1Eithr mi a fwriadais hyn ynof fy hunan, na ddelwn attoch trachefn mewn tristwch.
2O blegit as myfi â’ch tristâf chwi, pwy yw’r hwn a’m llawenhâ fi, ond yr hwn a dristawyd gennifi?
3Ac mi a scrifennais hyn ymma attoch, rhag (pan ddelwn) cael o honof dristwch ar dristwch gan y rhai y dylwn ymlawenhau: gan obeithio am danoch oll, fod fy llawenydd i yn llawenydd i chwi oll.
4Canys mewn gorthrymder mawr, a chyfyngder calon yr scrifennais attoch â dagrau lawer, nid fel i’ch tristaid chwi, eithr fel y gwybyddech y cariad sy gennif yn enwedig i chwi.
5Os gwnaeth nêb dristau, ni wnaeth efe i mi dristau, ond o rann, rhag i mi bwyso arnoch chwi oll.
6Digon cyfryw y cerydd ymma yr hwn a rodded iddo gan lawer.
7Megis yn hytrach yng-wrthwynêb, y dylech chwi faddeu iddo ai ddiddânu, rhag llyngcu y cyfryw gan ormod tristwch.
8Am hynny yr ydwyf yn attolwg i chwi, gadarnhau eich cariad arno.
9Canys er mwyn hyn hefyd yr scrifennais, fel y cawn ŵybod profedigaeth am danoch, a fyddech vfydd ym mhob peth.
10I’r hwn yr ydych yn maddeu dim iddo, finne: canys os maddeuais ddim, i’r hwn y maddeuais, er eich mwyn chwi, yng-olwg Crist;
11Rhag ein siommi gan Satan: canys nid ydym heb ŵybod ei amcannion ef.
12Pan ddaethym i Troas i Efengyl Grist, ac agoryd drŵs gan yr Arglwydd,
13Ni chefais lonydd yn fy yspryd am na chefais Titus fy mrawd, eithr gan ganu yn iach iddynt, mi a euthym ymmaith i Macedonia.
14Ond i Dduw y byddo ’r diolch, yr hwn yn oestad sydd yn peri i ni oroledd yng-Hrist, ac sydd yn eglurhau arogledd ei ŵybodaeth trwyddom ni ym mhôb lle.
15Canys per-arogl Crist ydym ni i Dduw, yn y rhai cadwedig, ac yn y rhai colledig:
16I’r naill yr yn arogl marwolaeth i farwolaeth, ac i’r lleill, yn arogl bywyd i fywyd, a phwy sydd ddigonol i hyn?
17Canys nid ydym ni fel y mae llawer, yn gwneuthur twyll am air Duw, eithr megis o burdeb, eithr megis o Dduw, yng-wydd Duw yr ydym yn llefaru yng-Hrist.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
