Diharebion 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.Cyngor i geisio doethineb 14 i ochelyd drygioni 20 ac i’n llywodraethu wrth air Duw.

1Gwrandewch y plant addysc tâd, ac erglywch i ddyscu deall.

2Canys yr ydwyfi yn rhoddi i chwi addysc dda, am hynny na wrthodwch fyng-hyfraith.

3Pan oeddwn fab fy nhâd, yn dyner, ac yn annwyl yng-olwg fy mam,

4Efe a’m dysce, ac a ddywede wrthif, dalied dy galon fyng-eiriau: cadw fyng-orchymynnion, a thi a gei fywyd.

5Cais ddoethineb, cais ddeall, na âd dros gof, ac na ŵyra oddi wrth eiriau fyng-enau.

6Na ollwng hi oddi wrthit, ac hi a’th geidw, câr hi, ac hi a’th wared di.

7Cyntaf peth yw doethineb, cais ddoethineb, ac vwch law dy holl gyfoeth cais ddeall.

8Derchaf di hi, ac hi a’th dderchafa dithe, hi a’th ddwg di i anrhydedd, os cofleidi hi.

9Hi a rydd chwaneg o râs i’th ben di, hi a rydd i ti goron gogoniant.

10Gwrando fy mab, a derbyn fyng-eiriau, a blynyddoedd dy fywyd a amlheuir.

11Yr ydwyf yn dy ddyscu yn ffordd doethineb, ac yn dy dywys yn llwybrau cyfiawnder.

12Pan roddech dy gerddediad ni bydd gyfyng, a phan redech ni syrthi.

13Ymafel mewn addysc, ac na phaid, cadw hi, canys bywyd di yw hi.

14Na ddos i ffordd yr annuwolion, ac na rodia ar hyd ffordd y drygionus.

15[Gochel] hi, na ddos ar hyd-ddi, cilia oddi wrthi hi, a dos heibio.

16Canys ni chyscant, nes gwneuthur drwg, ai cwsc a gollant nes iddynt gwympo

17Canys y maent yn bwytta bara annuwioldeb, ac yn yfed gwin trais.

18[Onid] llwybr y cyfiawn a lewyrcha, fel y llewyrch yr hwn a lewyrcha fwy-fwy hyd ganol dydd.

19Onid ffordd y drygionus sydd fel y tywyllwch, ni ŵyddant pa le y syrthiant.

20Fy mab gwrando ar fyng-eiriau gogŵydda dy glust at fy ymadroddion.

21Na âd iddynt fyned ymmaith o’th olwg, cadw hwynt yng-hanol dy galon.

22Canys bywyd ydynt i’r neb ai caffant, ac iechyd iw holl gnawd.

23Cadw dy galon yn dra ddiysceulys, canys allan o honi y daw bywyd.

24Bwrw oddi wrthit enau tauog, a gwefusau trofaus ym mhell oddi wrthit.

25Edryched dy lygaid ar yr iniawn, a chyfarwydded amrantau dy lygaid dy ffordd o’th flaen.

26Ystyria lwybr dy draed, a threfna dy ffyrdd yn iniawn.

27Na thro a’r y llaw ddehau, nac ar y llaw asswy, ond symmut dy droed oddi wrth ddrygioni.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help