Numeri 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Rhif, lle, a swyddau y Lefiaid: y rhai a ddewisodd yr Arglwydd i wasanaethu yn ei babell ef, yn lle y cyntafanedic, neu y cynfab.

1Ac dymma genhedlaethau Aarō, a Moses: ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ym mynydd Sinai.

2Dymma henwau meibion Aaron, y Exod.6.23.cyntaf-anedic Nadab, yna Abihu, Eleazar, ac Ithamar.

3Dymma henwau Lefit.8.2. Edod.28.1.meibion Aaron yr offeiriaid eneinioc y rhai a gyssegrodd efe i offeiriadu.

4A Leuit.10.1.|LEV 10:1. Num.26.61. 1.Cron.24.2.marw a wnaeth Nadab, ac Abihu ger bron yr Arglwydd, pan offrymmasant Lefit.10.1.dân dieithr ger bron yr Arglwydd yn anialwch Sinai: a meibion nid oedd iddynt, am hynny yr offeiriadodd Eleazar ac Ithamar yng-ŵydd Aaron eu tâd.

5A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd.

6Nessâ di lwyth Num.18.2.Lefi, a gwna iddo sefyll ger bron Aaron yr offeiriad, fel y gwasanaethant ef.

7A gwnant wasanaeth drosto ef, a gwasanaeth dros yr holl gynnulleidfa, o flaen pabell y cyfarfod, gan wasanaethu gwasanaeth y tabernacl.

8A chadwant holl ddodrefn pabell y cyfarfod, a wasanaeth dros feibion Israel, gan wasanaethu gwasanaeth y tabernacl.

9A thi a roddi y Num.8.16.Lefiaid i Aaron, ac iw feibion, y rhai ydynt wedi eu rhoddi yn rhodd iddo ef o feibion Israel.

10Ac vrdda di Aaron ai feibion i gadw eu hoffeiriadaeth: a’r dieithr-ddyn a ddelo yn agos a roddir i farw.

11Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd.

12Wele mi a gymmerais y Exod.13.2. Num.8.14. Exod.34.19.Lefiaid o blith meibion Israel yn lle pob cyntaf-anedic agorydd croth o feibion Israel: a’r Lefiaid fyddant eiddo fi.

13Canys eiddo fi pob cyntafanedic er y dydd y tarewais y cyntafanedic yn nhîr yr Aipht, Lefit.27.26. Luc.2.23.cyssegrais i’m fy hun bob cyntafanedic yn Israel o ddyn ac anifail: eddo fi ydynt, myfi yr Arglwydd.

14Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai gan ddywedyd.

15Cyfrif feibion Lefi yn ôl tŷ eu tadau, drwy eu teuluoedd, cyfrif hwynt pob gwryw o fab misyriad ac vchod.

16A Moses ai cyfrifodd hwynt wrth air yr Arglwydd, fel y gorchymynnasid iddo.

17A’r rhai hyn oeddynt feibion Genes.46.11|GEN 46:1. Exod.6.16. Num.26.57. 1.Cron.6.1. 1.Cron.23.6Lefi wrth eu henwau, Gerson, Cehath hefyd, a Merari.

18Ac dymma henwau meibion Gerson yn ol eu teuluoedd: Libni a Semei.

19A meibion Cehath, yn ôl eu teuluoedd: Amram, Iesaar, Hebron, ac Oziel.

20A meibion Merari yn ôl eu teuluoedd, Maheli, a Musi: dymma hwynt teuluoedd Lefi wrth dŷ eu tadau.

21O Gerson ty-lwyth y Libniaid, a thy-lwyth y Simiaid: dymma hwynt teuluoedd y Gersoniaid.

22Eu rhifedigion hwynt dan rif pob gwryw o fâb misyriad, ac vchod, eu rhifedigion saith mil a phump cant.

23Teuluoedd y Gersoniaid a werssyllant ar y tu ôl i’r tabernacl tua’r gorllewyn.

24A phennaeth tŷ tâd y Gersoniaid Eliazaph mab Lael.

25Gorchwyliaeth meibion Gerson ym mhabell y cyfarfod y tabernacl, a’r babell-lenn, ei thô a chaead-len drws pabell y cyfarfod.

26A throelloc lenni y cynteddfa, a chaeadlen drws y cynteddfa yr hwn yng-hylch y tabernacl, a’r allor o amgylch, ai rhaffau iw holl wasanaeth.

