1Yn y Iere.27.1decfed o’r ddecfed flwyddynar y deuddecfed o’r mîs, y daeth gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd:
2Gosot fab dŷn dy wyneb yn erbyn Pharao brenin yr Aipht, a phrophwyda yn ei erbyn ef, ac yn erbyn yr Aipht oll.
3Llefara, a dywet, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: wele fi i’th erbyn Pharao brenin yr Aipht, y Esa.51.9.morfil mawr, yr hwn sydd yn gorwedd yng-hanol ei afonydd, yr hwn a ddywedodd, eiddo fi fy afon, canys mi gwneuthum i mi.
4Eithr gosodaf fachau yn dy fochgernau, a gwnaf i byscod dy afonydd lynu yn dy emmau, a chodaf di o ganol dy afonydd, îe holl bysc dy afonydd a lynant yn dy emmau.
5A gadawaf di yn yr anialwch, ti a holl byscod dy afonydd, syrthi ar wyneb y maes, ni’th gesclir, ac ni’th gynhullir: i fwyst-filod y maes, ac i ehediaid y nefoedd i’th roddais yn ymborth.
6Yna holl drigolion yr Aipht a gaffant ŵybod mai myfi yr Arglwydd: am eu bod hwynt 2.Bren.28.21.(sic.)|2KI 18:21. Esa.36.6.yn ffon gorsen i dŷ Israel.
7Pan ymaflant ynot â llaw, drylli di, a rhwygi iddynt hwythau bob yscwydd: a phan bwysant arnat, torri, er siccrhau o honot iddynt holl nerth.
8Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: wele fi yn dwyn arnat gleddyf, a thorraf ymmaith o honot ddyn, ac anifail.
9Yna y bydd tîr yr Aipht yn ddinistr, ac yn anrhaith, a chânt ŵybod mai myfi yr Arglwydd: am ddywedyd, eiddo fi yr afon, at myfi ai gwneutham.
10Am hynny wele fi attat, ac at dy afonydd, a gosodaf dir yr Aipht yn ddiffaethwch anrhaithiedic yn ang-hyfannedd: o dŵr Sefeneh, hyd yn nherfyn Ethiopia.
11Ni chynniwer troed dŷn trwyddi, ac ni chynniwer troed anifail trwyddi, at ni’s cyfanneddir ddeugain mhlynedd.
12Canys rhoddaf dîr yr Aipht yn ang-hyfannedd yng-hanol tiroedd ang-hyfanneddol, ai dinasoedd fyddant yn ang-hyfannedd ddeugain mlhynedd yng-hanol dinasoedd anrhaithiedic: pan wascarwyf yr Aiphtiaid ym mysc y cenhedloedd, a phan danwyf hwynt ar hyd y gwledydd.
13Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Iere.46.26.ym mhen neugain mhlynedd y casclaf yr Aiphtiaid o fysc y bobloedd, y rhai y gwascarwyd hwynt attynt.
14A dychwelaf gaethiwed yr Aipht, îe dychwelaf hwynt i nir Pathros, i dîr eu presswylfa: ac yno y byddant yn frenhiniaeth issel.
15Issaf fydd o’r brenhiniaethau, ac nid ymdderchyf mwy ar y cenhedloedd, canys lleihâf hwynt rhag arglwyddiaethu ar y cenhedloedd.
16Ac ni bydd hi mwy i dŷ Israel yn ddiogelwch yn coffau anwiredd, pan droant hwy ar eu hôl hwythau: eithr cânt ŵybod mai myfi yr Arglwydd Dduw.
17Yn y cyntaf, o’r seithfed flwyddyn ar hugain, ar y cyntaf o’r mis y daeth gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd:
18Ha fab dŷn, Nabuchodonosor brenin Babilon a gynniwerodd ai lu mewn gwasanaeth mawr yn erbyn Tyrus: pob pen a foelwyd, a phob yscwydd a ddinoethwyd, ond nid oedd gan Dyrus gyflog iddo ef, ac iw lu, am y gwasanaeth yr hwn a wasanaethodd efe yn ei herbyn, hi.
19Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: wele fi yn rhoddi tir yr Aipht i Nabuchodonosor brenin Babilō, ac efe a gymmer ei gweryn hi, ac a yspeilia ei hyspail hi, ac a ysclyfaetha ei ysclyfaeth hi, fel y byddo yn gyflog iw lû.
20[Am] ei waith yr hwn a wasanaethodd efe ynddi, y rhoddais iddo dîr yr Aipht, o herwydd i mi y gweithiasant medd yr Arglwydd Dduw.
21Yn y dydd hwnnw y gwnaf i gorn tŷ Israel flaguro, a rhoddaf i tithe hyfder ymadrodd: fel y gŵypont mai myfi yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.