Ionas 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.Dîg Ionas am esmwythdra Duw iw greaduriaid.

1A bu ddrwg iawn gan Ionas ac efe a ddigiodd ynddo ei hun.

2Ac efe a weddiodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd: attolwg it Arglwydd, oni ddywedais hyn pan oeddwn yn fyng-wlâd? am hynny ’r achubais flaen i ffoi i Tharsis, am y gwyddwn dy fod ti yn Dduw grâslawn, a thrugarog, araf i ddîg, aml o drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg.

3Am hynny fy Arglwydd cymmer fy enaid bellach oddi wrthif: canys gwell i’m farw na byw.

4A’r Arglwydd a ddywedodd, ai da yw’r gwaith, ymddigio o honot?

5Ac Ionas a aeth allan o’r ddinas, ac a eisteddodd o’r tu dwyrain i’r ddinas, ac a wnaeth yno gaban iddo ei hun, ac a eisteddodd dano yn y cyscod, hyd oni wele beth a fydde yn y ddinas.

6A’r Arglwydd Dduw a ddarparodd Cicaion, ac a wnaeth iddo dyfû tros Ionas i fod yn gyscod vwch ei ben ef, iw waredu oi ofid: a bu Ionas lawen iawn am y Cicaion.

7A’r Arglwydd a baratôdd brŷf ar godiad y wawr drannoeth, ac efe a darawodd y Cicaion, ac yntef a wywodd.

8A phan gododd haul, darfu i Dduw ddarparu poeth-wynt y dwyrain: a’r haul a darawodd ar ben Ionas fel y llewygodd, ac y deisyfiodd farw oi enioes, ac a ddywedodd, gwell i’m angeu nag enioes.

9A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Ionas, ai da yw ymddigio o honot am y Cicaion? ac efe a ddywedodd: da oedd ymddigio o honof hyd angeu.

10A’r Arglwydd a ddywedodd, ti a dosturi am y Cicaion yr hwn ni lafuriaist wrtho, ac ni’s meithrinaist: mewn noswaith y bu, ac mewn noswaith y darfu.

11Ac oni thosturiwn i wrth Ninife y ddinas fawr, yr hon y mae ynddi mwy nâ deuddec mŷrdd o ddynion y rhai ni ŵyddant rhwng eu llaw ddehau ai llaw asswy? ac anifeiliaid lawer?

Terfyn llyfr Ionas.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help