Daniel 11 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XI.Prophwydoliaeth am amryw frenhiniaethau.

1Ac yn y flwyddyn gyntaf i Ddarius Medus y sefais i, yn gyssur ac yn nerth iddo ef.

2Ac yr awr hon y gwirionedd a fynegaf i ti, wele tri brenin etto a safant o fewn Persia, a’r pedwerydd a fydd cyfoethocach nâ hwynt oll: ac fel yr ymgadarnhao efe yn ei gyfoeth, y cyfyd efe bawb yn erbyn teyrnas Groec.

3A brenin cadarn a gyfyd, ac a lywodraetha yn gadarn, ac a wna fel y mynno.

4A phan safo efe, dryllîr ei deyrnas, a rhennir hi tua phedwar gwynt y nefoedd, ond nid iw hiliogaeth ef, nac fel y llywodraeth yr hon a lywodraethodd efe: o herwydd ei frenhiniaeth ef a ddiwreiddir, ac i eraill heb law y rhai hyn.

5Yna y cryfhâ brenin y deau, ac oi dywysogion, îe efe a gryfha, ac a lywodraetha vwch ei law ef, llywodraeth fawr ei lywodraeth ef.

6Ac yn niwedd blynyddoedd yr ymgymharant hwy, yna merch brenin y deau a ddaw at frenin y gogledd i wneuthur cymmod, ond ni cheidw hi nerth braich, ac ni saif ei fraich yntef: canys y rhoddir hi a’r rhai ai dygasant hi, ei mab hefyd, ai chymmorth-wr yn yr amseroedd

7Eithr yn ei lê ef y saif allan o fōnion ei gwraidd hi, ac a ddaw â llu, ac a aiff i gastell brenin y gogledd, ac a wna yn eu herbyn hwy ac a orchfyga,

8Ac a ddwg hefyd mewn caethiwed i’r Aipht eu duwiau hwynt, ai tywysogion ai dodrefn annwyl o arian, ac aur, ac efe a beru flynyddoedd nâ brenin y gogledd.

9A brenin y deau a ddaw iw deyrnas, ac a ddychwel iw dir ei hun.

10A’i feibion a ymosodant, ac a gasclant gymanfa o luoedd mawrion, a chan ddyfod y daw ac a lifeiria, ac a aiff trosodd, yna efe a ddychwel, ac a ymesyd wrth ei amddeffynfa yntef.

11Yna y cyffru brenin y deau, ac a aiff allan ac a ymladd ag ef â brenin y gogledd, ac efe a gyfyd dyrfa fawr, a’r dyrfa a roddir iw law ef.

12Pan gymmerir ymmaith y dyrfa y dercha efe ei galon, ond pe cwympe efe fyrddiwn, er hynny ni bydde efe cryfach.

13Canys brenin y gogledd a ddychwel, ac a gyfyd gymanfa fwy na’r gyntaf, ac ym mhen ennyd o flynyddoedd gan ddyfod y daw â llu mawr, ac â chyfoeth mawr.

14Ac yn yr amseroedd hynny llawer a safant yn erbyn brenin y deau, a chyndyn feibion dy bobl a ymdderchafant i siccrhau’r weledigaeth, ond hwy a syrthiant.

15Yna y daw brenin y gogledd, ac a fwrw glawdd, ac a ennill y dinasoedd caeroc, ond breichiau y deau ni safant, na’r bobl a ddewiso efe: ac ni bydd nerth i barhau.

16A’r hwn a ddaw atto ef, a wna fel y mynno, ac ni a safo oi flaen, yna y saif yn y wlâd hyfryd, a thrwy ei law ef y derfydd hi.

17Ac efe a esyd ei wyneb ar fyned â chryfder ei holl deyrnas, a rhai iniawn gyd ag ef, felly y gwnaiff: ac efe a rydd iddo ferch wreigaidd, gan ei llygru hi, ond nid erys hi, ac ni bydd ar ei du ef.

18Yna y trŷ efe ei wyneb at ynysoedd, ac a ennill lawer, a phennaeth a luddia ei warth ef atto, yn ddiwarth ai dettry arno ef.

19Ac efe a drŷ ei wyneb at gestyll ei dîr, ac a dramgwydda, ac a syrth, ac ni’s ceir ef.

20Ac yn ei le ef y saif vn a gyfyd drethau yng-ogoniant y deyrnas, ac o fewn ychydig ddyddiau y destruwir ef: a nid mewn dig, nac mewn rhyfel.

21Ac yn ei le yntef y saif dirmygus, ac ni roddant iddo ef ogoniant y deyrnas: eithr efe a ddaw yn llonydd, ac a ymeifl yn y frenhiniaeth trwy weniaith.

22A llifeiriant a lifa tros y breichiau oi flaen ef, yna y dryllir hwynt, a thywysog y cyfammod hefyd.

