1 Clodforwch yr Arglwydd canys dâ o herwydd ei drugaredd yn dragywydd.
2Pwy a draetha gadernid yr Arglwydd? a fynega ei holl fawl ef?
3Gwyn eu byd a gadwant farn: hwn a wnêl gyfiawnder bôb amser.
4Cofia fi Arglwydd yn ôl raslonrwydd i’th bobl, ymwel â mi a’th iechydwriaeth.
5Fel y gwelwyf ddaioni dy etholedigion, gan lawenychu yn llawenydd dy genhedlaeth: chan orfoleddu gyd a’th etifeddiaeth.
6Pechasom gyd a’n tadau, gwnaethom gamwedd, anwir fuom.
7Ein tadau ni ddeallasant dy ryfeddodau yn yr Aipht, ni chofiasant luosogrwydd dy drugareddau: eithr annufydd fuant wrth y môr y môr coch.
8Etto efe ai hachubodd hwynt er mwyn ei enw: i beri adnabod ei gadernid.
9Ac a geryddodd y môr coch fel y sychodd efe: a gwnaeth iddynt fyned trwy’r dyfnder megis trwy’r anialwch:
10Achubodd hwynt hefyd o law y digasog: ac ai gwarêdodd o feddiant y gelyn.
11A’r dyfroedd a doâsant eu gwrthwyneb-wŷr: ni adawyd vn o honynt.
12Yna y credâsant iw eiriau ef: y canâsant ei fawl ef.
13Yn y fan yr anghofiasant ei weithredoedd ef, ni ddisgwiliasant am ei gyngor ef.
14Eithr blyssiâsant yn ddirfawr yn yr anialwch: a themtiâsant Dduw yn y diffaethwch.
15Ac efe a roddes eu dymuniad iddynt, ac a anfonodd gulni arnynt.
16Cyffroasant hefyd Moses yn y gwersyll: Aaron sanct yr Arglwydd.
17Y ddaiar a agorodd, ac a lyngcodd Ddathan, ac a orchguddiodd gynnulleidfa Abiram.
18Cynneuodd tân hefyd yn eu cynnulleidfa hwynt: fflam a loscodd y rhai annuwiol.
19Llô a wnaethant yn Horeb: ac ymgrymmasant i’r ddelw dawdd.
20Felly y troâsant eu gogoniant i lûn eidion yn poru glas-wellt.
21Anghofiasant Dduw eu hachub-wr, yr hwn a wnelse mawrion yn yr Aipht.
22[Pethau] rhyfedd yn nhîr Ham: pethau ofnadwy wrth y môr coch.
23Ac efe a ddywedase am eu dinistrio hwynt, oni buase i Moses ei etholedig ef sefyll ar yr adwy oi flaen ef, i droi ei llidiawgrwydd rhag dinistrio.
24Diystyrasant hefyd y tîr dymunol: ni chredâsant ei air ef.
25Ond grwgnachâsant hefyd yn eu pebyll: ac ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd.
26Yna y derchafodd efe ei law yn eu herbyn hwynt, iw cwympo yn yr anialwch,
27Ac i gwympo eu had ym mysc y cenhedloedd, ac iw gwascâru hwynt drwy’r tiroedd.
28Ymgymharâsant hefyd a Baalpeor, a bwyttasant ebyrth y meirw.
29Felly y digiasant ai dychymmygion eu hunain: ac y tarawodd plâ yn eu mysc hwy.
30Yna y safodd Phinehes, ac a iawn farnodd: a’r plâ a attaliwyd.
31A chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder: o genhedlaeth i genhedlaeth byth.
32Llidiâsant ef hefyd wrth Num.20.13.ddyfroedd y gynnen: a drygwyd Moses oi plegit hwynt.
33O herwydd cythruddo o honynt ei yspryd ef, fel y camddywedodd ai wefusau.
34Ni ddinistriâsant y bobloedd, megis y dywedase’r Arglwydd wrthynt.
35Eithr ymgymmyscâsant a’r cenhedloedd: a dyscâsant eu gweithredoedd hwynt.
36A gwasanaethâsant eu gau dduwiau hwynt, y rhai a fuant yn fagl iddynt:
37Aberthâsant hefyd eu meibion, ai merched i gythreuliaid,
38Ac a dywalltâsant waed gwirion gwaed eu meibion, ai merched, y rhai a aberthâsant i gau dduwiau Canaan, ac a halogwyd y tîr a’r gwaed.
39Felly’r ymhalogâsant yn eu gweithredoedd eu hun, ac y putteiniasant gyd ai dychymygion.
40Am hynny y cynneuodd dîg yr Arglwydd yn erbyn ei bobl, ac y ffieiddiodd efe ei etifeddiaeth.
41Ac efe ai rhoddes hwynt yn llaw’r cenhedloedd, ai caseion a lywodraethâsant arnynt.
42Eu gelynnion hefyd ai gorthrymmâsant, a goostyngwyd hwynt tān eu dwylo hwy.
43Llawer gwaith y gwarêdodd efe hwynt, hwythau ai digiâsant ai cyngor eu hun: a hwynt a gystuddiwyd am eu hanwiredd.
44Ond efe a edrychodd pan oedd ing arnynt: pan glywodd eu llefain hwynt.
45Ac efe a gofiodd ei gyfammod â hwynt, ac a dosturiodd yn ôl lluosogrwydd ei drugareddau.
46Ac ai rhoes hwynt i trugaredd o flaen y rhai oll ai caethiwasent hwy.
47Achub ni ô Arglwydd ein Duw: a chynnull ni o blîth y cenhedloedd, i glodfori dy enw sanctaidd: ac i orfoleddu yn dy foliant.
48Bendigedic yw Arglwydd Dduw Israel er ioed, ac yn dragywydd: a dyweded yr holl bobl, felly y byddo. Molwch yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.