Ieremi 25 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXV.Ieremi yn prophwydo y parhâu eu caethiwed hwynt ddeng-mhlynedd a thrugain. 12 Dinistr ar Babilon. 15 Ac ar genhedloedd eraill wedi hynny.

1Y gair yr hwn a ddaeth at Ieremi am holl bobl Iuda, yn y bedwaredd flwyddyn i Iehoacim fâb Iosiah frenin Iuda: hon y flwyddyn gyntaf i Nabuchodonosor frenin Babilon,

2Yr hwn a lefarodd y prophwyd Ieremi wrth holl bobl Iuda, ac wrth holl bresswyl-wŷr Ierusalem, gan ddywedyd:

3Er y drydedd flwyddyn, ar ddêc i Iosia fab Amon frenin Iuda, hyd y dydd hwn, hon yw y drydedd flwyddyn ar hugain y mae gair yr Arglwydd gyd â mi: ac mi a ddywedais wrthych Ierem.7.13.gan foreu godi, a lefaru, ond ni wrandawsoch.

4A’r Arglwydd a anfonodd attoch chwi, ei holl weision, y prophwydi, gan foreu-godi: (ond ni wrandawsoch, ac ni ogwyddasoch eich clustiau i glywed. )

5[A] chan ddywedyd, dychwelwch yr awr hon bôb vn oddi wrth ei ffordd ddrwg, ac oddi wrth ddrygioni eich gweithredoedd: a chwi a gewch drigo yn y tîr yr hwn a roddodd yr Arglwydd i chwi, ac i’ch tadau byth, ac yn dragywydd.

6Ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr iw gwasanaethu, ac i ymgrymmu iddynt: ac na lidiwch fi â gweithredoedd eich dwylo, fel na wnelwyf niwed i chwi.

7Er hynny ni wrandawsoch arnaf medd yr Arglwydd, eithr digiasoch fi â gweithredoedd eich dwylo, er drwg i chwi eich hunain,

8Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, o herwydd na wrādawsoch ar fyng-eiriau,

9Wele mi a anfonaf am, ac a gymmeraf holl deuluoedd y gogledd medd yr Arglwydd, a Nabuchodonosor brenin Babilon fyng-wâs, ac mi ai dygaf hwynt yn erbyn y wlâd hon, ac yn erbyn ei phresswyl-wŷr, ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch: difrodaf hwynt hefyd, a gosodaf hwynt yn chwithter, ac yn chwibaniad, ac yn anrhaith tragywyddol.

10 Ierem.16.9. Paraf hefyd i lais hyfrydwch, ac i lais llawenydd, i lais y priod-fab, ac i lais y briod-ferch, i sŵn y meini melinau, ac i lewyrch y canhwyllau ballu ganddynt.

11A’r holl dîr hwn fydd yn ddiffaethwch, ac yn anghyfannedd, a’r cenhedloedd hyn a wasanaethant frenin Babilon ddeng-mhlynedd a thrugain.

12A phan gyflawner 2.Cron.36.22. dan.9.2deng-mhlynedd a thrugain myfi a ymwelaf â brenin Babilon, ac a’r genhedlaeth honno medd yr Arglwydd am eu hanwiredd hwynt, îe ag â gwlad y Caldeaid: ac mi ai gosodaf hi yn anghyfannedd tragywyddol.

13Dygaf hefyd ar y wlâd honno yr holl eiriau y rhai a lefarais i yn ei herbyn, sef cwbl a’r y sydd scrifennedic yn y llyfr hwn: yr hyn a brophwydodd Ieremi yn erbyn yr holl genhedloedd.

14Canys cenhedloedd lawer, a brenhinoedd mawrion a wnant i’r rhai hynn eu gwasanaethu: fellt y talaf iddynt yn ôl eu gweithredoedd, ac yn ôl gwaith eu dwylo.

15Canys fel hyn y dywedod yr Arglwydd Duw Israel wrthifi: derbyn di Psal.75.8. esa.51.17.y phiol hon o win nigofaint o’m llaw, a dot ti hi iw hyfed i’r holl genhedloedd, y rhai i’th yrrais di attynt.

16Fel yr yfant, ac a brawychant, ac y gwallgofant rhag y cleddyf yr hwn a anfonaf yn eu plîth.

