1Wele dywet lle y clywo fy mhobl, eiriau y brophwydoliaeth yr hon a ddanfonaf yn dŷ enau di, medd yr Arglwydd.
2A phar eu scrifennu hwynt mewn llyfr: canys ffyddlon a gwir ydynt.
3Nac ofna fwriadau yn dy erbyn, ac na chyffroed anffyddlondeb y rhai a ddywedant yn dy erbyn, ddim o honot:
4Canys pob dŷn anfyddlon a fydd marw yn ei anffyddlondeb.
5Wele, (medd yr Arglwydd) dygaf ddiledd ar y bŷd, y cleddyf, newyn, marwolaeth, a dinistr.
6Canys anwiredd a gafodd y llaw vchaf ar y ddaiar, a chyflawnwyd eu gweithredoedd drygionus.
7Am hynny y dywed yr Arglwydd,
8Ni attaliaf mo’m tafod mwy am eu hanwiredd hwy, y rhai a wnant yn annuwiol, Apoc.6.10|REV 6:10 & 19.2.ac ni ddioddefaf iddynt yn y pethau a drinant mor sceler: wele, y gwaed gwirion cyfiawn sydd yn gweiddi arnaf, ac eneidiau y rhai cyfiawn sy yn achŵyn beunydd.
9Am hynny y dywed yr Arglwydd, mi a ddialaf yn siccr, ac a gymmeraf attaf yr holl waed gwirion oi mysc hwynt.
10Wele fy mhobl a dwysir fel mintai o ddefaid iw lladd, ni adawaf iddynt yn awr aros yn nhîr yr Aipht.
11Ond dygaf hwy allan â llaw gadarn, ac â braich estynnedic, a tharawaf yr Aipht â dialeddau fel y gwneuthum o’r blaen, a difethaf yr holl dîr.
12Yr Aipht a alara, ai sylfeini hi a darewir â dialeddau ac a cherydd, y rhai a ddwg Duw arni.
13Y rhai a lafuria y ddaiar a alarant, canys eu hâd a ddifethir gan falldod, a chenllysc, a thrwy seren ofnadwy.
14Gwae yr holl fŷd, a’r rhai a drigant ynddo.
15Canys y cleddyf, ai destruw hwynt sydd yn nesau, a’r naill bobl a saif i ymladd yn erbyn y lleill â chleddyfau yn eu dwylo.
16Canys gwŷr a fyddant yn anwadal, a’r naill a wna drais i’r llall, ni phrissiant ar eu brenin, a’r tywysogion a fesurant eu gweithredoedd wrth eu gallu.
17Gŵr a ewyllysia fyned i ddinas, ac ni’s gall fyned,
18O herwydd eu balchder y trallodir y dinasoedd, y tai a grynant, a’r gwŷr a ofnant.
19Ni chymmer gŵr drugaredd ar ei gymmydog, ond difetha eu tai a wnânt a’r cleddyf, a dwyn eu dâ, o herwydd y newyn a’r blinder.
20Wele, (medd Duw) galwaf holl frenhinoedd y ddaiar i’m anrhydeddu i, y rhai sydd o’r dwyrain a’r dehau, a’r gorllewyn, a Libanus, i droi yn eu herbyn hwy, ac i dalu ’r pwyth iddynt.
21Fel y gwnânt y dydd heddyw i’m detholedigion, felly y gwnaf inne hefyd, a thalaf iw mynwes: fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw,
22Nid arbed fy neheu-law y pechaduriaid, a’m cleddyf ni phaid a’r rhai a dywalltant waed gwirion ar y ddaiar.
23Y tân a aeth allan oi ddigter, ac a ddifethodd sylfeini y ddaiar, a’r pechaduriaid fel gwellt yn llosci.
24Gwae y rhai a bechant, ac ni chadwant fyng-orchymynnion medd yr Arglwydd.
25Ni arbedaf hwynt: ewch ymmaith chwi blant oddi wrth yr gallu, na lygrwch fyng-hysseger.
26Canys yr Arglwydd a edwyn bawb a’r a bechant yn ei erbyn ef, ac am hynny y rhydd efe hwynt i farwolaeth a destruw.
27Canys yn awr y daeth y dialedd ar y bŷd, a byddwch chwithau yn eu mysc: o herwydd ni wareda Duw chwi, am ichwi bechu yn ei erbyn ef.
28Wele, gweledigaeth ofnadwy sydd yn dyfod o’r dwyrain,
29Lle y daw cenhedloedd o ddreigiau o Arabia â llawer o gerbydau, ai lliaws hwy a ddygir fel gwynt ar y ddaiar, fel yr ofno ac y cryno pawb a’r ai clywo,
30Y Carmaniaid yn ynfydu mewn digter a ânt allant fel baeddod o’r coedydd, ac mewn nerth mawr y deuant, ac y safant yn eu herbyn hwy i ymladd, ac a ddestruwiant rann o wlâd yr Assyriaid.
31Ac yna y dreigiau a gânt y llaw vchaf, ac wrth feddwl am eu naturiaeth hwy a droant o amgylch, ac a gydfwriadant â nerth mawr iw herlid hwynt.
