1Gweledigaeth Abdias, fel hyn y dywed yr Arglwydd yn erbyn Edom: Ierem.49.14.clywsom air oddi wrth yr Arglwydd, a chennad a hebryngwyd at y cenhedloedd codwch, a chyfodwn i ryfela yn ei herbyn hi.
2Wele, mi a’th roddais yn fychan ym mysc y cenhedloedd, a dibris iawn
3Balchder dy galon a’th dwyllodd, ti yr hwn wyt yn trigo yn holldau y graig, vchelder ei drigfa y mae yn dywedyd yn ei galon, pwy a’m tynn fi i’r llawr?
4Ped ymdderchefyt megis yr eryr, a phe rhoit dy nŷth ym mhlith y sêr, mi a’th ddescynnwn oddi yno, medd yr Arglwydd.
5 Iere.49.9. Ai lladron a ddaethant attat? neu yspeilwŷr nos? pa fodd i’th ostegwyd? oni ladrattasent hwynt eu digon? pe daethe cynhull-wŷr grawn-win attat, oni weddillasent rawn?
6Pa fodd y chwiliwyd Esau, y ceisiwyd ei guddfeudd ef?
7Yr holl wŷr y rhai yr oedd ammod rhyngot â hwynt, a’th yrrasant hyd y terfyn, y gwŷr yr oedd heddwch rhyngot â hwynt a’th dwyllasant, ac a’th orfuant, dy fara a roddasant archoll danat: nid ddeall ynddo.
8Oni ddinistriaf y dydd hwnnw medd yr Arglwydd y doethion allan o Edom, a’r deall allan o fynnydd Esau?
9Dy gedyrn di o Theman a ofnant, am y torrir ymmaith bôb vn o fynydd Esau gan y lladdfa.
10Am y traha dy frawd Iacob, gwarth a’th orchguddia, a thi a dorrir ymmaith bŷth.
11Y dydd y sefaist o’r tu arall, pan gaethgludodd estroniaid ei olud, a myned o ddieithraid iw byrth ef, a bwrw coel-brennau am Ierusalem, tithe hefyd oeddit megis vn o honynt.
12Ni ddylesit ti edrych ar ddydd dy frawd, pan ddieithriwyd ef, ac ni ddylesit lawenychu yn erbyn plant Iuda y dydd y difethwyd hwynt: ac ni ddylesit ledu dy safn ar ddydd y cystudd.
13Ni ddylesit ddyfod o fewn porth fy mhobl y dinistriwyd hwynt, ni ddylesit edrych ar eu hadfyd yn nydd eu dinistr, ac ni ddylesit estyn ar eu golud yn nydd eu difethiad hwynt.
14Ac ni ddylesit sefyll ar y croes-ffyrdd i dorri ymmaith ei rhai diāgol ef, ac ni ddylesit ti fradychu y gweddill o honaw ef ddydd yr adfyd
15Canys agos yw dydd yr Arglwydd ar yr holl genhedloedd, fel y gwnaethost y gwneir i tithe: dy wobr a ddychwelir ar dy ben.
16Canys megis yr yfasoch ar fy mynydd sanctaidd,’r holl genhedloedd a yfant yn oestad: yfant, a llyngcant, a byddant fel pe na buasent.
17Ac ar fynydd Sion y bydd ymwared, ac y bydd sancteiddrwydd: a thŷ Iacob a orescyn eu hetifeddiaethau hwynt.
18Yna y bydd tŷ Iacob Esai.10.17.|ISA 10:17. deut.4.24.|DEU 4:24. heb.12.29yn dân, a thŷ Ioseff yn fflam, a thŷ Esau yn sofl, a chyneuant ynddynt, a difant hwynt; ac ni bydd gweddill i dŷ Esau, am i’r Arglwydd ddywedyd.
19Gorescynnant hefyd du dehau i fynydd Esau, a gwastadedd y Philistiaid, a gorescynnant feusydd Ephraim, a meusydd Samaria, a Beniamin a Gilead.
20A chaeth-glud y llû hwn o blant Israel yr hyn y Canaaneiaid hyd Zarephath’, a chaethion Ierusalem y rhai yn Sepharad a orescynnant ddinasoedd y dehau.
21Dring gwaredwŷr hefyd fynydd Sion i farnu mynydd Esau, a’r frenhiniaeth fydd eiddo’r Arglwydd.
Diweddiad llyfr Abdias.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.