1.Machabæaid 14 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIIII.Arsaces yn peri dal Demetrius, 4 Clôd Simon, 18 ai gymydeithas ef â’r Rhufeiniaid, ac â’r Spartiaid.

1AC yn y ddeuddecfed flwyddyn a thrugain a chant y casclodd y brenin Demetrius ei luoedd, ac efe a aeth i Media i gasclu iddo gymmorth i ryfela yn erbyn Tryphon.

2Pan glybu Arsaces brenin Persia a Media ddyfod Demetrius i fewn ei derfynau ef, efe a anfonodd vn oi dywysogion iw ddal ef yn fyw

3A hwnnw a aeth, ac a darawodd werssyll Demetrius, ac ai daliodd ef, ac ai dug ef at Ar­saces, ac yntef ai gosododd ef yng-harchar.

4A’r tîr a gafodd lonydd holl ddyddiau Simon: canys efe a geisiodd ddaioni iw genedl, a bodlon oedd ganddynt ei awdurdod ef ai anrhydedd yr holl amser.

5Simon hefyd heb law ei anrhydedd a ennillod Ioppe yn borthladd, ac a wnaeth fford i ynysoedd y môr.

6Ac efe a helaethodd derfynau ei genedl, ac a ennillodd iddynt dîr.

7Hefyd efe a gasclodd gaethglud mawr, ac a feddiannodd Gazuris a Bethsura a’r tŵr, ac a dynnoedd yr aflendid allan o honi hi, ac ni oedd a safe yn ei erbyn ef.

8Felly yr oeddynt hwy yn coledd eu tîr yn heddychlon, a’r ddaiar a rodde ei chnwd, a choed y maes eu ffrwythau.

9Yr henuriaid a eisteddent yn yr heolydd, am ddaioni yr ymgynghorent hwy oll, a’r gwŷr ieuaingc a wiscent anrhydedd a gwiscoedd rhyfel.

10Efe a roddes ymborth i’r dinasoedd, ac ai trefnodd hwynt ag offer cadernid, hyd oni sonnid am ei enw anrhydeddus ef hyd eithafoedd y ddaiar.

11Efe a wnaeth heddwch ar y ddaiar fel y cafodd Israel lawenydd mawr.

12Pob vn a eistedde tann ei winwŷdden ai figus-bren, ac nid oedd ai hofne hwynt.

13Darfu pawb a oedd yn rhyfel yn eu herbyn hwynt ar y ddaiar, a’r brenhinoedd a ddini­striwyd yn y dyddiau hynny.

14Hefyd efe a gadarnhâodd bob vn gostyngedic oi bobl, efe a chwiliodd allan y gyfraith, ac a dynnodd ymmaith bob annuwiol a drygionus.

15Efe a barchodd y cyssegr, ar a amlhâodd lestri y cyssegr.

16Ac hwy a glywsant yn Rhufain farw Ionathas, ac hyd Sparta hefyd, a thrist iawn fu ganddynt.

17Ond pan glywsant hwy mai Simon ei frawd ef a wneithid yn arch-offeiriad yn ei le ef, ac ennill a honaw ef y wlad a’r dinasoedd y rhai oeddynt ynddi:

18Hwy a scrifennasant atto ef mewn lle­chau prês i adnewyddu ag ef y gyfeiliach a’r gydymdeithas a wnaethant hwy ag Iudas, ac ag Ionachas ei frodyr ef.

19Ac hwy a ddarlennwyd o flaen y gynnulleidfa yn Ierusalem.

20Ac dymma goppi y llythŷrau y rhai a anfonodd yr Spartiaid: TYWYSOGION di­nas yr Spartiaid yn cyfarch yr arch-offeiriad Simon, a’r henuriaid, a’r offeiriaid a’r rhan arall or’ brodyr pobl yr Iddewon:

21Y cennadon a anfonwyd at ein pobl ni a fynegasant i ni am eich gogoniant, a’ch parch chwi, a llawen fu gennym eu dyfodiad hwynt.

22Ac ni a scrifennasom yr hyn a ddywedasant hwy ym mysc cynghorion y bobl fel hyn: NVMENIIIIS Antiochus, ac Antipater Iason cennadau yr Iddewon a ddaethant attom ni i adnewyddu cyfeillach â ni.

23A bodlon oedd y bobl i dderbyn y gwŷr yn anrhydeddus, ac i scrifennu coppi oi hyma­drodd hwynt yn hynod lyfrau y bobl, fel y cae pobl yr Spartiaid goffadwriaeth: ac hwy a scri­fennasant goppi o hyn at Simon yr arch-offeiriad.

24Wedi hyn fe a anfonodd Simon Numenius i Rufain â tharian mawr o aur ganddo o bwys mil o bynnoedd i wneuthur chyfeillach â hwynt.

25A phan glybu y bobl y geiriau hyn, hwy a ddywedasant: pa ddiolch a roddwn ni i Simon, ac iw feibion:

26O blegit a gadarnhaodd efe, ai frodyr, a thŷ ei dad, ac hwy a ddinistriasant elynnion Israel oi mysc: am hynny hwy a osodasant iddo ef rhydd dyd, ac ai scrifennasant mewn llechau prês, ac ai gosodasant ar golofnau ym mynydd Sion.

