1A gair yr Arglwydd a ddaeth attaf fi gan ddywedyd:
2Cerdda, a llefa yng-hlustiau Ierusalem gan ddywedyd: fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ezec.16.8.cofiais am danat garedigrwydd dy ieuengtid, a serch dy ddyweddiad, pan i’m canlynaist yn y diffaethwch, mewn tîr ni’s hauwyd.
3Israel gyssegredic i’r Arglwydd, blaen-ffrwyth ei gnwd ef: pawb oll a’r ai bwyttâe a anrheithid, a drwg a ddigwydde iddynt medd yr Arglwydd.
4Gwrandewch air yr Arglwydd tŷ Iacob, a holl deuluoedd tŷ Israel.
5Fel hyn y dywed yr Arglwydd, pa anwiredd a gafodd eich tadau chwi ynofi, pan giliasant oddi wrthif? ac y rhodiasant ar ôl oferedd, ac yr aethant yn ofer?
6Ac ni ddywedâsant, pa le y mae’r Arglwydd a’n dug ni i fynu o dîr yr Aipht? ac a’n harweiniodd trwy’r anialwch, trwy ros-dîr, a phyllau, trwy dîr sychter, a chyscod angeu, trwy dîr nid aeth gŵr trwyddo, ac ni thrigodd dŷn ynddo.
7Dygais chwi hefyd i ddol-dir i fwyta y ffrwyth ai lesâd: eithr Psal.78.58. Psal.106.38pan ddaethoch i mewn halogasoch fy nhir i, a gosodasoch fy etifeddiaeth i yn ffieidd-dra.
8Yr offeiriaid ni ddywedasant, pa le y mae’r Arglwydd? a’r cyfraith-wŷr nid adnabuant fi, y bugeiliaid hefyd a fuant anffyddlon i mi, y prophwydi a brophwydâsant yn Baal, ac a aethant ar ôl ni wnaent lesâd.
9O blegit hyn, mi a ddadleuaf â chwi etto medd yr Arglwydd: îe dadleuaf â meibion eich meibion chwithau.
10Canys ewch i ynysoedd Chitim, ac edrychwch: danfonwch i Cedar, ac ystyriwch yn ddiwyd, ac edrychwch a fu y cyfryw beth.
11A newidiodd genhedlaeth eu duwiau, a hwynt heb yn dduwiau: eithr fy mhobl i a newidiodd eu gogoniant am ni wna lesâd.
12O chwi nefoedd synnwch wrth hyn, aruthrwch, a llwyr wladeiddiwch medd yr Arglwydd.
13Canys dau ddrwg a wnaeth fy mhobl mau fi, Ionas.2.8.|JON 2:8. Zac.10.2hwynt a’m gadawsant fi ffynnon y dyfroedd byw, i gloddio iddynt eu hunain bydewau, ie bydewau wedi eu torri ni ddaliant ddyfroedd.
14Ai gwâs ydyw Israel, ai mab tŷ efe? pa ham gan hynny’r yspeiliwyd ef?
15Y llewod a ruâsant arno ef, a floeddiasant, ai dir ef a osodasant yn anrhaith, ai ddinasoedd yn boeth anghyfanneddol.
16Meibion Noph hefyd a Thahapanes a dorrant dy goryn di.
17Ond ti a beri hyn it dy hun, am wrthod o honot yr Arglwydd dy Dduw, pan ydoedd efe yn dy arwain ar hŷd y ffordd.
18A’r awr hon beth i ti yn ffordd yr Esa.31.1.Aipht, i yfed dwfr Nilus? a pheth i ti yn ffordd Assyria i yfed dwfr afon
19Dy ddrygioni dy hun a’th Esa.3.9.gospa di, a’th drofeudd a’th geryddant di: gwybydd dithe, a gwêl morr ddrwg, ac morr chwerw ydyw gwrthod o honot yr Arglwydd dy Dduw, ac nad fy ofn i ynot ti medd Arglwydd Dduw’r lluoedd.
