1A phan ddarfu i Ieremi lefaru holl eiriau yr Arglwydd eu Duw hwynt wrth yr holl bobl, y rhai’r anfonase yr Arglwydd eu Duw ef atynt: yr holl eiriau hynny,
2Yna y llefarodd Azariah mab Osaiah, ac Iohanan mab Careah, a’r holl ddynnion beilchion gan ddywedyd wrth Ieremi, celwydd yr ydwyt ti yn ei ddywedyd, ni anfonodd yr Arglwydd ein Duw ni mo honot ti i ddywedyd, nac ewch i’r Aipht i ymdeithio yno:
3Eithr Baruc mab Neriah a’th annogodd di i’n herbyn ni, i gael ein rhoddi ni yn llaw y Caldeaid, ac i’n lladd, ac i’n caeth-gludo i Babilon.
4Ond ni wrandawodd Iohanan mab Careah na holl dywysogion y llu, na’r holl bobl ar lais yr Arglwydd i drigo yn nhîr Iuda:
5Eithr Iohanan mab Careah a holl dywysogion y llu a ddygasant ymmaith holl weddill Iuda y rhai a ddychwelasent oddi wrth yr holl genhedloedd (lle y bwriasid hwynt) i aros yng-wlad Iuda,
6Yn wŷr a gwragedd a phlant, a merched y brenin, a phob enaid a’r a adawse Nabuzaradan pennaeth y mil-wŷr gyd â Gedaliah mab Ahicam fab Saphan, y prophwyd Ieremi hefyd, a Baruc fab Neriah
7Felly hwynt a ddaethant i wlâd yr Aipht, canys ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd: yna y daethant i Thaphnis.
8A gair yr Arglwydd a ddaeth at Ieremi yn Thaphnis gan ddywedyd:
9Cymmer di yn dy law gerrig mawrion, a chuddia di hwynt yn yr odyn briddfaen yr hon yn nrws tŷ Pharao yn Thaphnis, yng-olwg gwŷr Iuda:
10A dywet wrthynt, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd Duw Israel; wele mi a anfonaf, ac a ddygaf Nabuchodonosor frenin Babilon Ier.25.9.fyng-wâs, ac mi a osodaf ei frenhin-faingc ef ar y cerrig hyn, y rhai a guddiais, ac efe a dana babell arnynt.
11A phan ddelo efe, efe a deru wlâd yr Aipht Ier.15.2.rhai ag angeu, a rhai â chaethiwed, a rhai a’r cleddyf.
12Ac mi a gynneuaf dân yn nhai duwiau yr Aipht, ac efe ai llysc hwynt, ac ai caethiwa hwynt, ac efe â ymwisca â gwlad yr Aipht fel y gwisco bugail ei ddillad: ac efe a aiff allan oddi yno mewn heddwch.
13Ac efe a dyrr ddelwau tŷ yr haul yr hwn yng-wlâd yr Aipht, ac efe a lysc dai duwiau yr Aipht â thân.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
