1Eithr bu gau brophwydi ym mhlith y bobl, fel y bydd yn eich plith chwithau athrawon ffeilsion, y rhai yn ddirgel a ddygant i mewn heresioedd dinistriol, a gan wadu yr Arglwydd yr hwn a’u prynodd hwynt, a chan dynnu arnynt eu hunain ebrwydd ddinistr.
2A llawer a ganlynant eu destruw hwynt, trwy’r rhai y ceblir ffordd y gwirionedd.
3A thrwy gribddeiliaeth wrth eiriau dychymygus y marchnattant chwi, barnedig aeth y rhai er ystalm nid yw yn segur, a’u colledigaeth hwy nid yw yn cyscu.
4Canys onid Iob.4.18. iud.6arbedodd Duw’r angelion, y rhai a bechasent, eithr eu taflu i wared i vffern, a’u rhoddi mewn cadwynau tywyllwch, iw cadw i ddamnedigaeth:
5Ac nid arbedodd yr hên fŷd, Gen.7.2.eithr Noe yr wythfed, pregeth-wr cyfiawnder, a waredodd efe, ac a ddug y diluw ar fŷd yr anwiriaid,
6Ac a Gene.19.13.droes ddinasoedd Sodoma a Gomorha yn lludw, a’u dymchwelodd, ac a’u cyfrgollodd hwnt, ac a’u gwnaeth hwynt yn siampl i’r rhai rhag-llaw a fucheddent yn annuwiol,
7Ac a achubodd Lot gyfiawn yr hwn oedd mewn gofid trwy aniwair ymwreddiad yr anwiriaid.
8(Canys ag efe yn gyfiawn, ac yn trigo yn eu mysc hwynt, yn gweld, ac yn clywed, ydoedd yn poeni ei enaid cyfiawn o ddydd i ddydd, trwy eu anghyfreithlon weithredoedd hwynt)
9Yr Arlgwydd a fedr achub y gwirioniaid oddi wrth brofedigaeth, a chadw y rhai anghyfiawn i ddydd y farn iw poeni.
10Ac yn bennaf y rhai sy yn rhodio ar ôl y cnawd, mewn trachwant aflân, ac yn diystyru awdurdod, ac hwynt yn rhyfygus, ac yn gyndyn, nid ydynt yn arswydo cablu y rhai anrhydeddus.
11Lle nid yw yr angelion y rhai sy fwy mewn cadernid a gallu, yn rhoddi dirmygus farn yn eu herbyn hwynt ger bron yr Arglwydd.
12Eithr y rhai hyn megis anifeiliaid, anrhesymmol anianol, y rhai a wnaed iw dal a’u difetha, yn cablu y pethau ni ŵyddant oddi wrthynt, a ddifethir trwy eu llygredigaeth eu hunain.
13Y rhai a dderbyniant gyflog angyfiawnder fel y rhai sy yn cyfrif yn lle gwynfyd gael byw mewn moethe tros amser: brychau ydynt, a tharysclynau yn ymddigrifo yn eu twyll, gan gyd-wlêdda gyd â chwi,
14A llygaid ganddynt yn llawn godineb ni’s gallant chwaith beidio â phechod, yn abwydo eneidiau anwadal, a chanddynt galon wedi ymgynnefino â chubydd-dra, plant y felldith,
15Y rhai wedi ymadael â’r ffordd iawn, a aethant ar gyrwydr, gan ganlyn ffordd Baalam Bozor, yr hwn a garodd obr anghyfiawnder.
16Eithr ef a geryddwyd am ei gamwedd, canys Num.22.23. iud.11.assyn fud arferol â’r iau gan ddywedyd â llef ddynol, a waharddodd ynfydrwydd y prophwyd.
17 Iud.22. Y rhai hyn, ffynhonau ydynt heb ddwfr, niwlennau a chwale’r dymestl, i ba rai y mae niwl tywyllwch yng-hadw yn dragywydd.
18Canys gan ddywedyd chwyddedig eiriau gorwagedd trwy drachwantau a thrythyllwch y cnawd, y maent yn abwydo y rhai a ymdroesent mewn cyrwydr,
19 Ioan.8.34. ruf.6.20. Gan addo iddynt rydd-did, ac hwynt eu hunain yn wasanaeth-wŷr llwgr: canys gan bwy bynnag y gorchfyger nêb, efe a aeth yn ŵr caeth i hwnnw.
20O blegit Math.12.45. heb.6.4.os wedi eu diangc oddi wrth halogedigrwydd y bŷd, trwy adnabyddiaeth yr Arglwydd a’r Achubwr Iesu Grist, y ceffir hwynt eil-waith wedi ymrwystro â’r vn pethau, ac wedi eu gorchfygu, diwedd y rhai hynny a aeth yn waeth nâ’u dechreuad:
21Canys gwell fuase iddynt na ŵybassent ffordd y cyfiawnder, nag wedi ei gwybod, cilio oddi wrth y gorchymyn sanctaidd a rodded iddynt.
22Eithr iddynt hwy y digwydd yr hyn y wir ddihareb, y cî a ymchwelodd at ei chwdiad ei hun, a’r hwch wedi ei golchi iw ymdreiglfa yn y dom.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.