1Ac yn y bedwar-vgeinfed, 2.Cron.3.1.a phedwar cant o flynyddoedd wedi dyfod meibion Israel allan o’r Aipht, yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad Salomon ar Israel, yn y mîs Zif (hwnnw yw’r ail mîs) yr adailadodd efe dŷ i’r Arglwydd.
2A’r tŷ’r hwn a adailadodd y brenin Salomon i’r Arglwydd dri vgain cufydd ei hŷd, ac yn vgain cufydd ei lêd, ac yn ddêc cufydd ar hygain ei vchter.
3A’r porth o flaen teml y tŷ vgain cufydd ei hyd, yn vn hyd a llêd y tŷ, yn ddêc cufydd ei lêd wrth dalcen y tŷ.
4Ac efe a wnaeth i’r tŷ ffenestri, yn llydan oddi allan, ac yn gyfyng oddi fewn.
5Ac efe a adailadodd wrth bared y tŷ stafelloedd oddi amgylch pared y tŷ, yng-hylch y deml, a’r gafell: ac a wnaeth gelloedd o amgylch.
6Yr stafell isaf bump cufydd ei llêdd, a’r ganol chwe chufydd ei llêd, a’r drydedd yn saith gufydd ei lled: canys efe a roddase attegion o’r tu allan i’r tŷ oddi amgylch, fel nad attegyd ym mharwydydd y tŷ.
7A’r tŷ pan adailadwyd ef, a adailadwyd o gerrig wedi eu cwbl naddu yn y gloddfa: felly ni chlybuwyd yn nhŷ’r Arglwydd wrth ei adailadu ef na morthwylion, na bwyîll, vn offeryn haiarn.
8Drws y gell ganol ar ystlys dehau y tŷ, ac ar hŷd grisieu troedic y dringid i’r ganol, ac o’r ganol i’r drydedd.
9Felly yr adailadodd efe y tŷ, ac ai gorphennodd: ac a fyrddiodd y tŷ a chleder ac ag ystyllod o cedr-wŷdd.
10Ac efe a adailadodd stafell wrth yr holl dŷ yn bump cufydd ei huchter: ac mewn coed cedr yr ymgyssyllte a’r tŷ.
11Yna y daeth gair yr Arglwydd at Salomon, gan ddywedyd:
12Dymma y tŷ yr hwn yr ydwyt ti yn ei adailadu, os rhodi di yn fy neddfau i, a gwneuthur fy marnedigaethau, a chadw fy holl orchymynnion gan rodio ynddynt: yna y cyflawnaf a thi fyng-air 2.Sam.7.33.(sic.)yr hwn a leferais wrth Ddafydd dy dâd.
13Ac mi a bresswyliaf Exod.25.22.ym mysc meibion Israel, ac ni adawafi fy mhobl Israel.
14Felly’r adailadodd Salomon y tŷ, ac ai gorphennodd.
15Ac efe a fyrddiodd barwydydd y tŷ oddi fewn ag ystyllod cedr-wydd, o lawr y tŷ hyd y llogel y byrddiodd efe ef a choed oddi fewn: byrddiodd hefyd lawr y tŷ a phlangciau o ffynnidwŷdd.
16Ac efe a fyrddiodd vgain cufydd o ystlyssau’r tŷ ag ystyllod cedr, o’r llawr hyd y parwydydd: felly’r adailadodd iddo o fewn y gafell yn y cyssegr sancteiddiolaf.
17A’r tŷ oedd yn ddeugain cufydd, sef y deml oddi fewn.
18A’r cedr-wŷdd yn tŷ oddi fewn wedi eu cerfio yn gnappiau, ac yn flodau gwascaredic: y cwbl cedr-wydd, ni welyd carrec.
19Y gafell a ddarparodd efe ynghanol y tŷ o fewn: i roddi yno Arch cyfammod yr Arglwydd.
20Ac o fewn y gafell vgain cufydd o hŷd, ac vgain cufydd o lêd, ac vgain cufydd ei huchter: ac efe ai gwiscodd ag aur pûr, felly y gwiscodd efe’r allor o cedr-wŷdd.
21Salomon hefyd a wiscodd y tŷ oddi fewn ag aur pûr, ac a roddes farrau ar draws wrth gadwyni aur o flaen y gafell, ac a wiscodd hynny ag aur.
22Ie’r holl dŷ a wiscodd efe ag aur, nes gorphen yr holl dŷ: yr allor hefyd oll yr hon wrth y gafell a wiscodd efe ag aur.
23Ac efe a wnaeth yn y gafell ddau o Gerubiaid, o bren oliwŷdd, ddêc cufydd ei vchter.
24A’r naill aden i’r Cerub bump cufydd, a’r aden arall i’r Cerub bump cufydd: dêc cufydd o’r naill gwrr iw adenydd ef hyd y cwrr arall iw adenydd ef.
25A’r ail Cerub oedd o ddêc cufydd: vn fesur, ac vn agwedd i’r ddau Gerub.
26Uchter y naill Gerub o ddêc cufydd: ac felly y Cerub arall.
27Ac efe a roddodd y Cerubiaid yng-hanol y tŷ oddi fewn, ac Exod.25.20.adenydd y Cerubiaid a ymledasant fel y cyffyrddodd aden y naill a’r bared, ac aden y Cerub arall oedd yn cyffwrdd a’r pared arall: ai hadenydd hwy yng-hanol y tŷ oeddynt yn cyffwrdd ai gilydd.
28Ac efe a wiscodd y Cerubiaid ag aur.
29A holl barwydydd y tŷ o amgylch a gerfiodd efe ag agored gerfiadau Cerubiaid, a a phalm-wŷdd, a blodau gwascaroc o fewn ac oddi allan.
30Llawr y tŷ hefyd a wiscodd efe ag aûr oddi fewn, ac oddi allan.
31Ac i ddrŵs y gafell y gwnaeth efe ddôrau o goed oliwŷdd, cappan y drws gorsyngau bummed rann y pared.
32Ac ar y ddwy ddôr o goed oliwydd y cerfiodd efe gerfiadau Cerubiaid, a phalmwŷdd a blodau gwascaroc, ac gwiscodd ag aur: ac a yrrodd yr aur yn dene ar y Cerubiaid, ac ar y palm-wŷdd.
33Ac felly y gwnaeth efe i ddrws y deml, orsyngau o goed oliwŷdd o bedwaredd rann
34Ac yr dwy ddôr o goed ffynnidwŷdd, dwy ddalen blygedic i’r naill ddôr, a dwy ddalen blygedic i’r ddôr arall.
35Ac efe a gerfiodd Gerubiaid a phalmwydd, a blodau gwascaroc, ac gwiscodd ag aur, yr hwn a gymhwyswyd ar y cerfiad.
36Ac efe a adailadodd y cyntedd nessaf i mewn a thair rhês o nadd, ac a rhês o drawstiau cedr-wŷdd.
37Yn y bedwaredd flwyddyn y sylfaenwyd tŷ’r Arglwydd ym mîs Zif.
38Ac yn yr vnfed flwyddyn ar ddêc, ym mis Bul, dyna’r wythfed mis y gorphennwyd y tŷ, ai holl berthynasau, ac ai holl gyfreidiau: felly saith mlynedd yr adailadodd efe ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.