1Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd: ei foliant ef yng-hynnulleidfa y sainct.
2Llawenhaed Israel yn yr hwn ai gwnaeth: gorfoledded meibion Sion yn eu brenin.
3Molant ei enw ef ar y dawns: canant iddo ar dympan a thelyn.
4O herwydd hoffodd yr Arglwydd ei bobl: efe a brydfertha y rhai llednais ag iechydwriaeth.
5Gorfoledded y sainct mewn gogoniant: a chânant yn eu gwelau.
6[Bydded] ardderchog weithredoedd Duw yn eu genau: a chleddyf finioc yn eu dwylo,
7I beri dial ar genhedloedd, a chosb ar y bobloedd:
8I rwymo eu brenhinoedd â chadwynau: ai pendefigion â gefynnau heirn.
9I wneuthur arnynt farn scrifennedic: yr ardderchawgrwydd hyn sydd iw holl sainct ef. Molwch yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
