1Yna i’m cyfododd yspryd, ac i’m dûg hyd borth dwyrain tŷ’r Arglwydd, yr hwn sydd yn edrych tua’r dwyrain: ac wele bum-ŵr ar hugain yn nrŵs y porth, ac yn eu mysc hwynt y gwelwn Iaazamiah fab Azur, a Pheltiah fab Benaiahu, tywysogion y bobl.
2Ac efe a ddywedodd wrthif, ha fab dŷn, dymma y gwŷr y rhai ydynt yn dychymygu coegni, ac yn ymgynghori â drwg gyngor yn y ddinas hon.
3Y rhai a ddywedant, nid madws adailadu tai, hi yw’r crochan, ninneu’r cîg.
4Am hynny prophwyda di iw herbyn hwynt, prophwyda fab dŷn.
5Yna y syrthiodd yspryd yr Arglwydd arnaf, ac a ddywedodd wrthif: dywet, fel hynn y dywedodd yr Arglwydd, tŷ Israel felly y dywedasoch: canys mi a adwen amcannion eich yspryd.
6Amlhasoch eich lladdedigion o fewn y ddinas hon, a llanwasoch ei heolydd hi â chelanedd.
7Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, eich lladdedigion y rhai a osodasoch oi mewn hi yw’r cîg, a hithe yw yr crochan? chwithau a ddygaf allan oi chanol.
8Cleddyf a ofnwch, a chleddyf a dduw arnoch medd yr Arglwydd Dduw.
9Dygaf chwi hefyd allan oi chanol, a rhoddaf chwi yn llaw dieithriaid, a gwnaf farn arnoch.
10Ar y cleddyf y 2.Bren.25.7.syrthiwch, ar derfyn Israel y barnaf chwi, fel y gwypoch mai myfi yr Arglwydd.
11Hon ni bydd i chwi yn grochan, ni byddwch chwithau yn gîg oi mewn: ar derfyn Israel y barnaf chwi.
12A chewch ŵybod mai myfi yr Arglwydd, canys ni rodiasoch yn fy neddfau: ac ni wnaethoch fy marnedigaethau: onid yn ôl barnedigaethau y cenhedloedd y rhai o’ch amgylch y gwnaethoch.
13A phan brophwydais, bû farw Pheltiah mab Benaiahu: yna syrthiais ar fy wyneb, a gwaeddais â llef vchel, ddywedais: ô Arglwydd Dduw a wnei di drangc ar weddill Israel?
14Yna y daeth gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd,
15Ha fab dŷn dy frodyr, dy frodyr, dy ddynion cyfnesaf, a holl dŷ Israel yn gwbl y rhai] y dywedodd presswylwyr Ierusalem wrthynt, ymbellhewch oddi wrth yr Arglwydd, i ni y rhodded y tîr hwn yn etifeddiaeth.
16Dywet am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: er gyrru o honof hwynt ym mhell ym mysc y cenhedloedd, ac er gwascaru o honof hwynt trwy y tiroedd, etto byddaf yn gyssegr bychan iddynt yn y tiroedd lle y daethant.
17Dywet gan hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, casclaf chwi hefyd o fysc y bobloedd, a chynhullaf chwi o’r tiroedd y rhai i’ch gwascarwyd ynddynt, a rhoddaf i chwi dîr Israel.
18A phan ddelant yno symmudant ei holl frynti hi, ai holl ffieidd-dra o honi hi.
19A rhoddaf iddynt vn galon, Iere.32.39.|JER 32:39. ezec.36.26.ac yspryd newydd a roddaf yn eu ceudod: symmudaf hefyd y galon garrec oi cnawd hwynt, ac mi a roddaf iddynt galon gîg:
20Fel y rhodiant yn fy neddfau, ac y cadwant fy marnedigaethau, ac y gwnant hwynt: byddant yn bobl i mi, mynne a fyddaf Dduw iddynt hwy.
21Os wrth feddwl eu brynti ai ffiaidd-dra ’r aiff eu calon, rhoddaf eu ffordd ar eu pennau eu hun, medd yr Arglwydd Dduw.
22A’r Cerubiaid a gyfodasant eu hadenydd, a’r olwynion ar eu cyfer hwynt, a gogoniant Duw Israel arnynt oddi arnodd.
23Yna gogoniant yr Arglwydd a dderchafodd oddi ar ganol y ddinas, ac a safodd ar y mynydd yr hwn o’r tu dwyrain i’r ddinas.
24Yna yspryd a’m cododd fi, ac a’m dûg hyd Caldea, at y gaeth-glud mewn gweledigaeth drwy Yspryd Duw: a’r weledigaeth yr hon a welswn a dderchafodd oddi wrthif.
25Yna y lleferais wrth y gaeth-glud holl eiriau’r Arglwydd y rhai a ddangosase efe i mi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.