23Ac wedi ymgyfeillach ag ef, y gwna efe dwyll, ac y daw efe i fyny, ac a orchfyga ag ychydig bobl.

24I dalaith lonydd a brâs y daw efe, ac a wna yr hyn ni wnaeth ei dadau ef, na thadau ei dadau ef: ysclyfaeth, ac yspail, a golud a dospartha efe iddynt, ac ar gestyll y bwriada efe fwriadau, a tros amser.

25Ac efe a gyfyd ei nerth, ai galon yn erbyn brenin y deau â llu mawr, a brenin y deau a ymesyd, i ryfel â llu mawr, a chrŷf iawn: ond ni saif efe, canys bwriadant fwriadau yn ei erbyn ef.

26Y rhai a fwyttânt ran oi fwyd ef, ai briwant ef, ai lu ef a lifeiria, a lladdedigion lawer a syrthiant.

27Calon y ddau frenin hyn ar wneuthur drwg, ac ar vn bwrdd y traethant gelwydd, ond ni thyccia: canys bydd etto ddiwedd ar amser nodedic.

28Ac efe a ddychwel iw dîr ei hun â chyfoeth mawr, ai galon yn erbyn y cyfammod sanctaidd: felly y gwna efe, ac y dychwel iw wlâd.

29Ar amser nodedic y dychwel, ac y daw tua’r deau, ac ni bydd y waith olaf fel y waith gyntaf.

30Canys llongau Chittim a ddeuant yn ei erbyn ef, yna ’r ymofodia, ac y dychwel, ac y digia wrth y cyfammod sanctaidd: felly y gwna efe, ac y dychwel, ac efe a ymgynghora â’r rhai a adawant y cyfammod sanctaidd.

31Breichiau hefyd a safant ar ei du ef, ac a halogant gyssegr yr amddeffynfa, ac a ddygant ymmaith y gwastadol ac a roddant y ffieidd-dra anrheithiol.

32Ac efe a wna i droseddwŷr y cyfammod bechu trwy weniaith: eithr y bobl a adwaenant eu Duw a orchfygant, ac a ffynnant.

33A’r rhai synhwyrol ym mysc y bobl a ddyscant lawer, etto syrthiant trwy’r cleddyf, ac mewn tân, mewn caethiwed, ac mewn yspail ddyddiau lawer.

34A phan syrthiant, â chymmorth bychan y cymhorthir hwynt, eithr llawer a lŷnant wrthynt hwy yn wenieithgar.

35A’r rhai deallgar a syrthiant iw puro, ac iw glanhau, ac iw cannu hyd ddiwedd yr amser, canys ar amser nodedic etto

36A’r brenin a wna wrth ei ewyllys ei hun, ac a ymddercha, ac a ymfawryga yn erbyn pôb Duw: îe yn erbyn Duw yr duwiau y traetha efe bethau rhyfedd, ac a lwydda hyd ddiwedd digter, am ei ordeinio y gwnaed

37Nid ystyr efe am Dduw ei dadau, nac am serch ar wragedd, îe nid ystyr am vn duw: canys goruwch pawb yr ymddercha efe.

38Ac efe a anrhydedda y duw Mauzzim yn ei le ef, îe duw yr hwn nid adwaene ei dadau a ogonedda efe ag aur, ac ag arian, ac â meini gwerthfawr, ac ag annwyl bethau.

39Fel hyn y gwna efe yng-hestyll Mauzzim gyd â duw dieithr, efe a chwanega ei ogoniant y rhai a gydnabyddo efe, ac a wna iddynt lywodraethu ar lawer, ac a ranna y tir am werth.

40Ac yn niwedd amser yr ymgornia brenin y deau ag ef, a brenin y gogledd a chwyth fel corwŷnt yn ei erbyn ef, â cherbydau, ac â marchogion, ac â llongau lawer, ac efe a ddaw i’r tiroedd, ac a lifa ac a drammwya.

41Ac efe a ddaw i’r hardd-wlad, a llawer a syrthiant, a’r rhai hyn a ddiangant oi law ef, Edom, a Moab, a phennaethiaid meibion Ammon.

42A phan estynno ei law ar wledydd, gwlad yr Aipht ni bydd ddiangol.

43Eithr efe a lywodraetha ar dryssorau aur, ac arian, ac ar holl annwyl bethau yr Aipht: y Libiaid hefyd, a’r Ethiopiaid gyd ag ef.

44Eithr chwedlau o’r dwyrain, ac o’r gogledd ai dychrynnant ef, ac efe a aiff allan mewn llid mawr i ddifetha, ac i ddifrodi llawer.

45Ac efe a esyd babellau ei lŷs rhwng y moroedd, ar yr hardd fynydd sanctaidd, ac a ddaw hyd ei derfyn, ac ni cynnorthwywr iddo.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help