Numeri 20 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XX.Miriam yn marw. 2 Y bobl yn tuchan am ddwfr. 6 Moses ac Aaron yn cael dwfr iddynt o’r graig. 12 Cospedigaeth Moses ac Aaron am eu petrusedd. 14 Edom yn neccau Israel o ffordd trwy ei wlâd. 23 marwolaeth Aaron, a dewissiad Eleazar yn ei le ef.

1A Meibion Israel yr holl gynnulleidfa a ddaethant i Num.33.36.anialwch Zin yn y mîs cyntaf, ac arhôdd y bobl yn Cades, yno hefyd y bu farw Miriam, ac yno y claddwyd hi.

2Ac nid oedd dwfr i’r gynnulleidfa, yna yr ymgasclasant yn erbyn Moses ac Aaron.

3Ac ymgynhennodd y bobl a Moses, a llefarasant gan ddywedyd: ô na buasem feirw Num.11.23.pan fu feirw ein brodyr ger bron yr Arglwydd.

4Pa ham y dugasoch gynnulleidfa’r Arglwydd i’r anialwch hwn? i farw a honom ni ac o’n hanifeiliaid ynddo?

5A pha ham y dugasoch ni i fynu o’r Aipht? i’n dwyn ni i’r lle drwg ymma? lle heb hâd na ffigus-bren, na gwinwydden, na phomgranadbren, ac heb ddwfr i yfed.

6Yna y daeth Moses ac Aaron oddi ger bron y gynnulleidfa i ddrws pabell y cyfarfod, ac a syrthiasant ar eu hwynebau, a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd iddynt.

7A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses hefyd gan ddywedyd,

8Cymmer Exod.17.6.y wialen a chascl y gynnulleidfa: ti ac Aaron dy frawd, ac yn eu gwydd hwynt lleferwch wrth y graig, a hi a rydd ei dwfr a thynn dithe iddynt ddwfr o’r graig, a dioda y gynnulleidfa ai hanifeiliaid.

9Yna Moses a gymmerodd y wialen, oddi ger bron yr Arglwydd megis y gorchymynnase efe iddo.

10Yna Moses ac Aaron a gynnullasant y dyrfa o flaen y graig: a dywedodd wrthynt: gwrandewch yn awr chwi wrthryfel-wyr, ai o’r graig honn y tynnwn i chwi ddwfr?

11A Psal.78.15.chododd Moses ei law, a tharawodd y graig ddwy-waith ai wialen: a daeth dwfr lawer allan, a’r gynnulleidfa a yfodd, ai hanifeiliaid.

12A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, am na chredasoch i mi, i’m sancteiddio yng-ŵydd meibion Israel, am hynny ni ddygwch y dyrfa hon i’r tîr yr hwn a roddais iddynt.

13Dymma ddyfroedd y gynnen, lle yr ymgynnhennodd meibion Israel a’r Arglwydd, ac y sancteiddwyd ef ynddynt.

14 Baruc 11.17(sic.) Yna yr anfonodd Moses gennadau o Cades at frenin Edom: fel hyn y dywed Israel dy frawd, ti a wyddost yr holl flinder a gawsom ni.

15Pa wedd yr aeth ein tadau i wared i’r Aipht, ac yr arhosasom yn yr Aipht lawer o ddyddiau, ac y drygodd yr Aiphtiaid ni, a’n tadau.

16A ni a waeddasom ar yr Arglwydd, ac efe a a glybu ein llef ni, ac a anfonodd angel, ac a’n dug ni allan o’r Aipht: ac wele ni yn Cades dinas gwrr dy ardal di.

17Attolwg gad i ni fyned trwy dy dîr, nid awn trwy faes, na gwin-llan, ac nid yfwn ddwfr ffynnon: ffordd y brenin a gerddwn, ni throiwn ar y llaw ddehau, nac ar y llaw asswy, nes i ni fyned trwy dy frô.

18A dywedodd Edom wrtho, na thyrec heibio i mi rhac im ddyfod a’r cleddyf i’th gyfarfod.

19Yna meibion Israel a ddywedasant wrtho, rhyd y briffordd yr awn i fynu: ac os myfi neu fy anifeiliaid a yfwn o’th ddwfr di, rhoddaf ei werth ef, yn vnîc ar fy nhraed yr âf trwodd yn ddiniwed.

20Yntef a ddywedodd ni chei fyned trwodd: a daeth Edom allan i gyfarfod ag ef, a phobl lawer, ac a llaw gref.

21Felly Edom a neccaodd roddi ffordd i Israel trwy ei frô, yna Israel a drodd oddi wrtho.

22A meibion Israel yr holl gynnulleidfa a gychwnnasant Num.33.37o Cades, ac a ddaethant i fynydd Hor.

23A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron ym mynydd Hor, ar derfyn tîr Edom gan ddywedyd.

24Aaron a gesclir at ei bobl, ac ni ddaw i’r tîr yr hwn a roddais i feibion Israel, am i chwi anufyddhau i’m gair wrth ddwfr y gynnen.

25Cymmer Aaron ac Eleazar ei fab, Num.33.38|NUM 33:38. deut.32.50.a dwg hwynt i fynydd Hor.

26A diosc ei wiscoedd oddi am Aaron, a gwisc hwynt am Eleazar ei fab ef: canys Aaron a gesclir, ac a fydd farw yno.

27A gwnaeth Moses megis y gorchymynnodd yr Arglwydd, ac aethant i fynydd Hor, yng-wydd yr holl gynuulleidfa.

28A dioscodd Moses oddi am Aaron ei wiscoedd, ac ai gwiscodd hwynt am Eleazer ei fab, Deut.10.6. deut.32.50.a bu farw Aaron yno ym mhen y mynydd: a descynnodd Moses ac Eleazer o’r mynydd.

29A’r holl gynnulleidfa a welsant farw Aaron, a holl dŷ Israel a ŵylasant am Aaron ddeng-nhiwrnod ar hugain.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help