Gweledigaeth Ioan 10 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. X.Yr angel yr hwn yr oedd y llyfr agoredd ganddo yn tyngu na bydde amser mwy, ac yn rhoi y llyfr i Ioan, ac yntef yn ei fwytta ef.

1Ac mi a welais angel cadarn arall yn descyn o’r nef, wedi ei ddilladu ag ŵybren, ac enfys ar ei ben, ai wyneb ef ydoedd fel yr haul, a’i draed ef oeddent fel colofnau tân,

2A llyfr bychan oedd yn agored yn ei law ef, ac efe a roddodd ei droed dehau ar y môr, a’r droed asswy ar y ddaiar.

3Ac efe a lefodd â lef vchel, fel y rhûa llêw, ac wedi darfod iddo lefain, saith daran a leisiasant eu lleisiau.

4Ac wedi darfod i’r saith daran wneuthur eu lleisiau, yr oeddwn ar fedr scrifennu, ac mi a glywais lais o’r nêf yn dywedyd wrthif, selia y pethau a leisiodd y saith daran, ac na scrifenna hwynt.

5A’r angel yr hwn a welais i yn sefyll ar y môr, ac ar y tîr, a gododd ei law i’r nêf,

6Ac a dyngodd i’r hwn sydd yn byw yn dragywydd, yr hwn a greodd y nêf, a’r pethau ydynt ynddi a’r ddaiar, a’r pethau ydynt ynddi hi, a’r môr, a’r pethau sy ynddo ef, na fydde amser mwy.

7Ond yn nyddiau llais y seithfed angel, pan ddechreuo efe ganu yr vdcorn, diweddu a wneir dirgelwch Duw, fel y mynegodd efe iw wasanaeth-wŷr y prophwydi.

8A’r llais a glywais o’r nêf, a lefarodd eilwaith wrthif, ac a ddywedodd, dôs, cymmer y llyfr bychan, yr hwn sydd yn llaw’r angel, yr hwn sydd yn sefyll ar y môr, ac ar y tîr.

9Ac mi a aethym at yr angel, gan ddywedyd wrtho, dyro i mi y llyfr bychan: ac yntef a ddywedodd wrthif fi, cymmer, a llyngca ef, ac efe a wna dy fol di yn chwerw, ond efe a fydd melys yn dy enau di, fel mêl,

10Ac mi a gymmerais y llyfrau o law’r angel, ac a’i llyngcais ef, ac yr ydoedd efe yn felys yn fyng-enau megis mêl, ac wedi i mi ei lyngcu ef, fy mol a aeth yn chwerw.

11Ac efe a ddywedodd wrthif, rhai i ti brophwydo eil-waith ym mysc y bobloedd, a’r cenhedloedd, a’r tafodau, ac i lawer o frenhinoedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help