1Yr ydwyf i gadw gorchymyn y brenin, a gair llw Dduw.
2Na ddôs oi olwg yn gyffrous, na saf mewn peth drwg: canys efe a wna a fynno ei hun.
3Lle y byddo gair y brenin y mae awdurdod: pwy a ddywed wrtho? beth yr wyt ti yn ei wneuthur?
4Y nêb a gadwo y gorchymyn ni wêl ddrwg: eithr calon y doeth a edwyn amser, a barn.
5Canys y mae amser a barn i bob ewyllys: ond drygioni dŷn sydd yn fawr yn ei erbyn ef.
6Ni ŵyr beth sydd ar ddyfod, canys pwy a ddengys iddo pa fath beth a ddaw?
7Nid yw dŷn yn arglwyddiaethu ar yr yspryd i attal yr yspryd, ac nid oes rhydd-did yn nydd marwolaeth, ac nid oes arf a wareda yn y rhyfel, ac nid achub annuwoldeb ei pherchennog.
8Yr holl bethau hyn a welais i, ac mi a ystyriais bob gorchwyl a wneir dan haul, y mae amser pan arglwyddiaetha dŷn ar ddyn er drwg iddo.
9Mi a welais gladdu y rhai annuwiol, ac hwy a ddaethant eilwaith: ac a aethent o’r lle sanctaidd, a hwy a ebergôfwyd yn y ddinas, lle y gwnaethent gyfiawnder: gwagedd yw hyn hefyd.
10O herwydd nad oes gyfraith i gospi drwg yn fuan: am hynny calon plant dynnion sydd yn llawn ynddynt i wneuthur drwg.
11Er bôd i Dduw estyn dyddiau pechadur yr hwn a wnaeth ddrwg gan-waith: etto mi a wn y daw daioni i’r rhai a ofnant Dduw, ac a arswydant rhagddo ef.
12Ond ni bydd daioni i’r annuwiol, ac ni estyn efe ei ddyddiau: cyffelyb i gyscod yw efe: canys nid ofna efe wyneb Duw.
13Y mae gwagedd a wneir ar y ddaiar, bod y cyfiawn yn damwain iddynt yn ôl gwaith y drugionus: ar drugionus yn digwyddo iddynt yn ôl gwaith y cyfiawn: mi a ddywedais fod hyn hefyd yn wagedd.
14Ac am hynny mi a gan-molais lawenydd, nid oes dim da i ddyn dān haul, ond bwyta ac ŷfed, a gwneuthur yn llawen, hynny sydd i ddyn oi lafur ddyddiau ei fywyt y rhai a roddes Duw iddo tann yr haul.
15Pan osodais i fyng-halon i ddeall doethineb, ac i edrych ar y drafferth a wneir ar y ddaiar, er i ddyn na welo hûn ai lygaid na dydd na nôs,
16Yna mi a welais am holl orchwyl Duw, na ddichon dŷn ddeall y gwaith a wneir tann haul, er i ddyn lafurio i geisio, etto nis caiff, ie pe meddylie y doeth fynnu gŵybod, etto ni chae efe
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
