Ecclesiasticus 51 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. LI.Gweddi Iefus fab Sirach.

1Clôdforaf di ô Arglwydd Frenin, a moliannaf di fy Nuw a’m iachawdwr.

2Dy enw di a glôdforaf, o blegit ti ydwyt yn amddeffynnudd ac yn help i mi, ac a waredaist fyng-horph i rhag ddinistr.

3Ac rhag rhwyd enlib tafod, rhag gwefusau y rhai a weithredant gelwydd, ie yn erbyn y rhai a ydynt yn cyfodi i’m herbyn yr ydwyt ti yn help.

4Gwaredaist fi yn ôl amldra trugaredd dy enw rhag y rhai rhuadwy a oeddynt barod im bwyta:

5Ac o law y rhai a oeddynt yn ceisio fy enaid i, ac o lawer o flinderau, y rhai a gefais i.

6Rhag i’r tân fy mygu o amgylch, o ganol y tân rhag fy llosci.

7Felly o waelod y dyfnder, ac rhag tafod aflan, ac rhag chwedl celwyddoc, ac rhag anair gyd â’r brenin trwy dafod anghyfiwn.

8Fy enaid a aethe yn agos i farw.

9Am heinioes a oedd agos i vffern isaf.

10Hwy a’m hamgylchynasant i o amgylch, ac nid oedd a helpie: mi a edrychais am help dyn ac nid oedd

11Am hynny mi a gofiais dy drugaredd di oh Arglwydd, ai grym hi er ioed.

12Dy fod ti yn achub y rhai dioddefgar, ac yn eu hachub hwynt o law y gelynnion.

13Ac mi a dderchefais fyng-weddi rhag digter, ac a ddeisyfiais ymwared yn lle marwolaeth.

14Ac mi a ddeisyfiais ar yr Arglwydd tâd fy Arglwydd, na adawe efe fyfi yn amser trallod, y prŷd ni cheid help gan y beilchion.

15Mi a foliannaf dy enw di yn wastadol, ac a’th glôdforaf di yn fyng-hyffes, am wrando fyng-weddi.

16O blegit ti a’n cedwaist ni rhag dinistr, ac a’n gwaredaist ni o’r amser drwg:

17Am hynny y clôdforaf, ac y molianaf di ô Arglwydd ac y canmolaf dy enw.

18Am fi etto yn ieuangach cyn fy nhwyllo mi a ofynnais ddoethineb yn eglur yn fyng­weddi.

19O flaen y Deml y gweddiais i am dani hi, ac hyd y diwedd y ceisiaf hi.

20Mor llawen a oedd fyng-halon o honi hi, ac o rawnwin yn addfedu o’r blodau, fy nrhoed a rodiodd yn iniawn, mi ai holrheiniais hi o’m hieuengtid.

21Mi a ostyngais ychydig ar fyng-hlust, ac ai derbyniais

22Ac mi a gefais im fy hun lawer o athrawiaeth: mi a euthym rhagof ynddi hi.

23I’r hwn a roddes i mi ddoethineb, y rhoddaf fi y gallu.

24O blegit mi a feddyliais am ei gwneuthur hi, a dilyn daioni, ac ni’m gwradwyddir.

25Fy enaid a ymderchodd am dani hi, ac mi a fum ddiwyd yn peri chwant

26Mi a estynnais fy nwylo i fynu, pan ddehallais i beth a oedd bod heb ei hadnabod hi.

27Mi a gyfarwyddais fy enaid atti hi, ac ai cefais hi mewn puredd.

28O’r dechreuad yr ydwyf yn berchen calon wedi ei chyssylltu â hon, am hynny ni’m gwrthodir.

29Fyng-halon a gafodd helbul yn ei cheisio hi: felly mi a gefais gyfoeth da.

30Yr Arglwydd a roddes dafod yn wobr i mi ac mi ai moliannaf ef â hwnnw.

31Nessewch attafi (ô annyscedic,) ac arhoswch yn nhŷ athrawiaeth.

32Pan ham yr ydych chwi yn oedi: neu beth a ddywedwch chwi am hyn, gan fod ar eich eneidiau chwi syched mor ddirfawr:

33Mi a egorais fy safn, ac a leferais: prynwch i chwi heb arian.

34Gostyngwch eich gyddfau tann yr iau, a derbynied eich enaid athrawiaeth, hawdd yw ei chael hi.

35Gwelwch âch llygaid gymeryd o hono­fi boen: a chael o honofi i’m fy hun esmwythdra mawr.

36Mynnwch gyfran o athrawiaeth, am nifer mawr o arian meddiennwch aur lawer trwyddi hi.

37Llawenyched eich calon am ei drugaredd ef, ac na fydded yn gywilydd gennych ei foliannu ef.

38Gwnewch eich gwaith cyn yr amser, ac efe a rydd eich gwobr yn ei amser.

Terfyn llyfr Iesus fab Sirach yr hwn a elwir yn Lladin Ecclesiasticus.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help