1Am hynny yr ydwyf yn testiolaethu ger bron Duw, a cher bron yr Arglwydd Iesu Ghrist, yr hwn a farn y byw a’r meirw, yn ei ymddangosiad, ac yn ei deyrnas:
2Pregetha ’r gair: bydd daer yn amser, ac allan o amser: argyoedda, cerydda, annog drwy bob ammynedd ac athrawiaeth.
3Canys daw ’r amser pryd na ddioddefant athrawiaeth iachus: eithr gan ferwino o’u clustiau wrth eu chwantau eu hunain y pentynrāt iddynt o ddyscawd-wyr.
4 Hefyd oddi wrth y gwirionedd yn ddiau y troant eu clustiau, ac at chwedlau y trôant.
5Eithr gwilia di ym mhob dim: dioddef adfyd: gwna waith Efengylwr: cyflawna dy weinidogaeth.
6Canys bellach i’m haberthir, ac amser fy ymddattodiad sydd yn agos.
7Myfi a ymdrechais ymdrech têg, a orphennais fyng-yrfa, a gedwais y ffydd.
8Weithiau y rhoddwyd coron cyfiawnder iw chadw i mi, yr hon a rydd yr Arglwydd y barnwr cyfiawn i mi yn y dydd hwnnw: ac nid i mi yn vnic, onid i’r holl rai a gârant ei ymddangosiad ef.
9Ymddyro i ddyfod attaf yn ebrwydd.
10Canys Demas a’m gadawodd, gan garu y byd presennol, ac a aeth ymmaith i Thessalonica, Crescens i Galatia, Titus i Dalmatia.
11 Colo.4.10.14. Lucas yn vnic sydd gyd â mi, cymmer Marc a dwg gyd â thi, canys buddiol yw efe i mi i’r weinidogaeth.
12Tychicus hefyd a ddanfonais i Ephesus.
13Y cochl a adewais i yn Troas gyd â Charpus, pā ddelych dwg gyd â thi, a’r llyfrau yn enwedig y membrwn.
14Alexander y gof-copr a wnaeth i mi lawer o ddrwg: taled yr Arglwydd iddo yn ôl ei weithredoedd.
15Rhac yr hwn ymgadw dithe hefyd: canys efe a wrth-safodd ein pregaeth yn ddirfawr.
16Yn fy atteb cyntaf nid oedd neb yn sefyll gyd â mi: eithr pawb a’m gadawsant: na’s cyfrifer iddynt.
17Er hynny ’r Arglwydd a safodd gyd â mi, ac a’m nerthodd, fel trwofi y cwbl gyflawnid y pregethiad, ac fel y clywe yr holl genhedloedd, ac mi a waredwyd o enau y llew.
18A’r Arglwydd a’m gwared fi rhag pob gweithred ddrwg, ac am ceidw iw deyrnas nefol: i’r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
19Annerch Prisca, ac Aquila, Pen.1.16.a thy-lwyth Onesiphorius.
20Erastus a arhosodd yn Corinth: Trophimus a adewais yn Miletum yn glaf.
21Cais di ddyfod cyn y gaiaf, y mae Eubulus, a Phrudens, ac Linus, a Chlaudia, a’r holl frodyr yn dy anherch.
22Yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyd â’th yspryd: Grâs fyddo gyd â chwi. Amen. Yr ail
Epistol a scrifennwyd o Rufain at Timotheus yr Escob cyntaf a ddewiswyd i eglwys Ephesus, pan osodid Paul yr ail waith ger bron Caesar Nero.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
