1Yr awr hon ymfyddina merch y fyddin, gosododd gynllwyn i’n herbyn: tarawant farn-wr Israel â gwialen ar lechwedd.
2A Math.2.6.thithe Beth-lehem Ephrata, er fod yn fechan ym mhlith miloedd Iuda, o honot ti y daw allan i mi i fod yn llywydd yn Israel: ai fynediad ef allan o’r dechreu, er dyddiau tragywyddoldeb.
3Am hynny y rhydd efe hwynt hyd amser ascor o’r hon a escord: yna gweddill ei frodyr ef a ddychwelant at feibion Israel.
4Ac efe a saif, ac a bortha â nerth yr Arglwydd, trwy ragoriaeth enw’r Arglwydd ei Dduw, ac hwynt a drigant: canys yr awr hon efe a fawrheuir hyd eithafoedd y ddaiar.
5A hwn fydd heddwch i ni pan ddel Assur i’n tîr ni, a phan sathro o fewn ein palasau: yna cyfodwn yn ei erbyn saith fugail, ac wyth o’r dynion pennaf.
6Yna y dinistriant dîr Assur a’r cleddyf, a thîr Nimrod o’r cleddyf noeth, ac efe a achub rhag Assur pan ddêl i’n tir, a phan sathro ar ein terfynau.
7A bydd gweddill Iacob ym mysc llawer o bobl fel y gwlith oddi wrth yr Arglwydd, megis defnynnau glaw ar y gwellt glâs, yr hwn ni ddisgwl ŵr, ac nid erys ar ddynion.
8A gweddill Iacob a fydd ym mysc y cenhedloedd yng-hanol pobl lawer, fel llew ym mysc bwyst-filod y goedwic, ac fel cenew-llew ym mhlith y preiddiau defaid: yr hwn pan el trwodd a sathr, ac a sclyfaetha, ac ni achubudd.
9A’th law a dderchefir yn erbyn dy wrthwyneb-wŷr: a’th holl elynion a dorrir i lawr.
10A bydd y dwthwn hwnnw medd yr Arglwydd, i mi dorri ymmaith dy feirch, a dinistrio dy gerbydau.
11Torraf hefyd i lawr ddinasoedd dy wlâd, a dymchwelaf dy holl gestyll.
12A thorraf ymmaith o’th law y swynion, ac ni bydd it ddewiniaid.
13Torraf hefyd i lawr dy luniau cerfiedic. a’th ddelwau o’th blîth: ac ni chei ymgrymmu mwyach i weithredoedd dy ddwylo dy hun.
14Diwreiddiaf dy blan-wŷdd o’th fysc hefyd: a dinistriaf dy ddinasoedd.
15Ac yn fy nig a’m llîd y gwnaf ar y cenhedloedd y fath ddialedd a’r na chlywsant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
