Iudith 15 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XV.Yr Assyriad yn frawychus yn ffoi. 3 Yr Israeliaid yn eu hymlid hwynt. 9 Ioacim yr arch-offeiriad yn dyfod at Iudith.

1A Phan glywsant hwy y rhai oeddynt yn y pebyll, hwynt a synnasant o herwydd y weithred: ac ofn a dychryn a syrthiodd arnynt hwy,

2Fel nad oedd neb mwyach a alle aros yn wyneb ei gilydd, eithr yn wascaredig y ffoasant o vn frŷd i holl ffyrdd y gwastadedd, a’r myndd-dir.

3A’r rhai a werssyllasant yn y mynyddoedd o amgylch Bethulia a yrrwyd i ffoi: yna meibion Israel pob rhyfel-ŵr o honynt a ruthrasant arnynt hwy.

4Yna Ozias a anfonodd i Bethomasthem, ac i Bebai, ac i Chobai, ac i Chola, ac i holl derfynau Israel rai a fynegent iddynt hwy yr hyn a ddarfuase, ac i beri idoynt hwy oll ruthro ar y gelynion iw difetha hwynt.

5A phan glybu meibion Israel, hwynt oll o vn frŷd a ruthrasant iw herbyn hwynt hyd Chobai: felly hefyd y rhai a ddaethant o Ierusalem, ac o’r holl fynydd-dîr: canys a fy­negasent iddynt hwy yr hyn a wnaethyd yng­werssylloedd eu gelynnion.

6a’r rhai oeddynt yn Galaad, ac yn Galile ai hymlidiasant hwynt â phlâ mawr, nes iddynt fyned heibio i Ddamascus, ai hardaloedd.

7A’r rhan arall y rhai oeddynt yn trigo yn Bethulia a ruthrasant i werssylloedd yr Assyriaid, ac ai hyspeiliasant hwy, ac a ymgyfoethogasant iawn.

8A meibion Israel y rhai a ddychwelasant o’r lladdedigaeth a berchēnogasant y gweddill: a’r trefydd a’r dinasoedd y rhai oeddynt yn y mynydd-dîr, ac yn y dyffryn-dir a gawsant anrhaith fawr, canys lliaws oedd fawr iawn.

9Yna Ioacim yr arch-offeiriad, a henuriaid meibion Israel y rhai oeddynt yn trigo yn Ierusalem a ddaethant i sicrhau y daioni yr hwn a wnaethe Duw Israel, ac i gael gweled Iudith, ac i ymddiddan yn heddychlon â hi.

10A phan ddaethant hwy atti hi, hwynt ai bendithiasant hi o vn frŷd, ac a ddywedasant wr­thi: ti ydwyt dderchafiad Ierusalem, ti ydwyt fawr ogoniant Israel, ti ydwyt fawr barch ein cenedl ni.

11Canys ti a wnaethost hyn oll a’th law di, gwnaethost ddaioni ag Israel, a Duw a gymmododd â hwynt: bendigedic fyddech di gan yr holl-alluoc Arglwydd byth yn dragywydd. A’r holl bobl a ddywedasant, felly y byddo.

12A’r bobl a yspeiliasant y gwerssylloedd tros ddeng-nhiwruod ar hugain, a hwynt a roddasant i Iudith babell Holophernes a’r llestri arian, a’r gwelau, a’r cawgiau, ai holl ddodrefn ef: a hi ai cymmerth ai gosododd ar ei mûl, ac a baratôdd ei cherbydau, ac ai llwythodd hwynt arnynt.

13Yna holl wragedd Israel a ddaethant yng-hyd iw gweled hi, ac ai bendithiasant hi, ac a wnaethant ddawns yn eu mysc eu hun iddi hi: a hi a gymmerodd ganghennau yn ei dwylo, ac ai rhoddes, hefyd i’r gwragedd y rhai oeddynt gyd â hi.

14Hwyntau hefyd ai coronasant hi ag oli­wydd, a’r hon oedd gyd â hi, a hi a aeth o flaen yr holl bobl mewn dawns, gan arwain yr holl wragedd: a holl wŷr Israel a ganlynasant yn arfog, a choronau, ac â chaniâdau yn eu gene­uau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help