2.Esdras neu Nehemias 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Y rhai oeddynt yn adailadu caerau Ierusalem.

1Yna Eliasib yr arch-offeiriad a gyfododd, ai frodyr yr offeiriaid, ac a adailadasant borth y defaid, hwynt ai cyssegrasant ef, ac a godasant ei ddorau ef: îe hyd dŵr Meah y cyssegrasant ef, hyd dŵr Hananeel.

2A cher llaw iddo ef gwŷr Iericho a adailadasant: ger llaw iddo ef hefyd yr adailadodd Zaccur mab Imri.

3A meibion Hasenah a adailadasant borth y pyscod: hwynt hwy ai styllennasant ef, ac a osodasant ei ddorau, ei glôau, ai farrau.

4A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Meremoth mab Uria fab Haccos, a cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Mesulam mab Bereciah fab Mesezabel: a cher eu llaw hwynt Zadoc mab Baana a gyweiriodd.

5A cher llaw iddynt hwy y cyweiriodd y Thecoaid: ond y gwŷr mawr ni osodasant eu gwddf yng-wasanaeth eu Harglwydd.

6Ac Iehoiada mab Paseach, a Mesulam mab Besodeiah a gyweiriasant yr hên borth, hwynt ai styllennasant ef, ac a osodasant i fynu ei ddorau, ai glôau, ai farrau.

7A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Melathia y Gibeoniad, ac Iadon y Meronothiad, gwŷr Gibeon a Mispa, hyd orseddfa y duwc tu hwynt i’r afon.

8Ger llaw iddo ef y cyweiriodd Uzziel mab Harhoiah eurŷchod, a cher llaw iddo ef y cyweiriodd Hanamah mab o’r apothecariaid: a hwynt a gyweiriasant Ierusalem hyd mûr llydan.

9A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Rephaiah mab Hur (tywysog hanner taiaith Ierusalem)

10A cher llaw iddynt hwy y cyweiriodd Iedaiah mab Harumaph ar gyfer ei dŷ: a Hattus mab Hasabina a gyweiriodd ger llaw iddo yntef.

11Malciah mab Harim, ac Aasub mab tywysog Moab a gyweiriasant yr ail mesur: a thŵr y ffyrnau.

12A cher llaw iddo ef y cyweiriodd Salum mab Haloches (tywysog hanner talaith Ierusalem) efe ai ferched.

13Porth y glynn a gyweiriodd Hanun, gyd a thrigolion Zanoah, hwynt hwy ai hadailadasant ef, ac a osadasant ei ddorau ef, ei glôau, ai farrau: a mîl o gufyddau yn y mûr hyd borth y domm.

14Ond porth y domm a gyweiriodd Malciah mab Rechab tywysog talaith Bethhaccarem: efe ai hadailadodd, ac a osododd ei ddorau, ei glôau, ai farrau.

15A Salun mab Col-hosah tywysog talaith Mispa a gyweiriodd borth y ffynnon, efe ai hadailadodd, ac ai tôdd, ac a osododd ei ddorau ef, ei glôau, ai farrau: a mûr pyscod-lynn Selah yng-ardd y brenin, ac hyd y grissiau y rhai ydynt yn descyn o ddinas Dafydd.

16Ar ei ôl ef y cyweiriodd Nehemiah mab Azbub tywysog hanner talaith Beth-zur: hyd ar gyfer beddrod Dafydd, ac hyd y pyscod-lynn yr hwn a wnelsid, ac hyd dŷ y cedyrn.

17Ar ei ôl ef y Lefiaid a gyweiriasant, Rehum mab Bani: cher llaw iddo ef y cyweiriodd Hasabiah tywysog hanner talaith Ceilah yn ei frô ei hun.

18Ar ei ôl ef eu brodyr hwynt a gyweiriasant, Bafai mab Henadad tywysog hanner talaith Ceilah.

19A cher llaw iddo ef y cyweiriodd Ezer mab Iesua tywysog Mispa yr ail mesur, ar gyfer y ddringfa i gongl yr arfau.

20Ar ei ôl ef Baruc mab Zabbai yn awyddus a gyweiriodd y mesur arall, o’r ystym hyd ddrws tŷ Eliasib yr arch-offeiriad.

21Ar ei ôl ef Meremoth mab Uria fab Haccos a gyweiriodd y mesur arall, o ddrws tŷ Eliasib hyd dalcen tŷ Eliasib.

22Ac ar ei ôl ef yr offeiriaid, gwyr y gwastadedd a gyweiriasant.

23Ar ei ôl ef y cyweiriodd Beniamin, a Hassub gyferbyn ai dŷ: wedi yntef Azaria mab Maaseiah fab Ananiah a gyweiriodd wrth ei dy yntef.

24Ar ei ôl yntef Binnui mab Henadad a gyweiriodd fesur arall: o dŷ Azaria hyd yr ystym, ac hyd y gongl.

25Palal mab Uzai ar gyfer yr ystym, a’r tŵr vchel yr hwn sydd yn myned allan o dŷ’r brenin i gyntedd y carchar: ar ei ôl ef Pedaia mab Pharos.

26A’r Esdras.2.43.Nethiniaid y rhai oeddynt yn trigo yn y tŵr hyd ar gyfer porth y dwfr tua’r dwyrain, a’r tŵr yr hwn oedd yn myned allan.

27Ar ei ôl yntef y Thecoiaid a gyweiriasant fesur arall, ar gyfer y tŵr mawr yr hwn sydd yn myned allan hyd fûr yr amddeffynfa.

28Oddi ar borth y meirch yr offeiriaid a gyweiriasant bôb vn gyferbyn ai dŷ ei hun.

29Ar ôl hynny Zadoc mab Immer a gyweiriodd ar gyfer ei dŷ ei hun, ac ar ei ôl yntef y cyweiriodd Semaiah mab Secaniah ceidwad porth y dwyrain.

30Ar ei ôl ef y cyweiriodd Hanania mab Selomia, a Hanun chweched mab Zalaph y mesur arall: ar ei ôl yntef Mesulam mab Bereciah a gyweiriodd ar gyfer ei stafell.

31Ar ei ôl yntef Malciah mab yr eurych a gyweiriodd hyd dŷ y Nethiniaid, a’r marchnadyddion ar gyfer porth Miphcad, hyd stafell y gongl.

32A rhwng stafell y gongl a phorth y defaid yr eurychod, a’r marchnadyddion a gyweiriasant.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help