17Yna mi a dderbynnais y phiol o law yr Arglwydd, ac ai rhoddais iw hyfed i’r holl genhedloedd, y rhai yr anfonase yr Arglwydd fi attynt:

18I Ierusalem, ac i ddinasoedd Iuda, iw brenhinoedd hi, ac iw thywysogion: iw rhoddi hwynt yn ddiffaethwch, yn anghyfannedd yn chwibianad, ac yn felldith fel heddyw,

19I Pharao frenin yr Aipht, ac iw weision, iw dywysogion ef hefyd, ac iw holl bobl,

20Ac i bôb math ar bobl, ac i holl frenhinoedd gwlâd Iob.1.1.Hus, a holl frenhinoedd gwlâd y Philistiaid, ac i Ascalon, ac Azah, Accaron, a gweddill Asdod,

21I’r Edomiaid, a’r Moabiaid, ac i feibion Ammon,

22I holl frenhinoedd Tirus hefyd, ac i holl frenhinoedd Sidon, ac i frenhinoedd yr ynysoedd y rhai tros y môr,

23I Dedan, a Thema, a Buz: ac i bawb o gyrrau eithaf y bŷd,

24Ac i holl frenhinoedd Arabia ac i holl frenhinoedd yr Arabiaid y rhai ydynt yn trigo yn yr anialwch,

25Ac i holl frenhinoedd Zimri, ac i holl frenhinoedd Elam, ac i holl frenhinoedd y Mediaid.

26Ac i holl frenhinoedd y gogledd, agos, a phell, pob vn at ei gilydd, ac i holl deyrnasoedd y bŷd y rhai ydynt ar wyneb y ddaiar: brenin Iere.51.41.Sesach a ŷf ar eu hôl hwynt,

27Am hynny dywet wrthynt, fel hynn y dywedodd Arglwydd y lluoedd Duw Israel: yfwch a medwwch, a chwdwch, a syrthiwch, ac na chyfodwch gan y cleddyf yr hwn a anfonwyf i’ch plith.

28Ac os gwrthodant dderbyn y phiol o’th law di i yfed, yna dywet, fel hynn y dywedodd Arglwydd y lluoedd, diau yr yfwch.

29Canys wele mi a ddechreusis ddrygu y ddinas yr hon y gelwir fy enw arni, ac a ddiengwch chwi? na ddiengwch, canys yr ydwyfi yn galw am gleddyf ar holl drigolion y ddaiar medd Arglwydd y lluoedd,

30Am hynny prophwyda wrthynt yr holl eiriau hynn, a dywet wrthynt: Ioel.3.16. amos.1.2.yr Arglwydd oddi vchod a rua, ac a rydd ei lef o drigle ei sancteiddrwydd, gan ruo y rhua efe yn ei lŷs, bloedd a ddyru efe yn erbyn holl bresswyl-wŷr y ddaiar fel rhai yn sathru

31Daw twrwf hyd eithafoedd y ddaiar, canys cŵyn rhwng yr Arglwydd a’r cenhedloedd, efe a ymddadle â phob cnawd, y drygionus a ddyru efe i’r cleddyf medd yr Arglwydd.

32Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, wele ddrwg yn myned allan o genhedlaeth i genhedlaeth: a Ierem.30.23.rhyferthwy mawr yn cyfodi o stlysoedd y ddaiar.

33A lladdedigion yr Arglwydd a fyddant y dwthwn hwnnw o’r naill gwrr i’r ddaiar hyd y cwrr arall i’r ddaiar, ni alerir drostynt, ac ni’s cesclir, ac ni’s cleddir hwynt, fel tommen y byddant ar wyneb y ddaiar.

34Udwch fugeiliaid, a gwaeddwch, ac ymdreiglwch mewn lludw, chwi flaenoriaid y praidd, canys cyflawnwyd dydd eich lladdfa, a’ch gwascarfa, a chwi a syrthiwch fel llestr annwyl.

35Methodd gan y bugeiliaid gael lle i ffoi: a chan flaenoriaid y praidd ddiangc.

36[Clywir] llef gwaedd y bugeiliaid, ac vdfa blaenoriaid y praidd: am i’r Arglwydd anrheithio eu porfa hwynt.

37A’r anneddau heddychlon a ddryllir gan lîd digofaint yr Arglwydd.

38Efe a wrthododd ei babell fel cenew llew: am fod eu tîr yn anghyfannedd, gan lîd y gorthrymmwr, a chan lîd ei ddigofaint ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help