1.Corinthiaid 5 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. V.Am losc-ach, sef godineb o fewn cyfagos achau, ac am escymmundod. 8 Am gyfeillach â rhai drwg.

1Mae yr gair yn hollawl, fod yn eich plith odineb, a chyfryw odineb, ac na henwir vn-waith ym mysc y cenhedloedd: Lefit.18.8.cael o vn wraig ei dâd.

2Ac yr ydych chwi wedi ymchwyddo, ac ni alarasoch yn hytrach, fel y tynnid o’ch mysc chwi y neb a wnaeth y weithred hon.

3Canys myfi yn ddiau fel absennol yn y corph etto yn bresennol yn yr yspryd, a fernais fel pe byddwn bresennol am yr hwn a wnaeth y peth hyn,

4Gwedi ichwi ymgynnull, a’m hyspryd inne, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, gyd ag awdurdod ein Harglwydd Iesu Grist,

5Ddodi y fath ddyn i Satan, er dinistr ar y cnawd, fel y byddo yr yspryd yn gadwedig yn nydd yr Arglwydd Iesu.

6Nid da yw eich gorfoledd: Gal.5.9.oni wyddoch y sura ychydig lefain yr holl does?

7Am hynny glânheuwch yr hên lefein, fel y byddoch chwi does newydd, megis yr ydych ddilefeinllyd: canys Crist ein Pasc ni a aberthwyd trosom ni.

8Am hynny cadwn ŵyl, nid â’r hên lefein, na lefein drygioni, ac anwiredd, ond â bara croiw purdeb a gwirionedd.

9Mi a scrifennais attoch mewn llythyr, nad ymgymmyscech â godinebwŷr:

10Ac nid yn hollawl â godinebwŷr y byd hwn, neu â’r cybyddion, neu â’r cribddeil-wŷr, neu ag eulyn addolwŷr, pe felly rhaid fydde i chwi fyned allan o’r byd:

11Ond yn awr mi a scrifennais attoch, na wneloch ymgyfeillach: os bydd neb a henwir yn frawd yn odineb-ŵr, neu yn feddw, neu yn eulyn addolwr, neu yn gabl-ŵr, neu yn feddw, neu yn gribddeiliwr, gyd a’r cyfryw vn ni fwyta:

12Canys beth sydd i mi a farnwyf ar y rhai sy oddi allan? onid y rhai sy i mewn yr ydych chwi yn eu barnu?

13Eithr Duw sydd yn barnu y rhai oddi allan, bwriwch ymmaith gan hynny o’ch plith drygionus hwn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help