Iob 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Iob yn rhegu dydd ei anedigaeth. 11 Ac yn chwennychu marwolaeth, 14 Lle y mae cyrchfa pob math ar ddyn, 17 A diwedd pob gofid bydol, 23 Yr hwn oedd drwm arno ef.

1Wedi hynny Iob a agorodd ei enau, ac a felldigodd ei ddydd.

2Canys Iob a lefarodd, ac a ddywedodd,

3Darfydded am y dydd i’m ganwyd ynddo: a’r nôs y dywedwyd, fe a ennillwyd gŵr.

4Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch, Duw oddi vchod heb ei ystyried, ac na thywynned llewyrch arno.

5Ond tywyllwch, a chyscod marwolaeth ai halogo ef, ac arhosed cwmwl arno ef: gwnelont ef mor erchill a’r diwrnod chwerwaf allan.

6Cymmered niwl y nôs honno, na chydier hi a dyddiau y flwyddyn: ac na ddeued hi i rifedi y misoedd.

7Bydded y noswaith honno yn vnic: ac na fydded gorfoledd ynddi.

8A’r rhai a felldigant dydd, ac sy barod i gyffroi eu galar ai melldithio hi.

9A bydded sêr ei chyfddydd hi yn dywyll, disgwilied hi am oleuni, ac na ac na chaffed hi weled y wawr ddydd.

10Am na chaeodd hi ddryssau croth fy ac na chuddiodd hi ofid oddi wrth fy llygaid.

11Pa ham na bum farw o’r bru? threngais ddaethum allan o’r groth?

12Paham y derbynnodd glinniau fyfi? a phaham fronnau i sugno?

13O herwydd yn awr mi a gawswn orwedd, a gorphywys huno, yna llonyddwch i mi,

14Gyd a brenhinoedd, a chynghor-wŷr y ddaiar y rhai a adailadasant iddynt eu hunain anghyfannedd.

15Neu gyd a thywysogion aur ganddynt: y rhai a lanwasant eu tai ag arian.

16Neu na’m cuddiwyd fel erthyl? megis plant bychain heb weled goleuni?

17Yno yr annuwolion a beidiant ai cyffro: ac yno y gorphywys y rhai lluddedic o nerth.

18Y rhai a gyd garcharwyd a gaent lonydd, ni chlywant lais y gorthrymmudd.

19Bychan a mawr yno: a’r gwâs yr hwn a ryddhauwyd oddi wrth ei feistr.

20Pa ham y rhoddir goleuni i’r hwn sydd mewn llafur? a bywyd i’r rhai gofidus?

21Y rhai sy’n disgwil am farwolaeth ac heb ei er cloddio o honynt am dani hi yn fwy nac am dryssorau cuddiedic.

22Y rhai a lawenychant mewn hyfrydwch: ac a orfoleddant pan gaffant y bedd.

23[Pa ham y roddir goleuni] i’r gŵr yr hwn y mae ei ffordd yn guddiedic? ac y caeodd Duw arno?

24O blegit o flaen fy mwyd y daw fy vchenaid: a’m rhuadau a dywelltir megis dyfroedd.

25Canys yr hyn a ofnais a ddaeth attafi: a’r hyn a arswydais a ddigwyddodd i mi.

26Ni bum lonydd na difraw, ac ni orphywysais: er hynny daeth cynnwrf

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help