20O blegit er ystalm mi a dorrais dy iau di, ac a ddrylliais dy rwymau di, a thi a ddywedaist, ni throseddaf, Ios.24.16.|JOS 24:16. Ezec.10.12.|EZK 10:12. Nehem.8.6er hynny ti a wibiaist yn buttain i bob brynn vchel, a thann bob pren deilioc.
21Myfi hefyd a’th blennais yn ber-winwŷdden, yn hâd gwirionedd oll: pa fodd gan hynny i’th droiwyd i’m yn blanhigin afrywiog gwinwŷdden ddieithr?
22Pe rhoddwn it ac ymolchi â nitrwm, a chymmeryd it lawer o sebon, hynodwyd dy anwiredd ger fy mron i medd yr Arglwydd Dduw.
23Pa fodd y dywedi, ni halogwyd fi, ac ni ddeuthym yn ôl Baalim? edrych dy ffordd yn y glyn hwn, gŵybydd beth a wnaethost camel buan ydwyt yn amgylchu ei ffyrdd.
24[Ac fel] assyn wyllt wedi ei chenefino a’r annialwch, wrth ddymuniad ei chalon yn yfed gwynt: ei hachlysur pwy ai trŷ hi, pawb a’r ai ceisiant hi ni flinant, yn ei mîs y cânt hi.
25Cadw dy droed rhag noethni, a’th gêg rhag syched: tithe a ddywedaist, nid oes obaith nac canys cerais ddieithriaid, ac ar eu hôl hwynt yr âf.
26Megis y cywilyddir lleidr pan ddalier: felly y cywilyddir tŷ Israel: hwyntwy eu brenhinoedd, eu tywysogion, ai hoffeiriaid, ai prophwydi.
27Y rhai a ddywedant wrth brenn, tydi fy nhâd, ac wrth garrec, ti a’m cenhedlaist: canys hwynt a droâsant attafi wegil, ac nid wyneb: er hynny yn amser eu hadfyd y dywedant, cyfot, a chadw di ni.
28Eithr pa lê dy dduwiau di y rhai a wnaethost i ti? codant os gallant dy gadw yn amser dy adfyd: canys rifedi dy ddinasoedd y mae dy dduwiau di ô Iuda.
29Pa ham yr ymrysonwch â mi? chwi oll a wrthryfelasoch i’m herbyn medd yr Arglwydd.
30Yn ofer y maeddais eich plant chwi, ni dderbynniasant hwy gospedigaeth: eich cleddyf eich hun a ddifaodd eich prophwydi, megis llew yn destruwio.
31Oh genhedlaeth edrychwch air yr Arglwydd: a fum i anghyfannedd i Israel? neu dîr tywyll? pa ham y dywed fy mhobl, arglwyddi ydym ni, ni ddeuwn ni mwy attat ti?
32A anghofia morwyn ei hardd-wisc? neu y briodas-ferch ei thlyssau? etto fy mhobl i a’m hang-hofiasant ddyddiau aneirif.
33Pa ham yr wyt ti yn teccau dy ffordd i geisio caredigrwydd? am hynny hefyd y dyscaist dy ffyrdd di i rai drygionus.
34Canys yn dy adenydd di y cafwyd gwaed eneidiau y tlodion diniwed, nid mewn cloddfa y cefais hyn: eithr ar yr oll hynn.
35A thi a ddywedit, am fy mod yn ddiniwed yn ddiau y trôdd ei lid ef oddi wrthif: wele fi yn dy farnu di am ddywedyd o honot, ni phechais.
36Pa ham y gwibi di i newidio dy ffordd? canys ti a wradwyddir gan yr Aipht, fel i’th wradwyddwyd gan Assyria.
37Hefyd ti a ddeui allan oddi wrtho 2.Sam.13.19.a’th ddwylo ar dy benn: o blegit yr Arglwydd a wrthodes dy hyder di, fel na byddo it ffynniant ynddynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.