Ezeciel 23 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIII.Gau-dduwieth Samaria yr hon a elwir ymma Aholah, ac Ierusalem yr hon a elwir ymma Aholibah: ai cospedigaeth hwynt hefyd.

1Yna y daeth gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd:

2Ha fab dŷn, dwy wraig oeddynt yn ferched i’r vn fam:

3A phutteiniasant yn yr Aipht, yn eu hieuiengtid y putteiniasant, yno y llethasant eu bronnau, ac yno yr yssigasant dethau eu morwyndod.

4Ai henwau hwynt Aholah yr hynaf, ac Aholibah ei chwaer, oeddynt hefyd eiddo fi, a phlantasant feibion, a merched: ac eu henwau, Samaria Aholah, ac Ierusalem Aholibath.

5Ac Aholah a butteiniodd pan oedd eiddo fi ac a ymordderchodd ai chariadau, a’r cymmydogion yr Assyriaid:

6Y rhai a wiscasid â sidan glâs, yn ddugiaid, ac yn dywysogion, o wŷr, ieuaingc dymunol hwynt oll: yn farchogion yn marchogaeth meirch.

7A hi a osododd ei phutteindra arnynt hwy o ddewis meibion Assur oll, a chyd a’r rhai oll yr ymordderchodd, yr ymhalogodd wrth eu holl eulynnod.

8Etto ni adawodd ei phutteindra gan yr Aiphtiaid: canys gorweddasent gyd â hi yn eu hieuengtid, a hwynt a yssigasent dethau ei morwyndod: ac a dywalltasent eu putteindra arni.

9Am hynny y rhoddais hi yn llaw ei chariadau,yn llaw meibion Assur y rhai yr ymordderchodd hi â hwynt.

10Yr rhai hynny a ddatcuddiasant ei noethni hi, ac a gymmerasant ei meibion, ai merched, ac ai lladdasant hithe a’r cleddyf, fel yr oedd yn enwoc i wragedd, pan wnaethant farn arni.

11Pan welodd ei chwaer Aholibah, hithe a lygrodd ei gordderchiad yn fwy nâ hi: ai phutteindra yn fwy-nâ phutteindra ei chwaer.

12Ymordderchodd â meibion Assur, y dugiaid a’r tywysogion o gymmydogion wedi eu gwisco yn gwbl, yn farchogion yn marchogaeth meirch, yn wŷr ieuaingc dymunol hwynt oll.

13Yna y gwelais ei halogi hi: vn ffordd ganddynt ill dwy.

14Ond hi a chwanegodd ar ei phutteindra, ac a welodd wŷr wedi ei llunio ar y pared: delwau y Caldeaid wedi eu llunio â fermilon,

15Wedi eu gwregysu â gwregys am eu lwyni hwynt, gwascar-wisc liwiedic am eu pennau (o ddrych tywysogion hwynt oll, o ddull meibion Babilon yn Caldea, yn nhir eu ganedigaeth)

16Hi a ymordderchodd â hwynt pan eu gwelodd, ac a anfonodd gennadau attynt i Caldea.

17A meibion Babilon a ddaethant atti i wely serchawgrwydd, ac ai halogasant hi ai putteindra, a phan ymhalogodd wrthynt, llaesodd ei meddwl oddi wrthynt.

18Felly y datcuddiodd ei phutteindra, ac y datcuddiodd ei noethni, a llaesodd fy meddwl oddi wrthi, fel y llaesase fy meddwl oddi wrth ei chwaer hi.

19Hi hefyd a chwanegodd ei phutteindra, gan gofio dyddiau ei hieuengtid y rhai y putteiniodd hi yn nhir yr Aipht,

20Ac yr ymordderchodd ai gordderch-wŷr, y rhai eu cnawd cnawd assynnod, ai diferlif ddiferlif meirch.

21Felly y cofiaist scelerder dy ieuengtid, pan yssigodd dy dethau gan yr Aiphtiaid, am fronnau dy ieuengtid.

