1Hiram hefyd brenin Tyrus a anfonodd ei weision at Salomon, pan glybu efe eneinio o honynt hwy ef yn frenin yn lle ei dâd: canys hoff oedd gan Hiram Ddafydd bob amser.
2Yna yr 2.Cron.2.3.anfonodd Salomon at Hiram gan ddywedyd:
3Ti a ŵyddost am Ddafydd fy nhâd, na alle efe adailadu tŷ i enw’r Arglwydd ei Dduw, gan y rhyfeloedd y rhai ai hamgylchynasent ef, nes rhoddi o’r Arglwydd hwynt dan wadnau ei draed ef.
4Eithr yn awr yr Arglwydd fy Nuw a barodd i mi lonydd oddi amgylch, nid gwrthwynebudd, nac ymgyfarfod niweidiol.
5Ac wele fi yn meddwl adailadu tŷ i enw’r Arglwydd fy Nuw, 2.Sam.7.13. 1.Cron.22.10.megis y llefarodd yr Arglwydd wrth Ddafydd fy nhad gan ddywedyd: dy fab yr hwn a roddaf yn dy lê di, ar dy orseddfaingc di, efe a adailada dy i’m henw i.
6Yn awr gan hynny gorchymyn dorri o honynt i mi cedr-wŷdd o Libanus, a’m gweision a fyddant gyd a’th weision di, a rhoddaf attat gyflog dy weision yn ôl yr hyn a ddywedech: canys ti a ŵyddost nad yn ein plith ni ŵr a fedro gymmynu coed megis y Sidoniaid.
7A bu pan glybu Hiram eiriau Salomon lawenychu o honaw ef yn ddir-fawr, a dywedyd: bendigedic’r Arglwydd heddyw, ’r hwn a roddes i Ddafydd fab doeth ar y bobl luosog ymma.
8A Hiram a anfonodd at Salomon gan ddywedyd: gwrandewais ar yr hyn a anfonaist attaf: mi a wnaf dy holl ewyllys di am goed cedr-wŷdd, a choed ffynnidwŷdd.
9Fyng-weision ai dygant i wared o Libanus hyd y môr: ac mi ai gyrraf hwynt yn glydeiriau ar hyd y môr, hyd y fann lle’r anfonech attaf: ac yno y gwascaraf hwynt, a chymmer di ond ti a wnei fy ewyllys inne, gan roddi ymborth i’m tŷ i.
10Felly yr oedd Hiram yn rhoddi i Salomon o goed cedr-wŷdd, ac o goed ffynnidwŷdd ei holl ddymuniad.
11A Salomon a roddodd i Hiram vgain mil Corus o wenith yn gynhelieth iw dŷ ef, ac vgain Corus o olew coeth: felly y rhoddes Salomon i Hiram bob blwyddyn.
12A’r Arglwydd a roddes ddoethineb i Salomon fel Pen.3.12.y dywedase wrtho ef: a bu heddwch rhwng Hiram a Salomon, a hwy a wnaethant gyfammod ill dau.
13A’r brenin Salomon a gyfododd drêth o holl Israel, a’r drêth oedd ddeng-mil ar hugain o wŷr.
14Ac efe ai hanfonodd hwynt i Libanus, deng-mil yn y mîs gylch: mîs y byddent yn Libanus, a dau fis gartref, ac Adoniram oedd ar y drêth.
15Ac yr oedd gan Salomon ddeng-mil a thrugain yn cludo llwythau, a phedwar vgain mil yn naddu cerrig yn y mynydd.
16Heb law y tywysogion y rhai oeddynt yn llywodraethu tann Salomon, y rhai dair mil, a thry-chant, ar y gwaith, yn llywodraethu y bobl y rhai a weithient yn y gwaith.
17A’r brenin a orchymynnodd ddwyn o honynt hwy feini mawr, a meini gwerthfawr, meini nadd i sylfaenu y tŷ.
18Felly seiri Salomon, a seiri Hiram, a’r Gibliaid a naddasant, ac a ddarparasant goed, a cherrig i adailadu’r tŷ.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.