27Ac dymma goppi yr scrifen: Y DEVNAWFED dydd o Elul y deuddefed flwyddyn a thrugain a chant, ac dymma y drydedd flwyddyn er pan yw Simon yn arch-offeiriad yn Saramel.

28Mewn cyfarfod mawr o offeiriaid, a phobl, a thywysogion y genedl, ac henuriaid y wlâd, yr yspyswyd i ni mai mynych y bu rhyfel yn y wlad.

29A Simon mab Mattathias o feibion Iarib ai frodyr a ymroddasant i’r perigl, ac a safasant yn erbyn gwrthwyneb-wŷr eu cenedl, fel y parhae eu cyssegr a’r gyfraith, ac hwy a anrhydeddasant eu cenedl ag anrhydedd mawr.

30Canys Ionathas a gasclodd eu cenedl hwynt, ac a fu yn arch-offeiriad iddynt, ac a doddwyd at ei bobl.

31Ai gelynion hwynt a fynnasent ddyfod i fynu iw gwlâd hwynt i ddifetha eu gwlâd hwynt, ac i estyn eu dwylo yn er hyn eu cyssegr hwynt.

32Yna y cyfododd Simon, ac a ryfelodd tros ei genedl, ac a dreuliodd lawer oi arian ei hun, ac a arfogodd wŷr nerthol oi genedl, ac a roddes iddynt hwy gyflog.

33Ac efe a gadarnhaodd ddinasoedd Iudaea, a Bethsura yr hon sydd yng-hyffiniau Iudaea, lle yr oedd arfau y gelynnion o’r blaen, ac efe a osododd yno wŷr o Iddewon i warchod.

34Felly y cadarnhâodd efe Ioppe yr hon sydd wrth y môr, a Gazara yr hon sydd yng-hyffiniau Azotus lle yr oedd y gelynnion yn aros o’r blaen: ac efe a osododd Iddewon yno, ac a osododd yno pa bethau bynnag oeddynt gymmwys i gospi hyn.

35A phan welodd y bobl ffyddlondeb Simon a’r anrhydedd yr oedd efe yn amcanu ei wneuthur iw genedl, hwythau ai gosodasant ef yn gapten, ac yn arch-offeiriad am iddo ef wneuthur hyn oll, sef y cyfiawnder a’r ffyddlondeb a gadwase efe iw genedl, a cheisio o honaw ef dderchafu ei bobl trwy bob modd.

36Ac yn ei ddyddiau ef y bu llwyddiant mawr oi achos ef, yn gymmaint a bwrw allan oi gwlad hwynt y cenhedloedd y rhai oeddynt yn ninas Ddafyd, ac yn Ierusalem, y rhai a wnaethent iddynt dŵr, allan o’r hwn y deuent, ac yr halogent o amgylch y cysegr, ac y gwnaent ddialedd mawr yn erbyn sancteiddrwydd.

37Ac efe a osododd ynddi hi wŷr o Idde­won, ac ai cadarnhâodd hi yn ddiogelwch i’r wlad, ac i’r ddinas, ac a gododd gaerau Ierusalē

38A’r brenin Demetrius a roddes yr arch-offeiriadaeth iddo ef yn hollawl.

39Ac efe ai gwnaeth ef oi garedigion, ac ai anrhydeddodd ef ag anrhydedd mawr.

40O blegit fe a glywsid fod y Rhufein­wŷr yn galw yr Iddewon yn gyfeillion, ac yn gymdeithon, a chyfarfod o honynt â chennadau Simon yn anrhydeddus.

41A gweled o’r Iddewon yn dda a’r offeiriaid hefyd fod Simon yn gapten iddynt, ac yn arch-offeiriad byth, hyd oni chode prophwyd ffyddlon.

42Ai fod efe yn gapten arnynt hwy, ac i ofalu am y cyssegr, fel y gosode efe rai ar eu gwaith hwynt, ac ar y wlad, ac ar yr arfau, ac ar y cestill.

43Ac fel y bydde arno ef y gofal am y cyssegr, ac y gwrandawe pawb arno ef, ac fel yr scrifennid pob scrifen yn y wlad yn ei enw ef, ac fel y gwisce efe borphor, ac y dyge aur.

44Am hynny ni bydd gyfreithlon i neb o’r bobl nac o’r offeiriaid ddiddymmu dim a hyn, na dywedyd yn erbyn dim a ddywedd efe, na galw cymmanfa yng-hyd yn y wlad hebddo ef, na gwisco porphor, nac arfer cadwyn aur.

45A phwy bynnag a wnelo yn erbyn hyn, neu a ddiddymmo ddim o hyn euog fydd efe.

46A bodlon oedd gan yr holl bobl osod Simon i wneuthur fel hyn.

47Simon hefyd a gymmerodd ac a fu fodlon i fod yn arch-offeiriad, ac yn gapten, ac yn dywysog ar genedl yr Iddewon a’r offeiriaid, ac i lywodraethu pawb.

48Ac hwy a barasant osod yr scrifen hon mewn llechau prês,

49Ai gosod hwynt ar y mur yr hwn oedd o amgylch y cyssegr mewn lle hynod: a gosod coppi o hynny yn y tryssor-dŷ, fel y galle Simon ai feibion ei gael ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help