Marc 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Crist yn iachau’r claf o’r parlys, 14 yn galw Mathew, 19 yn amddeffyn ei ddiscyblion am nad ymprydiasent, 23 ac am iddynt dynnu y tywys yd ar y dydd Sabboth.

1Ac Math.9.1. Luc.5.18efe a aeth eilchwel i Capernaum wedi ddyddiau, a chlywyd ei fôd efe yn tŷ.

2Ac yn y man, llawer a ymgasclasant ynghŷd, hyd na annent mwy, nac yn y lleoedd yng-hylch y drws, ac efe a bregethodd y gair iddynt hwy.

3Yna y daeth atto rai yn dwyn vn claf o’r parlys, yr hwn a ddygid gan bedwar.

4Ac am na allent nesau atto gan y dyrfa, didoi y tŷ a wnaethant, yn yr hwn yr oedd efe: ac wedi iddynt dorri twll, gollwng i lawr a wnaethant y gwely yn yr hwn y gorwedde’r claf o’r parlys.

5A phan welodd yr Iesu eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrth y claf o’r parlys, ha fâb, maddeuwyd i ti dy bechodau.

6Ac yr oedd rai o’r scrifennyddion yn eistedd, ac yn ymresymmu yn eu colonnau,

7Pa ham y mae hwn yn dywedyd y cyfryw gabledd? Esa.43.25; Iob.14.4.pwy a all faddeu pechodau, onid Duw ei hun?

8Ac yn ebrwydd pan ŵybu’r Iesu yn ei yspryd iddynt resymmu felly ynddynt eu hunain, efe a ddywedodd wrthynt, pa ham yr ydych yn ymresymmu am y pethau hyn yn eich calonnau?

9Pa vn hawsaf ai dywedyd wrth y claf o’r parlys, maddeuwyd i ti dy bechodau? ai dywedyd, cyfot, a chymmer ymmaith dy wely, a rhodia?

10Eithr fel y gwypoch fôd i Fâb y dŷn awdurdod i faddeu pechodau ar y ddaiar, (ebyr efe wrth y claf o’r parlys,)

11Wrthit ti yr wyf yn dywedyd, cyfot, a chymmer dy wely i fynu, a dôs i’th dŷ.

12Ac yn y man y cyfododd efe, ac y cymmerth ei wely i fynu, ac yr aeth allan yn eu gŵydd hwynt oll, hyd oni synnodd pawb, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd: ni welsom ni erioed y cyfryw beth.

13Yna’r aeth efe eilchwel tu â’r môr, a’r holl dyrfa a ddaeth atto, ac efe a’u dyscodd hwynt.

14Ac efe yn myned heibio, efe a Math.9.9; Luc 5.27.ganfu Lefi Alpheus yn eistedd wrth y dollfa, ac a ddywedodd wrtho, canlyn fi: ac efe a gododd, ac a’i canlynodd ef.

15Ac a’r Iesu yn eistedd i fwytta yn ei dŷ ef, darfu i publicanod a phechaduriaid lawer gyd-eistedd â’r Iesu a’i ddiscyblion: canys llawer a’i dilynasent ef.

16A phan ganfu’r scrifennyddion a’r Pharisæaid ef yn bwytta gyd â’r Publicanod a’r pechaduriaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddiscyblion ef, pa ham y mae efe yn bwytta, ac yn yfed gŷd â’r publicanod a’r pechaduriaid?

17A phan glybu’r Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, y rhai sy iach nid rhaid iddynt wrth y meddig, ond y rhai cleifion: 1.Tim.1.15.ni ddaethym i alw y rhai cyfiawn, ond pechaduriaid i edifeirwch.

18 Math.9.14. Luc.5.33. A discyblion Ioan a’r Pharisæaid oeddynt yn ymprydio, am hynny y daethant, ac y dywedasant wrtho, pa ham yr ymprydia discyblion Ioan a’r Pharisæaid, a’th rai di heb ymprydio?

19Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, a all plant yr stafell briodas ymprydio tra fyddo’r priodas-fâb gyd â hwynt? tra fyddo ganddynt y priodas-fâb gyd â hwynt ni allant ymprydio.

20Eithr y dyddiau a ddaw pan dyger y priodas-fâb oddi arnynt, ac yna’r ymprydiant y dyddiau hynny.

21Hefyd Math.9.16.ni wnîa nêb ddernyn o frethyn newydd ar ddillhedyn hên: os amgen ei anghwanegiad a dŷn beth o’r hên, a gwaeth fydd y rhwygiad.

22Ac ni rydd nêb wîn newydd mewn hên gostrelau, os amgen y gwîn newydd a ddryllia’r costrelau, a’r gwîn a rêd allan, a’r costrelau a gollir: eithr gwin newydd a roddir mewn costrelau newyddion.

23A bu Math.12.1. Luc.6.1.iddo fyned trwy’r ŷd ar y Sabboth, a’i ddiscyblion a ddechreuasant ymdaith tan dynnu’r tywys.

24A’r Pharisæaid a ddywedasant wrtho: wele, pa ham y gwnânt ar y Sabboth yr hyn nid yw gyfraithlon?

25Ac efe a ddywedodd wrthynt: oni ddarllenasoch er ioed beth a 1.Bren.21.6.wnaeth Dafydd pan oedd men eisieu, a newyn arno, a’r rhai oedd gyd ag ef?

26Pa fodd yr aeth efe i dŷ Dduw tann Abiathar yr arch-offeiriad, ac y bwyttaodd y bara Exod.24.33.(sic.)gosod, y Leuit.24.33.(sic.)rhai nid cyfraithlon eu bwytta onid i’r offeiriaid yn vnic, ac a’u rhoddes hefyd i’r rhai oedd gŷd ag ef.

27Ac efe a ddywedodd wrthynt, y Sabboth a wnaethpwyd er mwyn dŷn, ac nid dŷn er mwyn y Sabboth,

28Am hynny Mâb y dŷn sydd Arglwydd hefyd ar y Sabboth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help