27Ac o Gehath ty-lwyth yr Amramiaid, a thy-lwyth y Iesariaid, a thy-lwyth yr Hebroniaid, a thy-lwyth yr Ozeliaid: dymma hwynt ty-lwyth y Cehathiaid.

28O rif pob gwryw o fab misyriad ac vchod, wyth mil a chwe chant yn gorchwylio y cyssegr.

29Teuluoedd meibion Cehath a werssyllant ar ystlys dehau i’r tabernacl.

30A phennaeth y tŷ pennaf o dy-lwyth y Cehathiaid Elisaphan mab Oziel.

31Ai gorchwyliaeth hwynt yr Arch, a’r bwrdd, a’r canhwyllbren, a’r allorau, a llestri y cyssegr, y rhai y gwasanaethant a hwynt, a’r gaead-len, ai holl wasanaeth.

32A chapten a’r bennaethiaid y Lefiaid Eleazar mab Aaron yr offeiriad: awdurdod a’r wenidogion y cyssegr.

33O Merari ty-lwyth y Maheliaid, a thy-lwyth y Musiaid: dymma hwynt ty-lwyth Merari.

34Ai rhifedigion hwynt, o gyfrif pob gwryw o fab misyriad ac vchod, chwe mil a deu cant.

35A phennaeth y tŷ pennaf o dy-lwyth Merari Zuriel mab Abihael: ar ystlys y tabernacl y gwerssyllant tua’r gogledd.

36A gorchwyliaeth meibion Merari ystyllod y tabernacl, ai drossolion, ai golofnau, ai forteisian, ai holl offer, ai holl wasanaeth.

37A cholofnau y cynteddfa o amgylch, ai morteisiau, ai hoelion, ai rhaffau.

38A’r rhai a werssyllant o flaen y tabernacl, tua’r dwyrain o flaen pabell y cyfarfod oddi wrth godiad haul Moses ac Aaron, ai feibion y rhai a gadwant orchwyliaeth y cyssegr, a gorchwyliaeth meibiō Israel: a’r dieithr a ddelo yn agos a roddir i farwolaeth.

39Holl rifedigion y Lefiaid y rhai a rifodd Moses ac Aaron wrth eu teuluoedd yn ol gair yr Arglwydd, pob gwryw o fab misyriad ac vchod ddwy fil ar hugain.

40A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses cyfrif bob cyntaf-anedic gwryw o feibion Israel, o fab misyriad ac vchod, a chymmer rifedi eu henwau hwynt.

41A chymmer Num.8.14.y Lefiaid i mi (myfi yr Arglwydd) yn lle pob cyntaf-anedic o feibion Israel: ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle pob cyntaf-anedic o anifeiliaid meibion Israel.

42A Moses a rifodd megis y gorchymynnodd yr Arglwydd iddo bob cyntaf-anedic o feibion Israel.

43A’r rhai cyntafanedic oll, o rai gwryw dan rif henwau, o fab misyriad ac vchod oeddynt drwy eu rhifedigion, yn ddwy fil ar hugain, a dau cant, a thri ar ddec a thrugain.

44A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd.

45Cymmer y Lefiaid yn lle pob cyntafanedic o feibion Israel: ac anifeiliaid y Lefiaid, yn lle eu hanifeiliaid hwynt: a bydded y Lefiaid i mi: myfi ydwyf yr Arglwydd.

46Ac y tri ar ddec a thrugain a’r ddau cant gwaredic (y rhai ydynt dros ben y Lefiaid) o gyntaf-anedic meibion Israel,

47Cymmer hefyd bum sicl Exod.30.13. Lefit.27.25. Num.18.16.am bob penn, o sicl y cyssegr y cymmeri, vgain Gerah[fydd] y sicl.

48A dod ti yr arian i Aaron, ac iw feibion y rhai gwaredic a fyddant yn chwaneg arnynt.

49A chymmerodd Moses arian y gwaredigaeth gan y rhai oeddynt yn chwaneg ar y rhai a waredasid am y Lefiaid.

50Gan gyntafanedic meibion Israel y cymmerodd efe yr arian: pump a thrugain a thry chânt, a mil o siclau y cyssegr.

51A Moses a roddodd arian y gwaredigion i Aaron ac iw feibion, yn ôl gair yr Arglwyd megis y gorchymynnase’r Arglwydd i Moses.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help