1Clodforwch yr Arglwydd, canys dâ yw, o herwydd ei drugaredd yn dragywydd.
2Dyweded Israel yr awr hon mai yn dragywydd ei drugaredd ef.
3Dyweded tŷ Aaron yn awr, mai’n dragywydd ei drugaredd ef.
4Yn awr dyweded y rhai a ofnant yr Arglwydd mai’n dragywydd ei drugaredd.
5Mewn ing y gelwais ar yr Arglwydd, yr Arglwydd a’m clybu, mewn ehangder.
6 Heb.13.6. Yr Arglwydd gyd â mi, nid ofnaf beth a wnel dŷn i mi.
7Yr Arglwydd gyd â mi ym mhlith fyng-hynorthwy-wŷr: a mi a gâf weled ar fyng-haseion.
8Gwell gobeithio yn yr Arglwydd, na gobeithio mewn dŷn.
9Gwell gobeithio yn yr Arglwydd, na gobeithio mewn tywysogion.
10Yr holl genhedloedd am hamgylchynâsant: ond yn enw’r Arglwydd y torraf hwynt ymmaith.
11Amgylchynâsant fi, îe amgylchynâsant fi, ond yn enw’r Arglwydd y torraf hwynt ymmaith.
12Amgylchynâsant fi fel gwenyn, diffoddâsant fel tân drain: o herwydd yn enw’r Arglwydd y torraf hwynt ymmaith.
13Gan wthio y gwthiaist fi i syrthio: a’r Arglwydd a’m cynnorthwyodd.
14Yr Arglwydd fy nerth cân: ac sydd iechydwriaeth i mi.
15Llef gorfoledd, ac iechydwriaeth ym mhebyll y cyfiawn: deheulaw’r Arglwydd sydd yn gwneuthur grymmusder.
16Deheu-law’r Arglwydd a dderchafwyd, deheulaw’r Arglwydd sydd yn gwneuthur grymmusder.
17Ni byddaf farw eithr byw fyddaf: a mynegaf weithredoedd yr Arglwydd.
18Gan gospi i’m cospodd yr Arglwydd: ond ni’m rhoddodd i farwolaeth.
19Agorwch i mi byrth cyfiawnder yr elwyf iddynt, y clodforwyf yr Arglwydd.
20Dymma borth yr Arglwydd, y rhai cyfiawn a ânt iddo.
21Clodforaf di, o herwydd i ti fyng-wrando, a’th fod yn iechydwriaeth i mi.
22Y maen a wrthododd yr adeilad-wŷr a aeth yn benn congl.
23O’r Arglwydd y daeth hyn, hynny ryfedd yn ein golwg ni.
24Dymma’r dydd a wnaeth yr Arglwydd, gorfoleddwn, a llawenychwn ynddo.
25Attolwg Arglwydd achub yn awr, attolwg Arglwydd pâr yn awr lwyddiant.
26Bendigedic yw a ddelo yn enw’r Arglwydd: bendithiâsom chwi o dŷ’r Arglwydd.
27Yr Arglwydd Dduw, ac a lewyrchodd i ni: rhwymwch yr aberth â rhaffau wrth gyrn yr allor.
28Fy Nuw ti, am hynny i’th glodforaf, derchafaf di fy Nuw.
29Clodforwch yr Arglwydd canys da o herwydd yn dragywydd ei drugaredd ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
