Rhufeiniaid 16 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVI.Wedi annerch llawer, 17 Y mae yn eu rhybyddio i ochelud gau frodyr. 20 Gan weddio a diolch i Dduw trostynt hwy.

1Yr wyf yn gorchymyn i chwi Phoebe ein chwaer, yr hon sydd wenidog i eglwys Cenchrea:

2Dderbyn o honoch hi yn yr Arglwydd megis y mae yn addas i sainct, a’i chynnorthwyo ym mhob neges y byddo rhaid iddi wrth eich help: canys hi a gynnorthwyodd lawer, a minne hefyd.

3Anherchwch Act.18.2.Pryscilla ac Aquila fynghydweith-wŷr yng-Hrist Iesu:

4(Y rhai a ddodasant i lawr eu gyddfau eu hunain tros fy mywyd i, i’r rhai nid wyfi yn vnic yn diolch, onid hefyd holl eglwysydd y cenhedloedd)

5[Anherchwch] hefyd yr eglwys yr hō sydd yn eu tŷ hwy, anherchwch fy annwyl Epenetus yr hwn yw blaen-ffrwyth Achaia yng-Hrist.

6Anherchwch Mair yr hon a gymmerodd boen lawer drosom ni.

7Anherchwch Andronicus, ac Iunia fyngheraint a’m cydgarcharoriō, y rhai sy hynod ym mhlith yr Apostolion, y rhai oeddynt yng-Hrist cyn nâ myfi.

8Anherchwch Amplias fy annwylyd yn yr Arglwydd.

9Anherchwch Vrbanus ein cydweith-wr ac Stachys fy annwylyd.

10Anherchwch Appelles y profedic yng-Hrist, anherchwch y rhai sy o Aristobulus.

11Anherchwch Herodian fyng-hâr: anherchwch y rhai sy o Narcissus, y rhai ydynt yn yr Arglwydd.

12Anherchwch Triphania a Thriphosa, y rhai a gymmerasant boen yn yr Arglwydd: anherchwch yr annwyl Persis, yr hon a gymmerodd boen lawer yn yr Arglwydd.

13Anherchwch Rufus etholedig yn yr Arglwydd, a’i fam ef a minne.

14Anherchwch Asyncritus, Phlegontes, Herma, Patrobas, Mercurius, a’r brodyr y rhai gyd ag hwy.

15Anherchwch Philologus ac Iulia, Nereus a’i chwaer, ac Olympa, a’r holl sainct y rhai ydynt gyd â hwynt.

16 1.Cor.16.20.|1CO 16:20. 2.cor.13.12.|2CO 13:12. 1.per.5.14. Anherchwch y naill y llall â chusan sanctaidd: y mae eglwys Grist yn eich annerch.

17Ac yr wyf yn attolwg i chwi frodyr edrych yn graff ar y rhai sy yn peri ang-hydfod a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddyscasoch 2.Ioan.10.ac ymogelwch rhagddynt.

18Canys y rhai sy gyfryw nid ydynt yn gwasanaethu yr Arglwydd Iesu Grist, eithr eu boliau eu hunain, a thrwy eiriau têg, a gweniaith yn twyllo calonnau y rhai diddrwg.

19Canys eich vfydd-dod chwi a ddaeth ar llêd at bawb ôll: yr wyf yn llawen gan hynny am danoch, ac etto mi a ewyllysiaf eich bod yn ddoethion tu ag at ddaioni, ac yn ddiniwed tu ag at ddrygioni.

20A Duw y tangneddyf a sathr Satan tann eich traed heb o hir: Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyd â chwi.

21Y mae Act.16.1.Timotheus fyng-hydweith-wr a Lucius, ac Iason, a Sosipater fyng-heraint yn eich annerch.

22Yr ydwyfi Tertius yn eich annerch yn yr Arglwydd, yr hwn a scrifēnodd yr Epistol hwn.

23Y mae Gaius fy lletteu-wr a’r holl eglwys yn eich annerch: y mae Erastus gorchwiliwr y ddinas yn eich annerch, a’r brawd Quartus.

24Grâs ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyd â chwi oll. Amen.

25Iddo ef yr hwn a ddichon eich cadarnhau, Ephes.3.20.yn ôl fy Efengyl a phregethiaid Iesu Grist, Ephes.3.9. coloss.1.26.gan ymddadcuddiad y dirgelwch, yr hwn oedd gyfrinachol er yn oes oesoedd:

26(Ac ar yr awr hon a eglurhawyd, ac a gyhoeddwyd ym mhlith yr holl gēhedloedd trwy scrythurau’r prophwydi, wrth orchymyn y tragywyddol Dduw er mwyn vfydd-dod ffydd)

27I Dduw yr vnic ddoeth, bydded y gogoniant trwy Iesu Grist yn oes oesedd. Amen.

Terfyn Epistol Paul at y Rhufeiniaid, yr hwn a scrifennwyd o Corinth, ac a anfonwyd gyd â Phoebe, yr hon oedd wenidog yr eglwys yn Cenchrea.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help