Psalmau 68 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. lxviij.At y pen-cerdd Psalm neu gân Dafydd.

1 Cyfoded Duw gwascerir ei elynnion: ffoed ei gaseion oi flaen ef.

2Chweli fel chwalu mŵg: fel y tawdd cŵyr wrth y tân difether y rhai annuwiol o flaen Duw.

3Ond llawenycher y rhai cyfiawn, a gorfoleddant ger bron Duw: a byddant hyfryd o lawenydd.

4Cenwch i Dduw, can-molwch ei enw, derchefwch yr hwn sydd yn marchogaeth ar y nefoedd, yr Arglwydd ei enw: gorfoleddwch ger ei fron ef.

5Tâd yr amddifaid, a barn-wr y gweddwon Duw yn ei bresswylfa sanctaidd.

6Duw sydd yn gosod rhai yn gydtun mewn tŷ, ac yn dwyn allan y rhai a rwymwyd mewn gefynnau: ond y rhai cyndyn a bresswyliant gras-dir.

7Pan aethost ô Dduw o flaen dy bobl: pan gerddaist trwy yr anialwch.Selah.

8Y ddaiar a grynodd, a’r nefoedd a ddiferâsant o flaen Duw: Sinai yntef o flaen Duw, Duw Israel.

9Dihidlaist law graslawn ô Dduw dy etifeddiaeth: ti ai gwrteithiaist wedi ei blîno.

10Dy gynnulleidfa di sydd yn trigo ynddi, yn dy ddaioni ô Dduw yr wyt yn darparu i’r tlawd.

11Yr Arglwydd a roddes y gair, mawr mintai y rhai a bregethent.

12Brenhinoedd byddinoc a ffoesant, a yrrwyd i gilio: a’r hon a drigodd yn tŷ a rannodd yr yspail.

13Er gorwedd o honoch rhwng y crochânau, escyll colomen wedi eu gwisco ag arian, ai hadenydd o aur melyn.

14Pan wascarodd yr Holl-alluoc frenhinoedd ynddi, yr oedd hi cyn wynned ag eira yn Salmon.

15Mynydd Duw mynydd Basan,: yn fynydd cribog mynydd Basan.

16Pa ham y llemmwch chwi fynyddoedd cribog? y mynydd a chwenychodd Duw ei bresswylio, ac a bresswylia’r Arglwydd byth.

17Cerbydau Duw vgain mil miloedd o angelion: a’r Arglwydd yn eu plîth megis yng-hyssegr Sinai.

18Derchefaist i’r vchelder, caeth-gludaist gaethiwed, derbynnaist roddion i ddynion: a’r rhai cyndyn hefyd gan bresswylio ô Arglwydd Dduw

19Bendigedic’r Arglwydd beunydd, a’n llwytha ni â daioni: Duw ein iechydwriaeth ni.Selah.

20Efe ein Duw ni sef Duw iechydwriaeth: a thrwy’r Arglwydd Dduw diangc oddi wrth farwolaeth.

21Duw yn ddiau a archolla benn ei elynnion, choppa walltoc yr hwn a rodio rhagddo yn ei gamweddau.

22Dywedodd yr Arglwydd, dygaf trachefn o Basan, dygaf yn eu hôl o ddyfnder y môr.

23Fel y trochech dy droed mewn gwaed, thafod dy gŵn yn yr hwn oddi wrth y gelynnion.

24Gwelsant dy fynediad ô Dduw, mynediad fy Nuw a’m Brenin yn y cyssegr.

25Y cantorion a aethant o’r blaen, a’r cerddorion ar ôl: yn y canol yr oedd y llangcêsau yn canu tympanau.

26Clodforwch Dduw yn y cynnulleidfaoedd, yr Arglwydd o ffynnon Israel.

27Yno Beniamin fychan eu llywydd, thywysogion Iuda eu cynnulleidfa: tywysogion Zabulon, a thywysogion Nephthali.

28Dy Dduw a ordeiniodd nerth i ti, cadarnhâ ô Dduw yr hyn a wnaethost ynom ni.

29Brenhinoedd a ddygant i ti anrheg er mwyn dy Deml yn Ierusalem.

30Difetha dyrfa y gwaiwffyn, cynnulleidfa gwrdd deirw, ym mysc lloi y bobl fel y delont yn ostyngedic a darnau arian: gwascar y bobl a ewyllysiant ryfel.

31[Yna] pendefigion a ddeuant o’r Aipht, Ethiopia a estyn ei dwylo’n bryssur at Dduw.

32Teyrnasoedd y ddaiar cênwch i Dduw, can-molwch yr Arglwydd.Selah.

33Yr hwn a ferchyg ar y nefoedd goruchaf o’r dechreu: wele efe a ddyru ei leferydd sain nerthol.

34Rhoddwch i Dduw gadernid: ei oruchelder ar Israel, ai nerth yn yr wybrennau.

35Ofnadwy wyt ô Dduw oth gyssegr, Duw Israel yw efe, yn rhoddi nerth, a chadernid i’r bobl: bendigedic Duw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help