32Yna y rhai hyn a flinir, ac a distawant yn eu nerth, ac a ffoant.
33A’r gelyn a esyd arnynt o wlâd yr Assyriad, ac a ddifetha rai o honynt, ac yn eu llu hwynt y bydd ofn ac arswyd, ac ymryson rhwng eu brenhinoedd.
34Wele gwmylau o’r dwyrain, o’r gogledd, o’r dehau, ac erchyll yw edrych arnynt, yn llawn llid a themhestl.
35A tharawant y naill ar y llall, a bwriant i lawr liaws mawr o ser ar y ddaiar, ai séren eu hun hefyd: a’r gwaed fydd o’r cleddyf hyd y bobl.
36A thail dyn hyd wasarn y camel.
37A bydd ofn ac arswyd mawr ar y ddaiar, a’r rhai a welant y llid a ofnant, ac arswyd a ddaw atnynt.
38Ac yno y daw glawogydd mawrion o’r dehau a’r gogledd, a pheth o’r gorllewyn.
39A gwyntoedd mawrion a gyfodant o’r dwyrain, ac ai agorant hi, a’r cwmwl yr hwn a gyfododd efe mewn llid, a’r seren yr hon a gynhyrfodd i beri ofn tua gwynt y dwyrain a’r gorllewyn, a ddifethir:
40Y cwmylau mawrion yn llawn llid a’r seren a godir i fynu, fel y gallant ofni yr holl ddaiar a’r neb a drigo ynddi, fel y gallant fwrw seren erchyll ar bôb lle vchel,
41Tân, a chenllysc, a chleddyfau yn ehedeg, a llawer o ddŵfr, fel y byddo pob maes a phob afon yn llawn o ddyfroedd.
42A bwriant i lawr y dinasoedd, a’r magwyrydd, y mynyddoedd, a’r brynniau, y coedydd, a gwair y gweir gloddiau, ai hŷd.
43Ac a ânt yn hyf i Babilon, ac ai hofnant hi.
44Deuant attihi, a gosodant arni hi y sêren a phôb llid a dywalltant arni hi, yna yr âiff y llwch a’r mwg i’r nefoedd, a phawb a’r a fyddo vwch ei llaw a alarant am deni.
45A’r sawl a fyddo tani a wasanaethant y rhai ai hofnodd hi.
46A thithe Asia ’r hon a ymlawenychi am obaith Babilon, yr hon wyt yn ogoniant iddi:
47Gwae tydi druan, am i ti dy wneuthur dy hun yn debyg iddi hi, a thrwsiedaist dy ferched mewn godineb, fel y gallent lawenychu a thyngu bodd eu cariadau, y rhai a ddymmasant bôb amser odmebu â thi.
48Canlynaist ffiaidd yn ei holl weithredoedd, ai dychymygion, am hynny y dywed Duw,
49Danfonaf ddialedd arnat, gweddwdod, a thlodi, newyn a rhyfel, a chleddyf a haint i ddifetha dy dai â destruw ac â marwolaeth.
50A gogoniant dy nerth a ddiflanna fel llysieun, pan godo ’r gwrês a ddanfonir arnat.
51Byddi glâf fel gwraig dlawd yr hon a geryddir ac a gurir gan wragedd, fel na’s gallo y rhai galluog a’th gariadau dy dderbyn.
52A ddaliwni eiddigedd wrthit ti felly medd yr Arglwydd?
53Oni bai ladd o honot bôb amser fy netholedig, gan godi dyrnod dy ddwylaw, a dywedaist pan oeddit ti feddw am eu marwolaeth,
54Dangos allan degwch dy wyneb-pryd.
55Gwobr dy odineb a delir i’th fynwes, am hynny y cei di wobr.
56Fel y gwnaethost i’m detholedig medd yr Arglwydd, felly y gwna Duw i tithe, ac y rhydd ddialedd arnat.
57Dy blant a fyddant feirw o newyn, a thithe a syrthi drwy ’r cleddyf: dy ddinasoedd o fwrir i lawr, a chwbl o’r eiddot a ddifetha ’r cleddyf yn y maes.
58Y rhai sy yn y mynyddoedd a fyddant feirw o newyn, a bwytânt eu cîg eu hunain, ac yfânt eu gwaed eu hunain, o wir eisieu bara a diod.
59Tithe yn anhappus a ddeui drwy ’r môr, a chei ddialedd trachefn.
60Wrth fyned heibio y bwriant i lawr y ddinas golledig, a diwreiddiant vn rhan o’r wlâd, a difethant vn rhan o’th ogoniant, a dychwelant i hon a ddestruwiwyd,
61Hwy a’th sathrant i lawr fel sofl, ac a’th loscant:
62A difethant di, dy ddinasoedd, a’th wlâd, a’th fynyddoedd, a’th holl goedydd, a’th brēnau ffrwythlawn a loscant â thân.
63Dy blant a gaeth-gludant, ac a anrheithiant gwbl ag a feddech, ac a ddifwynant degwch dy wyneb.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.