1Yna y Pen.28.3.|1SA 28:3. Ecclus.46.13.bu farw Samuel, a holl Israel a ymgynnullasant, ac a alarasant am dano ef ac ai claddasant ef o fewn ei dy ei hûn yn Rama: a Dafydd a gyfododd, ac a aeth i wared i anialwch Paran.
2Ac gŵr ym Maon ai gyfoeth yn Carmel, a’r gŵr rymmus iawn, ac iddo ef dair mil o ddefaid, a mîl o eifr: ac yr oedd efe yn cneifio ei ddefaid yn Carmel.
3Ac enw’r gŵr Nabal, ac enw ei wraig Abigail: a’r wraig yn dda deall, ac yn deg gwêdd, a’r gŵr galed, a drwg weithredoedd, a Chalibiad efe.
4A chlybu Dafydd yn yr anialwch fod Nabal yn cneifio ei ddefaid.
5Yna Dafydd a anfonodd ddêc o langciau: a Dafydd a ddywedodd wrth y llangciau, ewch i fynu i Garmel, a cherddwch i mewn at Nabal, a chyferchwch ef yn fy enwi.
6Dywedwch hefyd, fel hyn yn fywyd, di heddwch, a’th dy heddwch, a’r hyn oll eiddo ti heddwch.
7Ac yn awr clywais fod rhai yn cneifio i ti: yn awr y bugeiliaid y rhai genit a fuant gyd a ni, ni wnaethom sarhaed arnynt hwy ac ni bu ddim eisie iddynt yr holl ddyddiau y buant hwy yn Carmel.
8Gofyn i’th langciau, a hwy a fynegant it, fel y caffo’r llangciau hyn ffafor yn dy olwg di, canys ar ddiwrnod da y daethom ni, dyro attolwg yr hyn a ddelo i’th law i’th weision, ac i’th fab Dafydd.
9A llangciau Dafyd a ddaethant, ac wedi iddynt ddywedyd wrth Nabal yn ôl yr holl eiriau hynny yn enw Dafydd: yna y tawsant.
10Yna Nabal a attebodd weision Dafydd ac a ddywedodd, pwy Dafydd, neu pwy mab Isai? llawer sydd o weision heddyw yn torri allan bob vn oddi wrth eu meistred.
11A gymmerafi fy mara, a’m dwfr, a’m cîg yr hwn a leddais i’r cneif-wŷr, ai rhoddi i wŷr y rhai nis gwn o ba le hwy?
12Yna llangciau Dafydd a droasant iw ffordd, ac a ddychwelasant, ac a ddaethant, ac a fynegasant iddo ef yn ôl yr holl eiriau hynny.
13A Dafydd a ddywedodd wrth ei wŷr, ymwregyswch bob vn ei gleddyf, yna’r ymwregysodd pob vn ei gleddyf, ymwregysodd Dafydd hefyd ei gleddyf: ac yng-hylch pedwar cant o wŷr a aethant i fynu ar ôl Dafydd, a dau cant a drigasant gyd a’r dodrefn.
14Yna vn o’r llangciau a fynegodd i Abigail gwraig Nabal, gan ddywedyd: wele Dafydd a anfonodd gennadau o’r anialwch i gyfarch ein meistr ni, ond efe ai difenwodd hwynt.
15A’r gwŷr yn dda iawn wrthym ni, ac ni wnaed sarhaed arnom ni, ac ni bu i ni ddim yn eisieu yr holl ddyddiau y rhodiasom gyd a hwynt pan oeddem yn y maes.
16Mûr oeddynt hwy i ni nôs a dydd: yr holl ddyddiau y buom gyd hwynt yn porthi y praidd.
17Ac yn awr gŵybydd, ac edrych beth a wnelech, canys paratowyd niwed yn erbyn ein meistr ni, ac yn erbyn ei holl dŷ ef: canys efe fab i’r fall, fel na ellir ymddiddan ag ef.
18Yna Abigail a fryssiodd, ac a gymmerth ddau cant o fara, a dwy gostrêled o wîn, a phump o ddefaid parod, a phum hobed o grasŷd, a chant o resynau, a dau cant o ffigus, ac ai gosododd ar yr assynnod.
19A hi a ddywedodd wrth ei gweision cerddwch o’m blaeni, wele fi yn dyfod ar eich ôl: ond wrth Nabal ei gŵr nid yngênodd hi.
20A hi yn marchogeth ar yr assyn, ac yn dyfod i wared ar hŷd ŷ mynydd yn ddirgel, yna wele Dafydd ai wŷr yn descyn iw herbyn, a hi a gyfarfu a hwynt.
21Yna y dywedodd Dafydd, diau gadw o honofi yn ofer yr hyn oll gan hwn yn yr anialwch, fel na bu ddim yn eisieu o’r hyn oll ganddo ef, canys efe a dalodd i mi ddrwg dros dda.
22Felly y gwnelo Duw i elynnion Dafydd, ac felly chwaneged, os gadawaf o’r hyn oll ganddo ef erbyn y boreu a bîsso ar bared.
23Pan welodd Abigail Ddafydd, yna hi a fryssiodd, ac a ddescynnodd oddi ar yr assyn: a hi a syrthiodd ger bron Dafydd ar ei hwyneb, ac a ymgrymmodd i lawr.
