1Yna Booz a aeth i fynu i’r porth, ac a eisteddodd yno, ac wele y cyfathrachwr yn myned heibio yr hwn y dywedase Booz, ac efe a dywedodd, 1.Sam.21.3. 2 Bren.6.8.ho hwn a hwn, tyret yn nes, eistedd ymma: ac efe a nesaodd, ac a eisteddodd.
2Yna efe a gymmerth ddeng-wr o henuriaid y ddinas, ac a ddywedodd, eisteddwch ymma, a hwynt a eisteddasant.
3Ac efe a ddywedodd wrth y cyfathrachwr: rhan o’r maes yr hon eiddo ein brawd Elimelech a werth Naomi yr hon a ddychwelodd o wlâd Moab.
4Am hynny y dywedais y mynegwn it gan ddywedyd, pryn ger bron y trigolion a cher bron henuriaid fy mhobl, os rhyddhei rhyddhâ ac oni ryddhei di mynega i mi, fel y gwypwyf: Canys nid oes onid ti iw ryddhau, a minne ar dy ôl di: ac efe a ddywedodd myfi ai rhyddhaf.
5Yna y dywedodd Booz, y diwrnod y prynech di ’r maes o law Naomi: ti ai pryni hefyd gan Ruth y Moabites gwraig y marw, i gyfodi henw yr marw ar ei etifeddiaeth ef.
6A’r cyfathrachwr a ddywedodd, ni allaf ryddhau i mi rhac colli fy etifeddiaeth: rhyddha di it dy hun fy rhann i, canys ni allafi ryddhau.
7(A hyn gynt yn Israel, am ryddhâd, ac am gyfnewid i siccrhau pôb peth, gŵr a ddiosce ei escid, ac ai rhodde iw gymmydog: a hyn destiolaeth yn Israel. )
8Am hynny y dywedodd y cyfathrachwr wrth Booz, pryn it dy hun: ac efe a ddioscodd ei escid.
9A dywedodd Booz wrth yr henuriaid, ac wrth yr holl bobl, tystion chwi heddyw i mi brynu ’r hyn oll eiddo Elimelech, a’r hyn oll eiedo Chilon, a Mahlon, o law Naomi.
10Ruth hefyd y Moabites gwraig Mahlon a brynais im yn wraig i gyfodi henw y marw ar ei etifeddiaeth ef, fel na thorrer ymmaith henw y marw oddi wrth ei frodyr, nac oddi wrth borth ei fangre ef: tystion chwi heddyw.
11A’r holl bobl y rhai yn y porth a’r henuriaid a ddywedasant, yn dystion: yr Arglwydd a roddo ’r wraig yr hon sydd yn dyfod i’th dŷ di, fel Rahel, ac fel Lea, y rhai a adailadasant ill dwy dŷ Israel, fel y gwnelech di rymmustra yn Ephrata, ac y gossodech henw yn Bethlehem:
12Bydded hefyd dy dŷ di, fel tŷ Phares (* yr hwn a ymddug Thamar i Iuda: ) o’r hâd yr hwn a ddyru ’r Arglwydd it o’r llangces hon.
13Felly Booz a gymmerodd Ruth, a hi a fû iddo yn wraig, ac efe a aeth i mewn atti hi: a’r Arglwydd a roddodd iddi hi feichiogi, a hi a ymddug fâb.
14A’r gwragedd a ddywedasant wrth Naomi, bendigêdic yr Arglwydd yr hwn ni rwystrodd it gyfathrach-wr heddyw: fel y gelwid ei henw ef yn Israel.
15Ac efe fydd i’t yn adnewyddu enioes, ac i ymgeleddu dy ben-wynnedd: canys dy waudd yr hon a’th gâr di a blantodd iddo ef, a hon well i ti na saith o feibion.
16A Naomi a gymmerth y plentyn, ac ai gossododd ef yn ei monwes, ac a fû fammaeth iddo.
17A’r chymmydogesau a roddasant iddo henw, gan ddywedyd ganwyd mâb i Naomi: ac a alwasant ei henw ef Obed, hwn tâd Isai, dâd Dafydd.
18Dymma genhedlaethau Pharez: Pharez a genhedlodd Hezron.
19A Hezron a genhedlodd Ram, a Ram a genhedlodd Aminadab.
20A Salmon a genhedlodd Booz, a Booz, a genhedlodd Obed.
21Ac Aminadab a genhedlodd Naasson, a Naasson a genhedlodd Salmah.
22Ac Obed a genhedlodd Isai, a Isai a genhedlodd Dafydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.