22Am hynny Aholibah, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi yn cyffroi dy gariadau i’th erbyn y rhai y llaesodd dy feddwl oddi wrthynt, îe dygaf hwynt i’th erbyn o amgylch,

23Meibion Babilon, a’r holl Galdeaid, swyddogion, cyfoethogion, a chedyrn, holl feibion Assur gyd â hwynt, yn wyr ieuaingc dymunol, yn ddugiaid, a thywysogion: hwynt oll yn bennaethiaid ac yn enwoc, yn marchogeth meirch bawb oll.

24A deuant i’th erbyn â menni, cerbydau, ac olwynion, ac â thryfa o bobl, gosodant i’th erbyn oddi amgylch astalch, a tharian a helm: a rhoddaf oi blaen hwynt farnedigaeth, fel y barnant di ai barnedigaethau eu hun.

25Canys rhoddaf fy llid arnat, fel yr yssigant di mewn llidiawgrwydd, dy drwyn, a’th glustiau a dorrant, a’th gwrr ôl a syrth ar y cleddyf: hwynt a ddaliant dy feibion a’th ferched, a’th gwrr ôl a yssir gan dân.

26Dioscant hefyd dy ddillad, a dygant dy ddodrefn hyfryd.

27Felly y gwnaf i’th scelerder, a’th butteindra o dir yr Aipht beidio â thi: fel na chodech dy lygaid attynt, ac na chofiech yr Aiphtiaid mwy.

28Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi yn dy roddi yn llaw y rhai a gasaodd yn llaw y rhai y llaesodd dy feddwl oddi wrthynt.

29A gwnant â thi yn atcas, canys cymmerant dy holl lafur, a gadawant di yn llom, ac yn noeth? a datcuddir noethni dy butteindra: îe dy scelerder, a’th butteindra.

30Mi a wnaf hynny i ti, am butteinio o honot ar ôl y cenhedloedd, am dy halogi gyd ai heulynnod hwynt:

31Am rodio o honot yn ffordd dy chwaer, y rhoddaf inne ei chwppan hi yn dy law di.

32Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, dwfn, a helaeth gwppan dy chwaer a ŷfi, ti a fyddit i’th watwar, ac i’th ddremygu o herwydd bôd llawer yn genni ynddo.

33Ti a lenwir â meddwdod, ac â gofid: o gwppan difwyniad, ac anrhaith, o gwppan dy chwaer Samaria.

34Canys ti a y fi, ac a sugni o honaw, drylli hefyd ei flisc, a diwreiddi dy fronnau dy hun: canys myfi a leferais, modd yr Arglwydd Dduw.

35Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: o herwydd fy anghofio o honot, a’m bwrw o honot tu ôl dy gefn: am hynny dwg dithe dy scelerder, a’th butteindra.

36Dywedodd yr Arglwydd hefyd wrthif: a ferni di fab dŷn Aholah, ac Aholibah? ac a fynegi di iddynt eu ffieidd-dra?

37Canys torrasant briodas, a gwaed yn eu dwylo hwynt,

45Am hynny y gwŷr cyfiawn hwythau ai barnant hwy â barnedigaeth * putteiniaid, ac â barnedigaeth rhai yn tywallt gwaed: canys putteinio y maent, a gwaed yn eu dwylo hwynt.

46Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, dygaf i fynu dyrfa yn eu herbyn hwynt, a rhoddaf hwynt yn gyffro, ac yn anrhaith.

47A’r dyrfa ai llabyddiant hwynt â meini, ac ai torrant hwynt ai cleddyfau: eu meibion ai merched a laddant, ai tai a loscant â thân.

48Yna y gwnaf inne i scelerder beidio a’r wlâd, ac y dyscir yr holl wragedd na wnelant yn ôl eith scelerder chwi.

49Pan roddant eich scelerder i’ch erbyn, a dwyn o honoch bechodau eich eulynnod, yna y cewch ŵybod mai myfi yr Arglwydd Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help