1.Esdras 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.Cyrus yn gollwng caethion Iuda yn rhydd. 7 Ac yn rhoddi adref lestri y deml.

1Yn 2.Cron.36.11.|2CH 36:11. Ier.29.10.y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia (i gyflawni gair yr Arglwydd o enau Ieremi) y cyffrôdd yr Arglwydd yspryd Cyrus brenin Persia, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl deyrnas, a hefyd mewn scrifen gan ddywedyd,

2Fel hyn y dywedodd Cyrus brenin Persia, Arglwydd Dduw’r nefoedd a roddes i mi holl deyrnasoedd y ddaiar, ac efe a orchymynnodd i mi adailadu iddo ef dŷ yn Ierusalem, yr hon yn Iuda.

3Pwy bynnac o honoch oi holl bobl ef bydded ei Dduw gyd ag ef, ac eled i fynu i Ierusalem yr hon yn Iuda, ac adailaded dŷ Arglwydd Dduw Israel: dyna’r Duw’r hwn yn Ierusalem.

4A phwy bynnac a adawyd o’r holl leoedd y rhai y mae efe yn ymdeithio ynddynt, cynnorthwyed gwŷr ei wlâd ef ag arian, ac ag aur, a a golud, ac ag anifeiliaid, gyd ag ewyllyscar offrwm tŷ Dduw, yr hwn yn Ierusalem.

5Yna y cododd pennau cenedl Iuda a Beniamin, a’r offeiriaid a’r Lefiaid, a phob vn y cyffrôdd Duw ei yspryd, i fyned i fynu i adailadu tŷ yr Arglwydd yr hwn yn Ierusalem.

6A’r rhai oll oi hamgylch ai cynnorthwyasant hwy a llestri arian, ac aur, a golud, ac ag anifeiliaid, ac a phethau gwerth-fawr heb law’r hyn oll a offrymmwyd yn ewyllyscar.

7A’r brenin Cyrus a ddûg allan lestri tŷ’r Arglwydd 2.Bren.25.13. 2.Cron.36.7. Ier.27.19. Dan.1.2.y rhai a ddugase Nabuchodonosor allan o Ierusalem, ac a roddase efe yn nhŷ ei dduwiau ei hun.

8Felly Cyrus brenin Persia ai dûg hwynt allan trwy law Mithridates y tryssorudd, ac ai rhifodd hwynt at Sesbazer pennaeth Iuda.

9Ac dymma eu rhifedi hwynt, dêc ar hugain o gawgiau, aur, mîl o gawgiau arian, naw ar hugain o gyllill.

10Dêc ar hugain o orflychau aur, dêc a phedwar cant o ail fath o orflychau arian, mil o lestri eraill.

11Yr holl lestri yn aur, ac yn arian bum mîl a phedwar cant: Sesbazer a ddûg y cwbl i fynu wrth ddwyn y gaeth-glud o Babilon i Ierusalem.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help