1Cadw y Exod.13.4.mîs Abib, a gwna Basc i’r Arglwydd dy Dduw: canys o fewn y mîs Abib i’th ddug yr Arglwydd dy Dduw o’r Aipht ar hŷd nôs.
2Abertha dithe yn Basc i’r Arglwydd dy Dduw ddefaid, a gwarthec yn y Deut.12.5.lle’r hwn a ddewiso’r Arglwydd dy Dduw i drigo oi enw ef yno.
3Na fwytta sur-does gyd ag ef, saith niwrnod y bwyttei gyd ag ef fara croiw, bara cystudd: canys ar ffrwst y daethost allan o dîr yr Aipht, fel y cofiech ddydd dy ddyfodiad allan o dîr yr Aipht holl ddyddiau dy enioes.
4Ac na weler genit sur-does yn dy holl derfynau saith niwrnod, ac nac arhoed tros nôs o’r cîg yr hwn a aberthech yn yr hwyr, ar y dydd cyntaf hyd y boreu.
5[Hefyd] ni elli aberthu y Pasc o fewn yr vn o’th byrth, y rhai y mae’r Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi it:
6Onid yn y lle’r hwn a ddewiso’r Arglwydd dy Dduw i drigo oi enw ef ynddo’r aberthi y Pasc yn yr hwyr, ar fachludiad yr haul, y pryd y daethost allan o’r Aipht.
7Yna y rhosti ac y bwyttei yn y lle’r hwn a ddewiso’r Arglwydd dy Dduw, a’r boreu y dychweli, ac yr ei i’th babellau.
8Chwe diwrnod y bwyttei fara croiw, ac ar y seithfed dydd vchel-ŵyl i’r Arglwydd dy Dduw ni chei wneuthur gwaith.
9Cyfrif it saith wythnos, pan ddechreuo y crymman ar yr ŷd y dechreui rifo saith wythnos.
10Yna y cedwi ŵyl yr wythnosau i’r Arglwydd dy Dduw, a’th offrwm gwirfodd’r hwn a roddi, megis i’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw.
11A llawenycha ger bron yr Arglwydd dy Dduw, ti a’th fab, a’th ferch, a’th wâs, a’th forwyn, a’r Lefiad yr hwn o fewn dy byrth: a’r dieithr a’r ymddifad, a’r weddw, y rhai yn dy fysc: Leuit.23.34.yn y lle’r hwn a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo oi enw ef ynddo.
12Cofia hefyd mai gwâs fuost yn yr Aipht, a chadw, a gwna y deddfau hyn.
13Cadw it ŵyl y pebyll saith niwrnod, wedi it gasclu dy ŷd a’th win.
14A llawenycha yn dy ŵyl, ti, a’th fab, a’th ferch, a’th wâs, a’th forwyn, a’r Lefiad, a’r dieithr, a’r ymddifad, a’r weddw y rhai o fewn dy byrth.
15Saith niwrnod y cedwi ŵyl i’r Arglwydd dy Dduw, Exod.23.14. Exod.34.23.yn y lle’r hwn a ddewiso yr Arglwydd: canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithia yn dy holl gnwd, ac yn holl waith dy ddwylo, am hynny bydd dithe lawen.
16* Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys pob gwryw honot o flaen yr Arglwydd dy Dduw yn y lle’r hwn a ddewiso efe, ar ŵyl y bara croiw, ac ar ŵyl yr wythnosau, ac ar ŵyl y pebyll: ond nac ymddangosed neb o flaen yr Arglwydd yn wâglaw.
17Pob vn yn ôl rhodd ei law, yn ôl bendith yr Arglwydd dy Dduw’r hon a rydd efe iti.
18Dôd it farn-wŷr, a blaenorrion yn dy holl byrth y rhai y mae’r Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi it trwy dy lwythau: a barnant hwy y bobl, barn gyfiawn.
19Na ŵyra farn, na chydnebydd wynebau, na dderbyn wobr y chwaith: canys gwobr a ddalla lygaid y doethion, ac a ŵyra eiriau y cyfiawn.
20Cyfiawnder, cyfiawnder a ddilyni, fel y byddech fyw, ac yr etifeddech y tir yr hwn y mae’r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi it.
21Na phlanna it lwyn neb ryw goed ger llaw allor yr Arglwydd dy Dduw yr hon a wnei it.
22Ac na chyfot it golofn, hyn sydd gâs gan yr Arglwydd dy Dduw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.