddo) ddegwm dy ŷd, dy wîn, a’th olew, a chyntafanedic dy warthec, a’th ddefaid, fel y dyscech ofni’r Arglwydd dy Dduw’r holl ddyddiau.
24A phan fyddo y ffordd ry-hîr i ti, fel nad ellech ei ddwyn ef, am fod y lle ym mhell oddi wrthit, ’r hwn a ddewiso’r Arglwydd dy Dduw i osod ei enw ynddo, pan i’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw.
25Yna dod yn arian, a rhwym yr arian yn dy law, a dos i’r lle’r hwn a ddewiso’r Arglwydd dy Dduw,
26A dôd yr arian am yr hyn oll a chwenycho dy galon: am warthec, neu am ddefaid, neu am wîn, neu am ddiod gref, neu am yr hyn oll a ddymuno dy galon: a bwytta yno ger bron yr Arglwydd dy Dduw, a llawenychadi, a’th deulu.
27A’r Lefiad yr hwn yn dy byrth na wrthod ef: am nad iddo rhan, nac etifeddiaeth gyd a thi.
28Ym mhen tair blynedd y dygi allan holl, ddegwm dy gnwd y flwyddyn honno: a gâd yn dy byrth.
29Fel y dêl y Lefiad am nad oes iddo ran, nac etifeddiaeth gyd a thi, a’r dieithr, a’r ymddifad a’r weddw y rhai yn dy byrth di, ac y bwyttânt, ac y digoner hwynt: fel i’th fendithio’r Arglwydd dy Dduw di ym mhob gwaith yr hwn wnelech a’th law.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.