Amos 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Prophwydoliaeth yn erbyn Moab, Iuda, ac Israel.

1Fel hyn y dywed yr Arglwydd, am dair o anwireddau Moab, ac am bedair ni throaf hynn yn ei ôl: am iddo losci escyrn brenin Edom yn lludw.

2Am hynny anfonof dân i Moab, yr hwn a ddifa balasau Cerioth: a Moab fydd marw mewn terfysc, gweiddi, a llais vdcorn.

3Mi a ddorraf ymmaith ei barn-wr oi mysc: ai holl bendifigion a laddaf gyd ag ef, medd yr Arglwydd.

4Fel hyn y dywed yr Arglwydd, am dair o anwireddau Iuda, ac am bedair ni throaf hyn yn ei ôl: am iddynt ddirmygu cyfraith yr Arglwydd, ac na’s cadwasant eiddeddfau ef: onid eu celwyddau ai cyfeiliornodd hwynt, y rhai’r aeth eich tadau ar eu hôl.

5Am hynny’r anfonaf dân i Iuda, ac efe a ddifa balasoedd Ierusalem.

6Fel hyn y dywed yr Arglwydd, am dair o anwireddau Israel, ac am bedair ni throaf hyn yn ei ôl, am i chwi werthu y cyfiawn am arian, a’r tlawd er pâr o escidiau.

7Dyheuadasant vwch ben y tlodion yn llwch y ddaiar, a gŵyrasant ffordd y trueniaid: gŵr, ai dad a ânt at yr vn llangces, i halogi fy enw sanctaidd.

8Ac ar ddillad wedi eu rhoi yng-ŵystl y gorweddant wrth bob allor: a gwin y dirwyus a yfant nhŷ eu Duw.

9A myfi a ddinistriais yr Amoriaid oi blaen hwynt, yr hwn oedd fel vchter y cedr-wydd ei hyd, ac efe oedd gryf fel derw: etto mi a ddinistriais ei ffrwythau oddi arnodd, ai wraidd oddi tanodd.

10Myfi hefyd a’ch dugym chwi i fynu o wlad yr Aipht, ac a’ch arweiniais chwi ddeugain mhlynedd trwy’r anialwch i orescyn gwlad yr Amoriaid.

11A mi a gyfodais o’ch meibion chwi yn brophwydi, ac o’ch gwŷr ieuaingc rai yn Nazareaid: oni hyn ô meibion Israel, medd yr Arglwydd?

12Ond chwi a roesoch i’ch Nazareaid wîn iw yfed, ac a orchymynnasoch i’ch prophwydi, gan ddywedyd: na prophwydwch.

13 Esay.4.14.(sic.) Wele fi wedi fy llethu tanoch, fel y llethir y fenn lawn o yscubau.

14Methodd gan y buan ddiangc, a’r crŷf ni chadarnhaodd ei rym, a’r cadarn ni waredodd ei enaid ei hun.

15Ni saif a ddalio y bŵa, ni ddiangc y buan o draed, nid achub marchog y march ei enioes ei hun.

16A’r cryfaf ei galon o’r cedyrn a ffŷ y dwthwn hwnnw yn noeth-lymmun, medd yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help