24A hi a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a ddywedodd, ynofi fy arglwydd y yr anwiredd: etto llefared dy wasanaeth-ferch attolwg wrthit, a gwrando eiriau dy law-forwyn.
25Attolwg na osoded fy arglwydd ei galon yn erbyn y gŵr anwir hwn, yn erbyn Nabal, canys fel ei enw ef, felly yntef, Nabal, ei enw ef, ac ynfydrwydd gyd ag ef: a minne dy wasanaethferch ni welais weision fy arglwydd y rhai a anfonaist.
26Ac yn awr fy arglwydd, y mae yr Arglwydd yn fyw, (ac byw dy enaid ti) yr Arglwydd a’th luddiodd di rhac dyfod gwaed, ac i ymddial a’th law dy hun, felly yn awr bydded dy elynion di megis Nabal, a’r sawl a geisiant niwed i’m harglwydd.
27Ac yn awr yr anrheg ymma yr hon a ddug dy wasanaethferch i’m harglwydd, rhodder hi i’r llangciau y rhai sy yn canlyn fy arglwydd.
28A madde attolwg gamwedd dy wasanaeth-ferch: canys yr Arglwydd gan wneuthur a wnaiff i’m harglwydd dŷ siccr, o herwydd fy arglwydd sy yn ymladd rhyfeloedd yr Arglwydd, a drygioni ni chafwyd ynot ti yn dy holl ddyddiau.
29Er cyfodi o ddyn i’th erlyd ti, ac i geisio dy enaid: etto enaid fy arglwydd a fydd wedi ei rwymo mewn rhwymyn y bywyd, gyd a’th Arglwydd dy Dduw, ac enaid dy elynnion a chwrndeifl efe fel o ganol caudab y ffon-dafl.
30A phan wnelo’r Arglwydd i’m harglwydd yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe o ddaioni am danat, a phan i’th orchymyn di yn flaenor ar Israel,
31Yna ni bydd hyn yn gwymp, nac yn dramgwydd calon i’m harglwydd megis tywallt gwaed heb achos, a dial o’m harglwydd ef ei hun: pan wnelo Duw ddaioni i’m harglwydd, yna cofia di dy law-forwyn.
32Yna y dywedodd Dafydd wrth Abigail bendigedic Arglwydd Dduw Israel yr hwn a’th anfonodd di y dydd hwn i’m cyfarfod i.
33Bendigedic hefyd dy gyngor, a bendigedic dithe: yr hon a’m lluddiaist y dydd hwn rhac dyfodi gwaed, ac i ymddial a’m llaw fy hun.
34Yn wîr fel y mae Arglwydd Dduw Israel yn fyw yr hwn a’m hattaliodd i rhac dy ddrygi di: oni buase i tî ddyfod i’m cyfarfod i yn fuan, diau na adawsid i Nabal erbyn goleuni y boreu a bisse ar bared.
35Yna y cymmerodd Dafydd oi llaw hi yr hyn a ddugase hi iddo ef: ac efe a ddywedodd wrthi hi, dos i fynu mewn heddwch i’th dŷ, gwêl mi a wrandewais ar dy lais, ac a ganiateais dy ddysyfiad di.
36Felly Abigail a ddaeth at Nabal, ac wele gwlêdd ganddo ef yn ei dŷ, fel gwlêdd y brenin, a chalon Nabal oedd lawen ynddo ef, canys meddw iawn oedd efe: ac nid yngênodd hi wrtho ef air bychan, na mawr nes goleuo yr boreu.
37A’r boreu pan aeth y meddwdod allan o Nabal, yna y mynegodd ei wraig iddo ef y geiriau hynny: ai galon ef fu farw oi fewn, ac efe oedd fel carrec.
38Yna yng-hylch y deng-nhiwrnod y tarawodd yr Arglwydd Nabal fel y bu efe farw.
39Pan glybu Dafydd farw Nabal, yna y dywedodd efe, bendigedic yr Arglwydd yr hwn a ddialodd fy sarhaed i o law Nabal, ac a attaliodd ei was rhac drwg, canys yr Arglwydd a drodd ddrygioni Nabal ar ei ben ei hun: Dafydd hefyd a anfonodd i ymddiddan ag Abigail am ei chymmeryd hi yn wraig iddo ef.
40A phan ddaeth gweision Dafydd at Abigail i Garmel: hwy a lefarasant wrthi hi gan ddywedyd, Dafydd a’n hanfonodd ni attati i’th gymmeryd ti yn wraig iddo ef.
41Yna hi a gyfododd, ac a ymgrymmodd hwyneb tua yr ddaiar: ac a ddywedodd, wele dy forwyn yn wasanaeth-ferch i olchi traed gweision fy arglwydd.
42Abigail hefyd a fryssiodd, ac a gyfododd, ac a farchogodd ar assyn, a phump o langcesau yn ei chanlyn, a hi a aeth ar ôl cennadau Dafydd, ac a aeth yn wraig iddo ef.
43A Dafydd a gymmerth Ahinoam o Ios.15.56.|JOS 15:56 2.Sam.3.14.Iezrehel, ac hwy a fuant ill dwyoedd yn wragedd iddo ef.
44A Saul a roddase Michol ei ferch ef gwraig Dafydd i Phalti fab Lais o Galim.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.